Neidio i'r prif gynnwy

O Amgylch y Lle @ Sioe Frenhinol Cymru ● Eisteddfod ● Pride Cymru

Haf yma mae nifer o’n staff yn dianc y swyddfa i gynrychioli’r rhaglen TCS mewn amryw o ddigwyddiadau ar draws Cymru. Rydym yn defnyddio’r digwyddiadau yma i gysylltu hefo’r cyhoedd trwy sgyrsiau a holiaduron i ddarganfod beth rydych chi’n meddwl ddyle fod ein prif blaenoriaethau am y wasanaeth canser newydd.

Os hoffech chi gael ei ddweud, cymerwch ein holiadur yma.

Yn ddiweddaraf, ymunodd nifer o’n staff ag ein Rheolwr Cyfathrebu ag Ymgysylltu Gail Foley yn ystod Sioe Frenhinol Cymru. Er gwaetha’r gwres, fe wnaethon ni fwynhau yn llu. Roedd yn wych cael y cyfle i siarad i nifer o bobol am y wasanaeth ag ein cynlluniau am y dyfodol. Roedden ni’n hapus i groesawi cwpwl o wynebau enwog i’r stondyn hefyd pan ddaeth y bechgyn o’r WRU i ddweud helo!

Rugby captains Welsh Show Rydym yn edrych ymlaen i gynrychioli TCS yn ystod yr Eisteddfod wythnos nesaf, wrth ymyl cynrychiolwyr o Wasanaeth Gwaed Cymru. Fe fydd gennym gemau hwyl a rhyngweithiol am yr holl deulu, ag rydym yn edrych ymlaen i gwrdd a nifer ohonoch yna. Fe fyddwn ni yn diweddaru ein Trydar a Gweplyfr tra yna, felly gwnewch yn siwr eich bod chi’n dilyn ni i dderbyn y newyddion diweddara ar y diwrnod. Os ydych am ddarganfod mwy am Eisteddfod 2016 yn Y Fenni, ewch i wefan yr Eisteddfod yma.

Rydym hefyd yn edrych ymlaen i ymuno a ddathliadau ‘Pride Cymru’ yn Nghaerdydd. Mi fydd y dathliadau yn cymrud lle yn Coopers Field yng Nghaerdydd ar y 13eg o Awst, o ganol dydd tan 21.30yh. Cyn hyn fydd gorymdaith yng nghanol y ddinas a fydd yn dechrau am 11yb. Am fwy o wybodaeth ewch i’r wefan yma.

 

Os ydych yn bwriadu dod i’r digwyddiadau uchod, dewch i ddweud helo! Yn ogystal, ymunwch a’n cylchlythyr, a dilynwch ni ar Gweplyfyr a Trydar.