Mae rhoi ein cleifion yn gyntaf yn parhau i fod wrth wraidd popeth a wnawn. Mae ymgysylltu â'n cleifion a'n cymunedau i ddeall eu hanghenion a'u syniadau ynghylch sut y gallwn ddiwallu'r rhain orau yn rhan hanfodol o sut rydym yn datblygu ac yn gwella ein gwasanaethau a'u profiad o'r gwasanaethau hyn.
Mae Cynnwys ac Ymgysylltu â Chleifion a'r Cyhoedd (PPIE) yn ymwneud â gweithio gyda chleifion, gofalwyr ac aelodau'r cyhoedd er mwyn gwella ymchwil a gwasanaethau. Ein gweledigaeth yw darparu'r profiad gorau i gleifion ochr yn ochr â'r driniaeth canser orau drwy gryfhau llais ein cleifion.