Taflen wybodaeth ar gemotherapi Etoposide, Doxorubicin a Cisplatin
Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gemotherapi etoposide, doxorubicin a cisplatin. Bydd y daflen yn esbonio beth yw hyn a sut a phryd y bydd yn cael ei rhoi. Bydd yn rhoi gwybod i chi hefyd am unrhyw sgîl-effeithiau cyffredin y gallech eu dioddef. Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am etoposide, doxorubicin a cisplatin ar ddiwedd y daflen hon.
Dylech ddarllen y daflen hon ochr yn ochr â’r daflen ‘Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy’n cael cemotherapi’. Os nad ydych wedi derbyn y daflen hon, gofynnwch i’ch nyrs am gopi.
Mae eich 'tîm arbenigol' yn cyfeirio at eich tîm oncoleg yng Nghanolfan Ganser Felindre, sy'n cynnwys meddygon, nyrsys arbenigol a rhagnodwyr annibynnol anfeddygol a allai fod yn nyrs neu'n fferyllydd.
Beth yw etoposide, doxorubicin a cisplatin?
Tri cemotherapi ydy etoposide, doxorubicin a cisplatin sydd yn cael eu rhoi trwy ddrip.
Pam ydw i’n cael etoposide, doxorubicin a cisplatin?
Mae eich meddyg wedi rhagnodi’r cemotherapi hwn i chi gan ei fod yn effeithiol o ran rheoli’r math o ganser sydd gennych.
Pa mor aml y byddaf yn derbyn etoposide, doxorubicin a cisplatin?
Er mwyn i’r driniaeth hon fod ar ei mwyaf effeithiol, bydd yn cael ei rhoi ar gyfnodau amser penodol. Mae’r rhain yn cael eu galw’n gylchoedd. Byddwch yn cael eich triniaeth dros bedwar diwrnod ar yr unedau dydd.
Bydd eich tîm yn egluro faint o gylchoedd y byddwch yn eu cael.
Pa mor aml y byddaf yn gweld y tîm arbenigol?
Byddwch yn gweld y tîm arbenigol cyn pob cylch. Byddwch naill ai’n gweld eich tîm arbenigol yn y clinig, neu efallai y byddant yn eich ffonio chi.
Byddwch yn cael profion gwaed rheolaidd, a byddwn yn gofyn sut rydych chi’n teimlo ac yn trafod unrhyw broblemau a allai fod gennych. Rydym yn gwneud hyn fel y gallwn weld sut mae’r cemotherapi’n effeithio arnoch chi. Os yw eich canlyniadau gwaed yn foddhaol, byddwn yn mynd ymlaen ac yn rhoi’r cemotherapi i chi.
Faint o amser fydd yn rhaid i mi ei dreulio yn yr ysbyty?
Bydd eich triniaeth ar ddiwrnod gwahanol i’ch apwyntiad yn y clinig fel arfer. Bydd y driniaeth cemotherapi’n cymryd gwahanol faint o amser ar bob diwrnod. Dyma’r amseroedd yn fras:
A gaf i ddod â pherthnasau a ffrindiau gyda mi?
Ar hyn o bryd, oherwydd yr angen i sicrhau gofod o 2m rhwng cleifion yn ystod COVID-19, nid ydym fel arfer yn caniatáu i unrhyw un aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Os oes gennych unrhyw bryderon am hyn, siaradwch â'ch tîm cyn i'ch triniaeth ddechrau. Efallai y gallwn wneud rhywfaint o eithriadau, ond bydd angen i ni fod yn ymwybodol o hyn cyn diwrnod y driniaeth.
Sut fydd fy nghemotherapi yn cael ei roi?
Mae etoposide, doxorubicin a cisplatin yn cael eu rhoi trwy ddrip i mewn i wythïen yng nghefn eich llaw neu’ch braich. Mewn rhai amgylchiadau, gellir awgrymu bod tiwb main o’r enw lein PICC yn cael ei osod i mewn i wythïen fawr yn rhan uchaf eich braich. Bydd y tiwb hwn yn aros yn ei le drwy gydol eich triniaeth. Bydd eich meddyg neu eich nyrs yn trafod hyn yn fwy manwl gyda chi, ac yn rhoi taflen i chi, os oes angen.
sy’n esbonio mwy am leiniau PICC.
Beth yw’r sgîl-effeithiau posibl?
