Neidio i'r prif gynnwy

Asesiadau Iechyd Digidol

Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cyflwyno system newydd i'n helpu i ddeall cyflwr claf yn well ar wahanol gamau o fewn eu llwybr triniaeth.

 

Mae'r system PROMs Digidol (Mesurau Canlyniad a Adroddir gan Gleifion) yn galluogi Gwasanaeth Canser Felindre i gyhoeddi holiaduron strwythuredig i gleifion ar adegau penodol ar hyd eu llwybr, gyda'u hymatebion ar gael mewn amser real. Yn y tymor hwy, bydd yr ymatebion hyn yn weladwy trwy Borth Clinigol Cymru (WCP)* y claf ar gyfer clinigwyr ac Ap y GIG ar gyfer cleifion. Fel mesur dros dro, bydd clinigwyr yn cael mynediad at yr ymatebion ar borth y darparwr ac o adroddiadau neu ddangosfyrddau trwy'r Warws Data.

Bydd y wybodaeth hon yn helpu ein timau clinigol i fonitro cynnydd a gwneud penderfyniadau gwybodus am ofal claf.

*Mae Porth Clinigol Cymru (PCC) yn blatfform digidol diogel sy'n rhoi mynediad integredig i wybodaeth am gleifion i glinigwyr ledled Cymru. Mae'n symleiddio llif gwaith ac yn sicrhau bod gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol y data cleifion diweddaraf wrth law, gan wella ansawdd a chydlyniad gofal.


Cwestiynau Cyffredin

 

Sut fydd Asesiadau Iechyd Digidol yn fy helpu? 

Bydd monitro eich symptomau drwy ffurflenni digidol yn helpu eich tîm gofal iechyd i ddeall eich iechyd yn well.  

Bydd yn gwella sut rydym yn darparu gofal i chi ac yn eich cefnogi i wneud penderfyniadau mwy gwybodus a dewis y driniaeth orau.  

Gwyddom o waith blaenorol yn y maes hwn y gallai mynd i'r afael ag unrhyw broblemau sydd gennych yn gynt arwain at dderbyniadau i’r ysbyty’n llai aml, gwell ansawdd bywyd a gwell goroesiad. 

 

Sut byddaf yn derbyn fy Asesiad Iechyd Digidol?

Pan fydd gennych asesiad iechyd digidol newydd i'w gwblhau, byddwch yn derbyn neges gennym ni. Y neges gyntaf fydd neges groeso gan GIG Cymru drwy neges destun neu e-bost. 

Yn fuan wedyn, byddwch yn derbyn neges destun neu e-bost arall yn gofyn i chi gwblhau eich asesiad iechyd digidol a fydd yn cynnwys eich dolen unigryw sy'n dechrau gyda https://nhs-wales.promptly.health/  

Cliciwch ar eich dolen unigryw a llenwch y ffurflen mor gywir ac onest ag y gallwch. Gofynnwn i chi gyflwyno'r ffurflen ar y diwedd. Dyma sut y gall eich tîm clinigol weld eich ymatebion. 

 

Pam nad ydw i wedi derbyn Asesiad Iechyd Digidol eto? 

Rydym yn ehangu'r defnydd o Asesiadau Iechyd Digidol ar draws ein harbenigeddau. Efallai nad yw eich cyflwr wedi'i ffurfweddu eto. Mae'r meysydd canlynol bellach yn defnyddio systemau digidol:  

  • Yr Ysgyfaint 

  • Niwro-oncoleg 

  • Prostad 

Os ydych chi'n credu y dylech chi dderbyn asesiad digidol, ond nad ydych chi wedi gwneud hynny eto, rhowch wybod i'ch clinigwr neu cysylltwch â'r tîm drwy e-bost VBHC.VUNHST@wales.nhs.uk fel y gallwn ni ymchwilio. 

 

Sut i optio allan o'r gwasanaeth 

Mae'n bosibl optio allan o dderbyn y ceisiadau hyn drwy ddewis "datdanysgrifio" o'r ddewislen gosodiadau. Ar ôl i chi ddatdanysgrifio, ni fyddwch yn gallu cwblhau holiaduron iechyd digidol fel y gofynnwyd gan y tîm clinigol. Os hoffech ail-danysgrifio, rhowch wybod i'ch clinigwr neu cysylltwch â'r tîm drwy e-bostioVBHC.VUNHST@wales.nhs.uk

 

Cliciwch yma i weld yr Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer PROMS Digidol.