Fis Medi diwethaf, lansiodd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre gystadleuaeth i ddatblygu Canolfan Ganser newydd Felindre.
Mae'r gystadleuaeth bellach wedi cau a'n tasg nesaf yw dewis ein ymgeisydd llwyddiannus erbyn diwedd Gorffennaf 2022.
Rydym am rannu dyluniad y ceisiadau a dderbyniwyd gyda chi wrth i ni symud ymlaen i'r cam dylunio nesaf.
Yr hyn yr hoffem i chi ei wneud
Ar y dudalen hon, fe welwch ddolenni i gyflwyniadau yn amlinellu'r cyflwyniadau a grëwyd gan y ddau ymgeisydd – cynigydd A (Future Health) a cynigydd B (Acorn).
Pan fyddwch yn clicio ar y blychau isod, fe welwch ddwy set o sleidiau – un wedi'i ddarparu gan bob ymgeisydd.
Rydym wedi tynnu ynghyd rai sleidiau sy'n rhoi ychydig o gefndir i chi ar y brîff dylunio a rannwyd gyda'r cynigwyr ar ddechrau'r broses ddylunio.
Os hoffech edrych ar y sleidiau gallwch wneud hynny drwy glicio ar y dolenni isod ac os oes gennych yr amser, gallwch rannu eich barn gyda ni. Mae gennych tan 25 Gorffennaf i wneud hynny.
Bydd yr ymatebion yn cael eu hystyried wrth i ni symud ymlaen i gam nesaf y broses ddylunio.