Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gwrs o driniaeth o’r enw erlotinib. Bydd y daflen yn esbonio beth yw hyn a sut a phryd y bydd yn cael ei rhoi. Bydd hefyd yn dweud wrthych am unrhyw sgîl-effeithiau cyffredin y gallech eu dioddef. Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am erlotinib ar ddiwedd y daflen hon.
Beth yw erlotinib?
Mae erlotinib yn gyffur gwrthganser. Nid cemotherapi ydyw. Mae’n gweithio trwy arafu neu stopio twf y canser.
Caiff erlotinib ei roi fel tabledi, sy’n cael eu cymryd yn ddyddiol fel arfer.
Pam ydw i’n cael erlotinib?
Mae eich meddyg wedi rhagnodi erlotinib gan ei fod yn effeithiol o ran rheoli’r math o ganser sydd gennych.
Sut dylwn i gymryd y tabledi erlotinib?
Dylech gymryd tabledi erlotinib unwaith y dydd gyda gwydraid o ddŵr. Ceisiwch gymryd y tabledi oddeutu’r un amser bob dydd. Dylech gymryd erlotinib ar stumog wag. Mae hyn yn golygu o leiaf awr cyn bwyta neu o leiaf dwy awr ar ôl bwyta.
Faint o dabledi sydd angen i mi eu cymryd?
Mae’n arferol cymryd un dabled 150mg y dydd, ond gall eich meddyg newid y dos hwn. Bydd wedi cael ei farcio’n glir ar y blychau faint sydd angen i chi eu cymryd.
Sut dylwn i storio fy nhabledi erlotinib?
Dylech storio eich tabledi yn eu pecyn gwreiddiol, mewn man diogel i ffwrdd o afael plant. Dylech eu cadw mewn man oer a sych. Dylech ddychwelyd tabledi heb eu defnyddio i fferyllfa’r ysbyty neu eich fferyllfa leol, i’w gwaredu’n ddiogel.
Ysmygu
Rydym yn eich cynghori i roi’r gorau i ysmygu pan rydych yn cymryd erlotinib gan fod ysmygu yn lleihau ei effeithiolrwydd. Os hoffech fwy o wybodaeth ar sut i roi’r gorau i ysmygu, gofynnwch i’ch meddyg teulu neu ffoniwch y llinell gymorth ysmygwyr Cymru ar 0800 169 0 169.
Beth yw’r sgîl-effeithiau posibl?
Mae nifer o sgîl-effeithiau posibl sy’n gallu codi gyda thriniaeth erlotinib. Gall y meddygon, y nyrsys a’r fferyllwyr roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.
Adweithiau’r croen
Adweithiau’r croen yw sgîl-effaith mwyaf cyffredin erlotinib. Fel arfer, mae’n frech tebyg i acne a all fod yn sych ac yn cosi, ac achosi ychydig o anghysur. I nifer fach o bobl, gall yr adwaith hwn fod yn fwy difrifol. Byddai brech ddifrifol yn effeithio ar ran fawr o’ch corff, gall fod yn boenus a gall fod yn heintiedig.
I leihau’r posibilrwydd o adwaith y croen difrifol, awgrymwn eich bod yn:
Dros dro yw’r adwaith y croen a bydd yn peidio ar ôl i chi orffen y driniaeth. Os byddwch yn datblygu adwaith y croen difrifol, sy’n achosi poen neu sy’n eich stopio rhag cyflawni eich gweithgareddau arferol, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 7.
Salwch
Gall rhai pobl deimlo’n sâl wrth gymryd erlotinib ond, fel arfer, gellir ei reoli’n dda â meddyginiaeth wrthgyfog. Os byddwch yn chwydu mwy nag unwaith mewn 24 awr, er eich bod yn cymryd meddyginiaeth wrthgyfog yn rheolaidd, dylech stopio cymryd eich tabledi erlotinib a chysylltu â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 7.
