Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod wedi cael diagnosis o ganser, mae'n debygol eich bod chi'n ymwybodol o werth lles.
Mae costau byw cynyddol yn gallu achosi pryder ac aflonyddwch i'r ffordd rydyn ni eisiau byw ein bywydau. Mae hyn yn gallu cael effaith negyddol ar ein lles.
Mae'n bwysig cydnabod lles meddyliol isel, a chymryd camau i ofalu amdanom ni ein hunain.
Mae llawer o ffactorau gwahanol i’w hystyried wrth feddwl am eich lles, ac mae digon o opsiynau rhad ac am ddim neu sydd ddim yn costio llawer ar gael i chi. Gadewch i ni edrych isod.
Mae ein therapyddion yng Nghanolfan Ganser Felindre yn gweithio yn eu timau proffesiynol yn ogystal â gweithio ar y cyd â therapyddion eraill a'r tîm ehangach o weithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghanolfan Canser Felindre. Yn ogystal, maen nhw’n gweithio mewn partneriaeth â'u cydweithwyr yn eich bwrdd iechyd lleol i ddarparu, cefnogi a chyflwyno gofal rhagorol i gleifion.
Mae gennym nifer o adnoddau sydd ar gael i chi. I lawrlwytho'r adnoddau hyn, cliciwch ar yr eiconau isod.
Bydd y clinigwyr sy'n darparu eich gofal yn asesu eich anghenion ar wahanol adegau o'ch triniaeth. Lle bo'n briodol, byddant yn gwneud atgyfeiriadau i chi dderbyn cefnogaeth ychwanegol gan adrannau arbenigol.
Os ydych chi’n credu y gallech elwa o atgyfeiriad neu os hoffech wybod mwy am yr opsiynau sydd ar gael i chi, siaradwch â chlinigwr yn eich apwyntiad nesaf.