Rydym yn gwybod bod derbyn diagnosis canser yn aml yn cael effaith ar arian os ydych chi’n gweithio neu ddim yn gweithio. Ar ben hynny, mae llawer o bobl wedi teimlo straen pellach wrth geisio rheoli eu harian oherwydd y cynnydd diweddar mewn costau byw.
Ers dechrau’r pandemig coronafeirws (COVID-19), rydym wedi gweld mwy o gleifion ag incwm coll neu is, ac sydd angen cyngor a chefnogaeth. Rydyn ni wedi helpu llawer ohonyn nhw i deimlo'n llai agored i niwed, ac mae hyn wedi parhau yn ddiweddar.
Yma yng Nghanolfan Ganser Felindre, mae gennym dîm Hawliau Lles Macmillan profiadol, sy'n deall y pwysau y gallech eu hwynebu. Bydd ein gwasanaeth cyfrinachol yn gwrando arnoch heb feirniadu, ac yn cynnig cyngor sy'n sensitif i'ch sefyllfa.
Gall tîm Hawliau Lles Macmillan Felindre:
Os hoffech gael apwyntiad gyda'n tîm Hawliau Lles, cysylltwch â: 02920 316277, neu anfonwch eich manylion drwy e-bost i vcc.supportivecare@wales.nhs.uk
Dylech fod yn ymwybodol o fudd-daliadau y wladwriaeth a chymorth ariannol y gallech fod â hawl i'w cael bob amser. Isod, mae budd-daliadau a allai fod yn berthnasol i chi eich hun neu i rywun rydych chi’n ei garu.
Os ydych chi'n gofalu am rywun sydd â chanser, efallai y gallwch hawlio budd-daliadau, fel lwfans gofalwr. Gall ein tîm Hawliau Lles Macmillan eich cynghori chi neu eich anwyliaid.
Efallai eich bod chi'r un mor bryderus am gostau byw ag yr ydych chi ynglŷn â'ch diagnosis canser.
Gall y gost o wresogi eich cartref, bwyta, a theithio fod yn gostus dros ben. Mae'n bwysig bod yn ymwybodol o'r gefnogaeth sydd ar gael i chi, i'w atal rhag achosi ymyriadau i'ch triniaeth, fel colli apwyntiadau.
Os ydych chi'n cael anawsterau wrth dalu'ch biliau, rydym yn argymell eich bod chi’n cysylltu â'ch cyflenwr cyn gynted â phosibl, a chael gwybod am yr opsiynau sydd ar gael.
Dyma ragor o wybodaeth ddefnyddiol.
Mae gennym nifer o adnoddau sydd ar gael i chi. I lawrlwytho'r adnoddau hyn, cliciwch ar yr eiconau isod.
Bydd y clinigwyr sy'n darparu eich gofal yn asesu eich anghenion ar wahanol adegau o'ch triniaeth. Lle bo'n briodol, byddant yn gwneud atgyfeiriadau i chi dderbyn cefnogaeth ychwanegol gan adrannau arbenigol.
Os ydych yn credu y gallech elwa o atgyfeiriad neu os hoffech wybod mwy am yr opsiynau sydd ar gael i chi, siaradwch â chlinigwr yn eich apwyntiad nesaf.