Mae gwaith yn mynd rhagddo ar yr Uned 'Loeren' Radiotherapi newydd gwerth £38 miliwn yn Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni.
Bydd yr uned, sydd i agor yn 2025, yn darparu gwasanaethau radiotherapi yn nes at gartrefi trigolion Gwent a'r rheiny sy'n byw yng ngogledd a dwyrain dalgylch Canolfan Ganser Felindre.
Mae'r Uned Loeren Radiotherapi yn rhan o'r Rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Canser fel datblygiad allweddol i hwyluso gwasanaethau amserol ac effeithiol i boblogaeth de-ddwyrain Cymru.
Mae’r uned hon yn rhan o’n perthynas waith gydweithredol, hirsefydlog gyda’r byrddau iechyd yn ne ddwyrain Cymru. Rydym yn gweithio gyda'n gilydd i adeiladu'r model gofal gorau sy'n sicrhau bod ein cleifion yn parhau i dderbyn y gwasanaethau triniaeth sydd eu hangen arnynt yn rhan o'u taith canser.
Bydd y buddsoddiad yn darparu triniaeth newydd a gwell i gleifion canser, yn darparu gwasanaethau radiotherapi diogel, ac yn gwella gallu ac effeithlonrwydd y gwasanaeth - trwy ddarparu triniaeth gyflymach sydd wedi'i thargedu'n well.
Bydd yr uned yn cynnig: