Defnyddiwch y botymau '+' isod i ddatgelu'r atebion i rai o'n Cwestiynau Cyffredin
Mae’r ap ‘Velindre Keep Me Safe’ yn cynnig y cyfle i chi gwblhau eich rhestr wirio ar gyfer asesu triniaeth cyn cael SACT ar eich dyfais symudol, ar amser sy’n gyfleus i chi, gan ei gwneud yn fwy cyfleus a chael gwared ar yr angen i chi aros am alwad gan y Tîm VAP.
Ydy, yn syml, chwiliwch am 'Velindre Keep Me Safe' trwy deipio yn y bar chwilio. Mae'r eicon yn edrych fel hyn:
Gallwch lawrlwytho’r ap 'Velindre Keep Me Safe' yn yr Apple App Store. Chwiliwch am 'Velindre Keep Me Safe' a dilynwch y cyfarwyddiadau i'w lawrlwytho a'i osod ar eich dyfais symudol. Os ydych chi’n cael anhawster, defnyddiwch ein canllaw defnyddiol ‘How to’, neu edrychwch ar ein fideo hyfforddi i'ch helpu:
Ydy, mae 'Velindre Keep Me Safe' am ddim i'w lawrlwytho a'i ddefnyddio. Does dim angen talu unrhyw ffioedd tanysgrifio na phrynu unrhywbeth yn yr ap i gael mynediad at unrhyw un o'r nodweddion.
Mae’r ap 'Velindre Keep Me Safe' yn gydnaws â dyfeisiau Apple iPhone ac iPad sydd â systemau gweithredu iOS 14 (neu uwch) wedi'u gosod.
Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth, a gallwch roi adborth ar eich profiad trwy’r ap Velindre Keep Me Safe ei hun. Mae dolen i'r ffurflen adborth ar yr ochr chwith, ar waelod y sgrin gartref.
Ydy, rydym yn cymryd diogelwch a phreifatrwydd eich gwybodaeth bersonol o ddifrif. Nid oes unrhyw fanylion personol yn cael eu storio ar yr ap ‘Velindre Keep Me Safe’, ac mae eich rhestrau gwirio wedi’u cwblhau yn ddienw ar Ddangosfwrdd ‘Velindre Keep Me Safe’ yn y Clinig VAP yn Felindre, sydd y tu ôl i waliau tân y GIG.
Bydd y Tîm VAP yn anfon cod mynediad claf unigryw atoch trwy e-bost. I greu eich cyfrif, bydd angen i chi roi hwn yn yr ap y tro cyntaf i chi ei ddefnyddio. Yna, bydd eich cyfrif yn cael ei gysylltu ag ID Claf unigryw Velindre Keep Me Safe, a bydd y Tîm VAP yn ei ddefnyddio i nodi'r rhestrau gwirio rydych chi wedi'u cwblhau.
Peidiwch â phoeni! Os rhoddir cod mynediad anghywir yn yr ap, ni allwch fewngofnodi. Bydd neges yn ymddangos mewn coch o dan y bocs cod mynediad, yn gofyn i chi roi ID dilys.
Os ydych chi’n credu eich bod chi wedi ateb cwestiwn yn anghywir, gallwch fynd yn ôl a newid eich ateb trwy glicio ar y botwm yn ôl ar gornel chwith uchaf y sgrin (fel siâp triongl). Os ydych chi eisoes wedi cwblhau eich rhestr wirio ac wedi clicio 'parhau' ar y sgrin derfynol, wedyn, bydd y rhestr wirio yn cael ei chyflwyno i'r Tîm VAP, ac ni fyddwch yn gallu mynd yn ôl i adolygu'ch atebion. Os ydych chi’n credu eich bod chi wedi ateb unrhyw gwestiynau yn anghywir, cysylltwch â'r Tîm VAP.
Os oes angen cymorth arnoch neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr ap 'Velindre Keep Me Safe', rydym yn argymell eich bod chi’n gwirio'r dudalen Cwestiynau Cyffredin hon, ein canllawiau 'How-to' a’n fideo hyfforddi yn y lle cyntaf. Os na allwch ddod o hyd i'r ateb rydych chi’n chwilio amdano, cysylltwch â'r Tîm VAP.