Neidio i'r prif gynnwy

Eribulin 647

Taflen wybodaeth ar eribulin

 

Mae'r daflen hon yn darparu gwybodaeth am fath o gemotherapi o’r enw eribulin. Bydd yn egluro beth yw hyn, a phryd a sut y bydd yn cael ei roi.  Bydd yn dweud wrthych chi hefyd am y sgîl-effeithiau posibl.  Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am eribulin ar ddiwedd y daflen hon.

 

Dylid darllen y daflen hon ochr yn ochr â'r daflen ‘General information for patients receiving chemotherapy’.  Os nad ydych chi wedi derbyn y daflen hon, gofynnwch i'ch nyrs am gopi.

 

Beth yw eribulin?

Cemotherapi ydy eribulin sydd yn cael ei roi mewn drip. 

 

Pam ydw i'n cael eribulin?

Mae eich meddyg wedi rhagnodi'r cemotherapi hwn oherwydd canfuwyd ei fod yn effeithiol o ran trin y math o ganser sydd gennych chi.

 

Pa mor aml y byddaf yn derbyn eribulin?

Er mwyn i'r driniaeth hon fod fwyaf effeithiol, bydd yn cael ei rhoi ar gyfnodau penodol o amser.  Mae’r rhain yn cael eu galw’n gylchoedd.  Mae pob cylch yn cynnwys rhoi cemotherapi ar ddiwrnod 1 a diwrnod 8 o’r cylch. Mae un cylch yn para 3 wythnos.  Bydd eich meddyg yn trafod union nifer y cylchoedd y byddwch yn eu derbyn.

 

Pa mor aml y byddaf yn gweld y tîm arbenigol?

Byddwch yn gweld y tîm arbenigol cyn pob cylch.  Byddwch yn cael profion gwaed rheolaidd, a byddwn yn gwirio sut rydych chi'n teimlo ac yn trafod unrhyw broblemau sydd gennych.  Mae hyn er mwyn i ni allu gwirio sut mae'r cemotherapi yn effeithio arnoch chi.  Os yw canlyniadau eich gwaed yn foddhaol, bydd eich cemotherapi yn cael ei ragnodi.

 

Am ba mor hir y byddaf yn yr ysbyty?

Bydd eich triniaeth fel arfer ar ddiwrnod gwahanol i'ch apwyntiad yn y clinig.  Mae'r driniaeth cemotherapi yn cymryd tua 30 munud.  Dylech ganiatáu 30 munud yn ychwanegol ar gyfer eich triniaeth gyntaf.

 

A gaf i ddod â ffrindiau a pherthnasau gyda mi?

Mae croeso i chi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Does dim llawer o le, felly does dim lle i fwy nag un person fel arfer.  Nid yw ardaloedd triniaeth yn addas ar gyfer plant ifanc.

 

Sut fydd fy nghemotherapi yn cael ei roi?

Mae eribulin yn cael ei roi trwy ddrip i mewn i wythïen yng nghefn eich llaw neu fraich.  Fel arall, efallai y byddwn yn awgrymu bod tiwb mân o'r enw PICC yn cael ei osod mewn gwythïen fawr yn rhan uchaf eich braich.  Bydd y tiwb hwn yn aros yn ei le drwy gydol eich triniaeth. Os bydd angen, bydd eich meddyg neu eich nyrs yn trafod hyn gyda chi.

 

Mae gennym daflen sy'n dweud mwy wrthych chi am linellau PICC, os oes angen.

 

Beth yw'r sgîl-effeithiau posibl?

Mae nifer o sgîl-effeithiau posibl yn gallu digwydd. Gall y meddyg, y nyrsys a’r fferyllwyr roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.

 

Salwch

Mae cyfog a chwydu yn anghyffredin y dyddiau hyn, gan y byddwn yn rhoi meddyginiaethau gwrth-salwch i chi sydd fel arfer yn effeithiol iawn.  Os ydych chi'n sâl fwy nag unwaith mewn 24 awr er eich bod chi’n cymryd meddyginiaeth gwrth-salwch yn rheolaidd, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Colli Gwallt

Efallai y bydd eich gwallt yn teneuo neu y byddwch chi’n colli’ch gwallt gyda'r cemotherapi hwn.  Rhywbeth dros dro yn unig ydy hyn, a bydd eich gwallt yn tyfu yn ôl pan fyddwch chi'n gorffen eich cemotherapi.  Gallwn drefnu wig ar eich cyfer os ydych chi eisiau un; gofynnwch i'ch nyrs am fwy o wybodaeth.  Gallwn roi taflen i chi ar sut i ymdopi â cholli eich gwallt hefyd.

