Mae Canolfan Ganser Felindre yn darparu gwasanaethau canser arbenigol ar gyfer y 1.5 miliwn o bobl sy’n byw yn Ne Ddwyrain Cymru.
Mae’r Ganolfan Ganser yn cael ei rhedeg gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre. Yn 2015, sefydlodd yr Ymddiriedolaeth Raglen Trawsnewid Gwasanaethau Canser yn Ne Dddwyrain Cymru. Amcanion y rhaglen yw:
• Darparu gwasanaethau o ansawdd sy’n darparu’r canlyniadau gorau posibl i gleifion a gofalwyr
• Darparu gwasanaethau canser cynaliadwy i’r boblogaeth yn y ffordd fwyaf effeithiol
• Bod yn arweinydd ym maes addysg, ymchwil, datblygu ac arloesi
• Cydymffurfio â safonau perthnasol
Er mwyn cyflawni’r amcanion hyn, rydym wedi creu saith prosiect:
1. gwaith galluogi ar gyfer y Ganolfan Ganser Felindre newydd
2. Canolfan Ganser Felindre newydd
3. Digidol ac offer
4. Canolfan radiotherapy lloeren
5. Allgymorth
6. Darparu gwasanaethau a phontio
7. Datgomisiynu Canolfan Ganser Felindre
Rydym wedi cynhyrchu ffilm fer i esbonio lle mae cleifion yn debygol o gael eu triniaeth a’u gofal yn y dyfodol.