Neidio i'r prif gynnwy

Acordion SRU

14/01/25
Beth mae'r prosiect yn ceisio ei gyflawni?

Yr uchelgais yw darparu cyfleuster o'r radd flaenaf a fydd yn darparu gofal arbenigol i gleifion canser o'r ardal honno.

Bydd yr SRU yn darparu ystod o wasanaethau radiotherapi i gleifion ar draws poblogaeth dalgylch gogleddol De-ddwyrain Cymru.

Yn ogystal, bydd yr SRU yn cefnogi’r nVCC i ddod yn ganolbwynt rhyngwladol ar gyfer ymchwil, dysgu, technoleg ac arloesi.

Mae'r rhaglen gyfredol yn dangos cwblhau cytundebol yn gynnar yn 2025. Mae cyd-ddatblygu gwasanaethau clinigol a llwybrau dan CLG ar y gweill.

14/01/25
Pam mae'r prosiect wedi cael ei sefydlu?

Mae gan radiotherapi rôl bwysig wrth drin canser gan y bydd tua hanner yr holl gleifion canser yn cael radiotherapi fel rhan o'u triniaeth. Yn ogystal, mae 4 o bob 10 claf yn cael eu gwella gan radiotherapi (Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) a'r Asiantaeth Ynni Atomig Rhyngwladol (IAEA)).

Bydd yr uned, sydd i agor erbyn Gwanwyn 2025, yn darparu gwasanaethau radiotherapi yn nes at gartrefi trigolion Gwent a'r rhai sy'n byw yng ngogledd a dwyrain dalgylch Canolfan Ganser Felindre.

Bydd Uned Radiotherapi Lloeren Felindre yn Nevill Hall yn darparu 20% o wasanaeth radiotherapi Gwasanaethau Canser Felindre.

Mae model rhwydwaith yn cael ei ddefnyddio gan ganolfannau canser blaenllaw ledled y byd sy’n sicrhau canlyniadau da, a dyna pam yr ydym yn cynnig newid i wasanaethau radiotherapi yn ein rhanbarth fel y byddant yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

14/01/25
Beth fydd manteision yr uned?

Mae manteision allweddol yr Uned Radiotherapi Lloeren yn cynnwys:

  • Capasiti ychwanegol ar gael i ateb y galw a ragwelir
  • Llai o amser teithio i gleifion a gofalwyr
  • Gwell mynediad at driniaeth a threialon clinigol yn arwain at ganlyniadau clinigol gwell
  • Mae llwybr gofal di-dor ar gael i gleifion mewn un lle
  • Gwell profiad i gleifion a gofalwyr
  • Gweithlu mwy gwydn a hyblyg
  • Gwell boddhad staff
  • Gwell diogelwch a chydymffurfiaeth â safonau
  • Gwell cynaliadwyedd, gwytnwch, a diogelu at y dyfodol
  • Cyfleoedd i ddenu buddsoddiad pellach