 

Cleisio

Gall eribulin leihau faint o blatennau sydd yn cael eu cynhyrchu (sy'n helpu'r gwaed i geulo).  Bydd hyn yn cynyddu eich risg o gleisio neu waedu.  Os byddwch yn sylwi ar unrhyw gleisiau ar eich corff neu ar unrhyw waedu, er enghraifft eich bod chi’n gwaedu o’ch trwyn neu bod eich deintgig yn gwaedu, dylech gysylltu â Chanolfan Ganser Felindre i gael cyngor.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

 

Effeithiau ar eich nerfau

Weithiau, gall eribulin achosi niwed i’r nerfau yn eich dwylo a'ch traed. Os ydych chi'n profi rhywfaint o fferdod neu newidiadau mewn teimlad, fel teimlad gogleisiol neu binnau bach, mae'n bwysig eich bod chi'n dweud wrth eich meddyg, fel y gallwn newid eich triniaeth cyn i'r sgîl-effaith hon ddod yn barhaol.

 

Myalgia (poen yn y cyhyrau)

Efallai y bydd rhai cleifion yn cael myalgia, sef poen yn y cyhyrau neu'r cymalau.  Weithiau, gall hyn fod yn ddifrifol, ond dim ond am ychydig ddyddiau y bydd yn para.  Os oes gennych chi gyffuriau lladd poen gartref yn barod, efallai y byddwch yn gweld eu bod yn lleddfu'r boen.  Os nad yw hyn yn gweithio, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Ceg ddolurus

Mae’n bosibl y bydd eich ceg yn mynd yn ddolurus, neu efallai y byddwch yn sylwi ar wlserau bach.  Dilynwch y cyngor ar ofalu am eich ceg yn y daflen cemotherapi gyffredinol.  Mae’n bosibl y bydd eich meddyg yn rhoi presgripsiwn am gegolch neu feddyginiaeth i chi, i atal neu glirio unrhyw haint.

Weithiau, mae ceg cleifion yn mynd yn sych; gallwch reoli hyn drwy osgoi bwydydd sych, er enghraifft, ychwanegu sawsiau a grefi at fwyd.

 

Haint

Rydych chi mewn mwy o berygl o gael haint, oherwydd gall y driniaeth hon leihau swm y celloedd gwaed gwyn sy'n helpu i ymladd heintiau. 

Os byddwch yn cael haint tra bod eich celloedd gwaed gwyn yn isel, rydych chi mewn perygl o gael sepsis, sydd yn gallu peryglu bywyd.  

Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft symptomau tebyg i'r ffliw neu dymheredd sy’n uwch na 37.5°canradd, neu dymheredd sy’n is na 35.5°.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Effeithiau ar eich coluddyn

Mae’r driniaeth hon yn gallu achosi rhwymedd neu ddolur rhydd. 

  • Os ydych chi'n cael rhwymedd, mae'n bwysig eich bod chi'n cynyddu faint o hylif rydych chi'n yfed.  Efallai y bydd angen moddion gweithio arnoch chi.  Gallwch siarad gyda ni neu eich meddyg teulu i gael cyngor.

 

  • Os ydych chi'n cael dolur rhydd, mae'n bwysig eich bod chi'n yfed digon o hylif.  Mae meddyginiaeth ar gael i reoli dolur rhydd.  Fodd bynnag, os ydych chi’n mynd i’r toiled bedwar gwaith neu fwy mewn 24 awr, sydd yn fwy na’r hyn sy'n arferol i chi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Blinder a lludded

Efallai y byddwch chi'n teimlo'n fwy blinedig na’r arfer.  Mae'n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os oes angen, ond gwnewch eich gweithgareddau arferol os ydych chi'n teimlo fel eich bod chi’n gallu gwneud hyn.  I rai pobl, gall ychydig o ymarfer corff ysgafn fod yn fuddiol, yn ogystal â gorffwys.

 

Clotiau gwaed

Mae cael eich diagnosio gyda chanser yn gallu cynyddu eich risg o ddatblygu clot gwaed (thrombosis), ac mae triniaeth canser yn gallu cynyddu'r risg hwn ymhellach.  Mae'n bwysig dweud wrth eich meddyg ar unwaith os oes gennych chi symptomau fel poen, cochni a chwydd yn eich coes, neu os ydych chi’n dioddef o ddiffyg anadl a phoen yn eich brest 

 

Mae clotiau gwaed yn gallu bod yn ddifrifol iawn.  Fodd bynnag, fel arfer, gellir trin y rhan fwyaf o glotiau yn llwyddiannus gyda chyffuriau i deneuo'r gwaed.  Gall eich meddyg neu eich nyrs roi mwy o wybodaeth i chi.

