Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Seicoleg Glinigol a Chwnsela

Yn Felindre, mae'r Gwasanaeth Seicoleg Glinigol a Chwnsela yn asesu ac yn helpu pobl i reoli'r anawsterau seicolegol ac emosiynol sy'n codi o ganlyniad i ganser. Mae’r gwasanaeth yn gallu eich cyfeirio at ystod enfawr o wasanaethau cymorth i'ch helpu.

Rydyn ni'n gwybod y gall yr effaith seicolegol o fyw gyda chanser gael ei ddwysáu gyda chostau byw cynyddol, ac rydyn ni yma i'ch helpu. Dysgwch am ein tîm, ac am y gwasanaeth maen nhw'n ei ddarparu.

Rydym yn cynnig therapi siarad i bobl sy'n byw gydag effaith canser, i'w helpu i deimlo'n fwy abl i ymdopi â'u sefyllfa a'u teimladau anodd. Rydyn ni’n dysgu amrywiaeth o strategaethau hefyd i helpu pobl i ymdopi â’u teimladau, yn unigol neu mewn grwpiau gydag eraill a allai deimlo'r un fath.

Os ydych chi’n teimlo y gallech chi elwa o siarad â rhywun neu ddysgu sut i reoli eich gofidiau a'ch pryderon, gofynnwch i'ch clinigwyr, fel eich nyrs neu eich meddyg, i'ch cyfeirio at ein tîm. Gallwch ofyn i'ch meddyg teulu a allai eich cyfeirio at rywun yn lleol hefyd.