Mae nifer o sgîl-effeithiau posibl yn gallu codi gyda’r driniaeth hon. Gall y meddygon, y nyrsys a’r fferyllwyr roi cyngor i chi, neu ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.
Colli gwallt
Yn anffodus, bydd etoposide a doxorubicin yn gwneud i chi golli eich gwallt neu yn gwneud i’ch gwallt deneuo. Dim ond rhywbeth dros dro yw hyn. Bydd eich gwallt yn tyfu nôl unwaith y bydd eich triniaeth wedi dod i ben.
Mae gennym daflen sy'n dweud mwy wrthych am ymdopi â cholli gwallt. Gofynnwch i'ch tîm arbenigol os hoffech chi gael copi.
Teimlo’n sâl
Mae teimlo’n sâl a chwydu yn anghyffredin y dyddiau hyn, gan y byddwn yn rhoi meddyginiaethau gwrth-salwch i chi sydd fel arfer yn hynod effeithiol. Os byddwch yn chwydu mwy nag unwaith mewn 24 awr, er eich bod yn cymryd meddyginiaeth wrthgyfog yn rheolaidd, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen hon.
Haint
Bydd eich risg o ddal haint yn uwch, gan y gall y driniaeth hon leihau eich celloedd gwaed gwyn sy’n helpu i drechu heintiau.
Os ydych chi’n dal haint tra bod eich celloedd gwaed gwyn yn isel, rydych chi mewn perygl o ddal sepsis, ac mae hyn yn gallu bygwth bywyd.
Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft, symptomau sy’n debyg i’r ffliw neu dymheredd sy’n uwch na 37.5° neu’n is na 35.5°. Mae’r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen hon.
Newidiadau yn lliw eich wrin
Bydd doxorubicin yn afliwio eich wrin yn goch am ddiwrnod ar ôl eich cemotherapi. Os bydd hyn yn para mwy na 24 awr, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre.
Effeithiau ar eich calon
Mae doxorubicin yn gallu achosi problemau’r galon. Os oes gennych broblem ar y galon, dywedwch wrth eich meddyg cyn i chi ddechrau ar eich triniaeth. Dywedwch wrth eich meddyg os ydych chi’n sylwi eich bod yn dioddef o ddiffyg anadl, crychguriadau’r galon neu boen yn y frest.
Effaith ar eich arennau
Mae cisplatin yn gallu effeithio ar y ffordd mae eich arennau’n gweithio. Byddwn yn gwirio sut mae eich arennau’n gweithio ar ddechrau eich triniaeth. Byddwn yn eich monitro’n ofalus hefyd, drwy gymryd profion gwaed rheolaidd drwy gydol eich triniaeth.
Rydym yn rhoi cisplatin gyda digon o hylif yn y drip bob amser, er mwyn lleihau’r effaith ar eich arennau. Mae’n bwysig eich bod chi’n yfed digon o hylif am o leiaf dau ddiwrnod ar ôl pob triniaeth hefyd. Rydym yn awgrymu cael cwpanaid neu wydraid o hylif bob awr yn ystod y dydd a chyda’r nos.
Effeithiau ar eich nerfau
Mae cisplatin yn gallu niweidio nerfau eich dwylo a’ch traed. Mae’n bosibl y byddwch yn colli teimlad neu’n gweld newid mewn synhwyriad fel goglais neu binnau bach. Er bod hyn yn anghyffredin iawn, mae’n bwysig dweud wrth eich meddyg os bydd hyn yn digwydd, fel y gallwn addasu eich triniaeth cyn i’r sgîl-effaith hon ddod yn barhaol.
Mae cisplatin yn gallu niweidio’r nerfau sy’n gyfrifol am glyw hefyd, ond mae hyn yn anghyffredin. Os bydd hyn yn digwydd, mae’n bosibl y byddwch yn colli eich clyw i ryw raddau, a gallai hyn fod yn barhaol.
Niwed i'r croen a'r meinwe
Efallai y bydd rhai cyffuriau cemotherapi yn difrodi'r croen a'r ardal o’i gwmpas, os byddant yn gollwng y tu allan i’ch gwythïen. Mae hyn yn cael ei alw’n elifiad. Nid yw hyn yn digwydd yn aml iawn, ond mae'n bwysig eich bod yn dweud wrthym ar unwaith os byddwch yn sylwi ar unrhyw boen neu losgi ar safle'r drip. Os yw hyn yn digwydd tra bod y cemotherapi yn cael ei roi, dywedwch wrth eich nyrs. Os byddwch yn sylwi ar boen, chwyddo neu gochni pan fyddwch gartref, cysylltwch â ni ar unwaith. Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen hon.
Dolur rhydd
Nid yw dolur rhydd yn gyffredin gyda’r cemotherapi hwn. Fodd bynnag, os byddwch yn agor eich perfedd bedair gwaith neu’n fwy na’r hyn sy’n arferol i chi dros gyfnod o 24 awr, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith. Mae’r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen hon.
Blinder a lludded
Mae cemotherapi yn gallu gwneud i chi deimlo’n fwy blinedig na’r arfer. Mae’n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os bydd angen i chi wneud hynny, ond dylech barhau â’ch gweithgareddau arferol os ydych chi’n teimlo eich bod chi’n gallu gwneud hynny. I rai pobl, gall ychydig o ymarfer corff ysgafn fod yn fuddiol, yn ogystal â gorffwys.
Anaemia
Mae’r driniaeth hon yn gallu eich gwneud chi’n anemig; mae'n gyffredin i gleifion sy'n derbyn etoposide, doxorubicin a cisplatin ofyn am drallwysiad gwaed. Bydd eich tîm yn monitro eich gwaed i wirio am anemia.
Beichiogrwydd a bwydo o’r fron
Mae’n bwysig nad ydych yn beichiogi nac yn dod yn dad tra’ch bod chi’n cael triniaeth cemotherapi, neu am o leiaf chwe mis ar ôl y driniaeth, gan y gallai cemotherapi niweidio’r baban heb ei eni.
Nid ydym yn cynghori eich bod chi’n bwydo o’r fron yn ystod cemotherapi, gan y gellid trosglwyddo'r cyffuriau i fabi drwy laeth y fron.
Sgîl-effeithiau eraill:
Weithiau, mae cyffuriau canser yn gallu cael sgîl-effeithiau difrifol iawn, sydd weithiau, ond dim yn aml iawn, yn gallu peryglu bywyd. Mae'n bwysig rhoi gwybod i Ganolfan Ganser Felindre os ydych chi’n pryderu am unrhyw sgîl-effeithiau.
Mae diagnosis o ganser yn gallu cynyddu eich risg o ddatblygu clot gwaed (thrombosis), ac mae triniaeth canser yn gallu cynyddu'r risg hwn ymhellach. Mae'n bwysig dweud wrth eich meddyg ar unwaith os oes gennych symptomau fel poen, cochni a chwydd yn eich coes, neu os ydych yn dioddef o ddiffyg anadl a phoen yn eich brest.
Mae clotiau gwaed yn gallu bod yn ddifrifol iawn ond fel arfer, gellir trin y rhan fwyaf o glotiau yn llwyddiannus gyda chyffuriau i deneuo'r gwaed. Gall eich meddyg neu eich nyrs roi mwy o wybodaeth i chi.
Taflenni gwybodaeth y gwneuthurwyr i gleifion
Mae taflenni Felindre yn rhoi gwybodaeth am sgîl-effeithiau cyffredin (nid ydym yn gallu rhestru’r holl sgîl-effeithiau). I gael rhagor o wybodaeth ynghylch y rhain ac am y sgîl-effeithiau llai cyffredin, darllenwch y taflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr, sydd ar gael o Fferyllfa Felindre, ac/neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk. Weithiau, gall cleifion deimlo bod y taflenni hyn yn anodd eu darllen. Gofynnwch os hoffech gopi gan eich meddyg neu o fferyllfa Felindre.
Rhifau ffôn cyswllt
Canolfan Ganser Felindre 029 2061 5888
Gofynnwch am y llinell gymorth triniaeth os byddwch yn sâl gartref a bod angen sylw arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Er enghraifft, dylech ffonio yn achos y canlynol:
Fferyllfa 029 2061 5888 est 6223
Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau
Llinell gymorth rhadffôn Macmillan 0808 808 0000
7 diwrnod yr wythnos 8am – 8pm ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch canser
Llinell gymorth canser rhadffôn Tenovus 0808 808 1010
7 diwrnod yr wythnos 8am - 8pm ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch canser
Mae’r daflen hon wedi cael ei hysgrifennu gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon yn seiliedig ar dystiolaeth, ac wedi cael ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Mae’r wybodaeth yn cael ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.