 

Sgîl-effeithiau eraill

 

Weithiau, ond dim yn aml iawn, bydd rhai pobl sy'n cael eribulin yn dioddef problemau anadlu.  Os byddwch yn sylwi eich bod chi’n fyr eich gwynt neu yn dechrau cael peswch neu unrhyw broblemau anadlu, cysylltwch â'ch meddyg neu nyrs arbenigol.  Byddwch yn cael eich monitro mewn ymweliadau rheolaidd â’r clinig hefyd. 

 

Efallai y bydd rhai pobl yn cael problemau gyda chur pen.  Ceisiwch gymryd y cyffuriau lladd poen y byddech fel arfer yn eu cymryd am gur pen.  Os na fydd cyffuriau lleddfu poen yn helpu neu os ydych chi’n cael unrhyw broblemau gyda'ch golwg neu’n teimlo’n benysgafn, defnyddiwch eich pager cemotherapi, mae’r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen, a dywedwch wrth eich meddyg neu eich nyrs yn y clinig hefyd.

 

Os oes gennych chi gyflwr ar y galon neu os ydych chi'n cymryd unrhyw feddyginiaeth ar gyfer y galon, dywedwch wrth eich meddyg cyn i chi ddechrau eich triniaeth, gan y gallai Eribulin effeithio ar eich calon.

 

Mae rhai cleifion yn profi diffyg traul a/neu boen neu wynt yn rhan uchaf yr abdomen. Os yw hyn yn achosi problemau i chi, ffoniwch Ganolfan Ganser Felindre, a rhowch wybod am hyn y tro nesaf y byddwch yn y clinig.

Efallai y bydd bysedd eich dwylo a’ch traed yn afliwio ac yn crychu hefyd.. 

 

Os ydych chi’n sylwi fod eich llygaid yn goch ac yn boenus, gallai hyn fod oherwydd haint: ewch i weld eich Meddyg Teulu, a fydd yn gallu rhagnodi meddyginiaeth os oes angen.

 

Mae'n bwysig nad ydych chi'n mynd yn feichiog neu'n dod yn dad tra rydych chi’n cael triniaeth cemotherapi, gan y gallai cemotherapi niweidio'r babi heb ei eni. Nid ydym yn argymell eich bod chi’n bwydo ar y fron os ydych chi’n cael Eribulin.

 

Weithiau, mae cyffuriau canser yn gallu cael sgîl-effeithiau difrifol iawn, sydd weithiau, ond dim yn aml iawn, yn gallu peryglu bywyd.  Mae'n bwysig rhoi gwybod i Ganolfan Ganser Felindre os ydych chi'n poeni am unrhyw sgîl-effeithiau. 

 

Ydy’n iawn i mi gymryd meddyginiaethau eraill?

Os ydych chi'n cymryd meddyginiaethau eraill, rhowch wybod i'ch meddyg, nyrs neu fferyllydd.

Mae yna lawer o feddyginiaethau y gallai fod yn rhaid i chi eu hosgoi, trafodwch eich meddyginiaethau gyda'ch meddyg, a pheidiwch â chymryd meddyginiaethau dros y cownter heb gyngor.

Noder: Efallai y bydd adweithiau difrifol â rhai meddyginiaethau.

 

Taflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr

Mae taflenni Felindre yn rhoi gwybodaeth am sgîl-effeithiau cyffredin a chyffredin iawn: os hoffech ragor o wybodaeth am y sgîl-effeithiau llai cyffredin, darllenwch y taflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr, sydd ar gael o fferyllfa Felindre, ac/neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk.  Weithiau, gall cleifion gael trafferth yn darllen y taflenni hyn. Gofynnwch os hoffech gael copi gan eich meddyg neu o fferyllfa Felindre.

 

Rhifau ffôn cyswllt:

 

Canolfan Ganser Felindre             029 2061 5888

Gofynnwch am y llinell gymorth triniaeth os byddwch yn sâl gartref a bod angen cyngor arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos.  Er enghraifft, dylech ffonio yn achos y canlynol:

  • Os byddwch yn chwydu fwy nag unwaith dros gyfnod o 24 awr
  • Os oes gennych dymheredd o 37.5°C neu fwy
  • Os oes gennych ddolur rhydd

 

Fferyllfa              029 2061 5888 (est 6223)

Dydd Llun – ddydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau

 

Llinell gymorth rhadffôn Macmillan     0808 808 0000

 

Llinell gymorth canser                         0808 808 1010    

rhadffôn Tenovus

 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae'r wybodaeth yn seiliedig ar dystiolaeth, ac wedi cael ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion.  Mae'n cael ei hadolygu a'i diweddaru bob dwy flynedd.