Dolur rhydd
Mae’n bosibl y byddwch yn cael dolur rhydd. Os bydd hyn yn digwydd, mae’n bwysig eich bod yn yfed digon o hylifau. Mae meddyginiaeth ar gael i reoli dolur rhydd. Os byddwch yn agor eich perfedd bedair gwaith neu fwy na’r hyn sy’n arferol i chi dros gyfnod o 24 awr, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 7.
Blinder a lludded
Gall triniaeth erlotinib wneud i chi deimlo’n fwy blinedig na’r arfer. Mae’n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os bydd angen i chi wneud hynny ond dylech barhau â’ch gweithgareddau arferol os teimlwch eich bod yn gallu gwneud hynny. I rai pobl, gall ychydig o ymarfer corff fod yn fuddiol yn ogystal â gorffwys.
Ceg ddolurus
Mae’n bosibl y bydd eich ceg yn ddolurus neu efallai y byddwch yn sylwi ar wlserau bach. Mae’n bosibl y bydd eich meddyg yn rhoi presgripsiwn am gegolch neu feddyginiaeth i helpu gyda hyn.
Bydd ceg rhai pobl yn rhy sensitif ar gyfer past dannedd arferol. Os bydd hyn yn digwydd, rhowch gynnig ar ddefnyddio past dannedd ysgafn plant.
Os bydd eich ceg yn mynd yn boenus iawn, neu eich bod chi’n ei chael hi’n anodd bwyta ac yfed, dylech stopio cymryd eich tabledi erlotinib a chysylltu â Chanolfan Ganser Felindre i gael cyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 7.
Problemau â’r llygaid
Mae rhai pobl yn datblygu llygaid dolurus, coch (llid yr amrannau) neu sych, tra eu bod nhw’n cael eu trin ag erlotinib. Gall eich meddyg rhagnodi diferion llygaid i helpu gyda hyn. Rhowch wybod i’ch meddyg os ydych yn sylwi ar unrhyw newidiadau i’ch llygaid.
Sgîl-effeithiau eraill
Yn anghyffredin iawn, gall rhai pobl sy’n cael erlotinib ddioddef problemau anadlu o ganlyniad i gymryd y tabledi. Os byddwch yn sylwi ar broblemau anadlu newydd, cysylltwch â’ch meddyg neu nyrs arbenigol. Byddwch yn cael eich monitro mewn ymweliadau rheolaidd â’r clinig.
Mae’n bwysig nad ydych yn beichiogi nac yn dod yn dad tra eich bod yn cael triniaeth cemotherapi gan y gallai cemotherapi niweidio’r baban heb ei eni.
A yw hi’n iawn cymryd meddyginiaethau eraill gydag erlotinib?
Os ydych yn cymryd meddyginiaethau, fitaminau neu feddyginiaethau llysieuol eraill, rhowch wybod i’ch meddyg, nyrs neu fferyllydd. Mae nifer fach o feddyginiaethau gall fod angen i chi eu hosgoi. Mae’r rhain yn cynnwys tabledi eurinllys (St. John’s Wort).
Taflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr
Mae copïau o daflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr cyffuriau ar gael o Fferyllfa Felindre, neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk. Mae’r taflenni hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl am gyffuriau unigol. Nid ydym yn eu dosbarthu fel mater o drefn gan y gallant fod yn anodd eu darllen. Gofynnwch, os hoffech gopi.
Rhifau ffôn cyswllt
Canolfan Ganser Felindre 029 2061 5888
Gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi os byddwch yn sâl gartref a bod angen sylw arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Er enghraifft, dylech ffonio yn achos y canlynol:
Adran fferyllol 029 2061 5888 est. 6223
Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau
Llinell cymorth canser
radffôn Tenovus 0808 808 1010
7 diwrnod yr wythnos, 8am – 8pm, ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch canser
Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Cafodd y daflen ei chymeradwyo gan dîm o feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.