Neidio i'r prif gynnwy

Rhagor o wybodaeth am ein ceisiadau cynllunio

Gwneud sylwadau ar ein ceisiadau cynllunio

Mae llawer o’n cefnogwyr wedi bod mewn cysylltiad i ofyn sut y gallant gymryd rhan ym mhroses gynllunio Cyngor Dinas Caerdydd.

Cafodd cais cynllunio amlinellol ar gyfer Canolfan Ganser Felindre newydd ei ddyfarnu gan Gyngor Dinas Caerdydd yn 2018, a chyflwynwyd dau gais cysylltiedig pellach i’r Cyngor ym mis Mehefin, ar gyfer adeiladu ffyrdd mynediad i’r ganolfan.
Gallwch gefnogi, gwrthwynebu neu wneud sylwadau ar y ceisiadau gyda’r cyngor.
Gallwch anfon eich llythyr at: DCConsultations@cardiff.gov.uk.
Bydd eich enw, ond nid eich cyfeiriad yn cael ei roi yn y parth cyhoeddus.


Dylai eich llythyr dynnu sylw at y canlynol:
1.    Rhifau cyfeirnod y cais/ceisiadau cynllunio. Y rhain ydy 20/01108/MJR ar gyfer ein cais ar gyfer ffordd mynediad Asda, a 20/01110/MJR ar gyfer ein cais ar gyfer adeiladu ffordd fynediad dros dro drwy Ysbyty’r Eglwys Newydd.
2.    Eich cyfeiriad, yn cynnwys cod post
3.    Eich sylwadau ar gyfer ein ceisiadau cynllunio i adeiladu Canolfan Ganser Felindre newydd

Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda’r gymuned leol, ein cleifion, eu gofalwyr a staff i wneud i hyn weithio, ac rydym bob amser yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth.