Pan fyddwch chi neu rywun sy'n agos atoch yn cael diagnosis o ganser, gallwch brofi teimladau o ofid. Poeni, ofn, dicter, tristwch, diymadferthwch - dim ond ychydig o deimladau sy'n gyffredin yw'r rhain, ac mae’r cyfan yn gyffredin iawn.
Mae'r teimladau hyn yn normal hefyd wrth wynebu rhai o broblemau ehangach y byd, fel costau byw cynyddol. Mae hyn wedi cynyddu straen a phryder i lawer o bobl, ac ynghyd â diagnosis o ganser, rydym yn gwybod ei fod yn gallu teimlo fel bod pwysau’r byd ar eich ysgwyddau. Efallai eich bod chi'n teimlo wedi'ch llethu, ac mae hyn yn naturiol.
Yn ogystal â'r cymorth ariannol a lles rydyn ni'n ei roi i gleifion canser yng Nghanolfan Ganser Felindre, rydyn ni'n ymwybodol bod cefnogaeth emosiynol yr un mor bwysig. Yn ystod y cyfnod hwn, mae dysgu strategaethau newydd i reoli teimladau gofidus fel gorbryder a phryder yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i'ch iechyd meddwl.
Er na fydd yn newid eich sefyllfa ariannol, mae hunanofal yn dod yn bwysicach fyth pan fydd gennych lawer o bryderon.
Weithiau, mae poeni’n gallu teimlo'n llethol. Os fydd hyn yn digwydd i chi, dyma rywfaint o gamau ymarferol y gallwch eu cymryd.
Os ydych yn mwynhau darllen, mae gan eich llyfrgell leol amrywiaeth o lyfrau hunanofal i gefnogi eich iechyd meddwl.
Os ydych chi'n mwynhau gwylio fideos, mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru gyfres wych o fideos i'n helpu ni i ddeall sut mae ein meddyliau'n gweithio. Mae'r fideos yn dysgu strategaethau i reoli ein meddyliau.
Mae Relate wedi llunio canllaw defnyddiol iawn ar gyfer ffyrdd o siarad am arian yn eich perthynas.
Mae gennym nifer o adnoddau eraill ar gael i chi hefyd:
Bydd y clinigwyr sy'n darparu eich gofal yn asesu eich anghenion ar wahanol adegau o'ch triniaeth. Lle bo'n briodol, byddant yn gwneud atgyfeiriadau i chi dderbyn cefnogaeth ychwanegol gan adrannau arbenigol.
Os ydych chi’n credu y gallech elwa o atgyfeiriad neu os hoffech wybod mwy am yr opsiynau sydd ar gael i chi, siaradwch â chlinigwr yn eich apwyntiad nesaf.