Adran
Meddygaeth Niwclear
Taflen wybodaeth ynghylch trin thyrotocsicosis gan ddefnyddio radioïodin
Mae’r daflen hon yn darparu gwybodaeth ynghylch defnyddio radioïodin i drin thyrotocsicosis. Mae’n esbonio sut caiff y driniaeth hon ei rhoi a’r rhagofalon diogelwch sydd angen eu dilyn ar ôl y driniaeth. Yn ogystal, mae’n ateb rhai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin mae pobl yn eu gofyn ynghylch y driniaeth hon. Os nad yw’r wybodaeth hon yn gwbwl eglur, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau nad ydyn nhw’n cael eu hateb yn y daflen hon, cysylltwch â’r Adran Meddygaeth Niwclear ar 02920 316237.
Beth yw thyrotocsicosis?
Mae thyrotocsicosis yn digwydd pan mae’r chwarren thyroid yn cynhyrchu gormod o hormonau thyroid.
Beth yw triniaeth radioïodin?
Mae triniaeth radioïodin yn defnyddio math o ïodin ymbelydrol. Mae’r ïodin yn cael ei gymryd gan y chwarren thyroid ac mae’r ymbelydredd yn arafu cynhyrchiant y thyroid o fathau penodol o hormonau.
Pam awgrymu triniaeth radioïodin?
Bydd eich meddyg wedi esbonio bod gwahanol fathau o driniaethau ar gyfer thyrotocsicosis. Mae radioïodin wedi cael ei awgrymu fel triniaeth addas i chi.
I ba rannau eraill o fy nghorff bydd yr radioïodin yn mynd?
Bydd y rhan fwyaf o’r radioïodin yn mynd i’ch thyroid. Bydd y gweddill yn gadael eich corff yn eich wrin.
Sut bydd y radioïodin yn cael ei roi?
Fel arfer, caiff y radioïodin ei roi ar ffurf capsiwl. Ond os nad ydych yn gallu llyncu capsiwlau, mae’n bosibl rhoi’r radioïodin i chi ar ffurf hylif.
A fydda i’n teimlo’n sâl ar ôl y driniaeth?
Na. Ni ddylech chi deimlo unrhyw ôl-effeithiau ar unwaith, ar wahân i wddw tost.
Beth am fy nhabledi?
Os mai rheoli eich thyrotocsicosis yw pwrpas eich tabledi, mae’n bosibl y bydd angen i chi peidio â’u cymryd nhw am beth amser. Bydd y meddyg yn yr ysbyty yn dweud wrthoch chi am ba hyd y dylech beidio â’u cymryd yn ystod eich ymweliad â’r clinig neu yn eich llythyr apwyntiad cyn dechrau eich triniaeth. Fel arall, ni fydd angen i chi beidio â chymryd eich tabledi eraill.
A oes modd derbyn y driniaeth os rydw i’n feichiog?
Eich meddyg yw’r un gorau i roi cyngor i chi am hyn. Yn gyffredinol, bydd menywod beichiog yn cael radioïodin os yw’r meddyg sy’n gwneud cais am y driniaeth yn ystyried bod hynny er eich lles chi.
A oes yna unrhyw beryglon o ran cael plant yn dilyn y driniaeth?
Mae 50 mlynedd o ddefnyddio radioïodin wedi dangos nad oes unrhyw effaith negyddol ar iechyd plant cleifion sydd wedi cael y driniaeth hon. Fodd bynnag, dylech osgoi beichiogrwydd am o leiaf pedwar mis (chwe mis yn ddelfrydol er mwyn galluogi dilyniant clinigol digonol) ar ôl triniaeth radioïodin. Bydd gofyn i chi beidio â bronfwydo os ydych yn gwneud. Rhaid i gleifion gwryw osgoi cenhedlu am bedwar mis yn dilyn triniaeth radioïodin.
Pryd fydda i’n gallu dychwelyd i’r gwaith?
Yn fwy na thebyg bydd angen i chi gymryd ychydig o amser i ffwrdd o’r gwaith. Bydd y cyfnod amser yn dibynnu ar faint o radioïodin rydych wedi ei gael ac, o bosibl, ar y math o waith rydych chi’n ei wneud.
Er enghraifft, os rydych yn gweithio gyda phlant neu fenywod beichiog, mae’n bosibl y bydd angen mwy o amser i ffwrdd o’r gwaith arnoch. Os yw eich gwaith yn ymwneud â defnyddio ffilm ffotograffig, mae’n bosibl y bydd angen mwy o amser i ffwrdd o’r gwaith arnoch.
Byddwch yn cael eich cynghori o ran faint o amser y dylech chi ei gymryd i ffwrdd o’ch gwaith. Byddwch yn cael y cyngor hwn un ai yn ystod eich ymweliad â chlinig yr ysbyty neu pan fyddwch yn yr Adran Meddygaeth Niwclear.
Dyma ganllaw bras i chi o ran yr amser y dylech ei gymryd i ffwrdd o’ch gwaith:
A fydd fy nheulu neu bobl eraill mewn perygl?
Na, ond bydd rhaid i chi ddilyn rhai rheolau syml er mwyn lleihau’r risgiau. Mae’r cyfnod amser y bydd rhaid i chi ddilyn y rheolau hyn yn dibynnu ar faint o radioïodin mae’r meddyg yn yr ysbyty wedi ei ragnodi i chi. Bydd y meddyg yn trafod y cyfnod amser gyda chi cyn rhoi’r radioïodin i chi.
Beth yw’r rhagofalon tebygol?
Byddwn yn eich cynghori i:
Fel arfer, rhaid gweithredu’r rhagofalon hyn am gyfnod rhwng 11 ac 16 diwrnod. Unwaith eto, byddwch yn cael eich cynghori am hyn.
Yn ogystal, bydd rhaid i chi osgoi cyswllt agos estynedig gyda phlant a menywod beichiog am gyfnod amser rhwng 21 a 27 diwrnod o hyd.
A fydd angen i mi weld meddyg ar ôl fy nhriniaeth radioïodin?
Bydd angen i chi weld un ai’r meddyg a welsoch chi yn yr ysbyty neu eich meddyg teulu. Bydd angen prawf gwaed arnoch er mwyn gwirio effaith y driniaeth ar eich thyroid.
Faint o driniaethau radioïodin fydd eu hangen arnaf?
Fel arfer, mae un driniaeth yn ddigon. Fodd bynnag, ar adegau, mae angen dwy neu dair triniaeth. Bydd y profion gwaed yn penderfynu’n union faint o driniaethau fydd eu hangen arnoch.
Oes yna unrhyw sgîl-effeithiau hirdymor?
Nac oes. Ar wahân i’r posibilrwydd y bydd eich chwarren thyroid yn tan-weithredu. Gall hynny ddigwydd o fewn rhai wythnosau neu flynyddoedd ar ôl eich triniaeth. Bydd y profion gwaed sy’n gwirio’ch thyroid yn tynnu ein sylw at hyn.
Beth fydd yn digwydd os bydd fy thyroid yn tan-weithredu?
Byddwn yn rhoi tabledi o’r enw 'Thyroxine' i chi. Nid oes unrhyw sgîl-effeithiau i’r tabledi hyn fel arfer.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, gofynnwch pan fyddwch yn ymweld â’r ysbyty. Hoffem i chi ddeall eich triniaeth.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Adran Meddygaeth Niwclear ar:
029 2031 6237
neu
029 2031 6236
Canolfan Ganser Felindre
Heol Felindre, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 2TL
Ysgrifennwyd y daflen wybodaeth hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth yn y daflen hon yn seiliedig ar dystiolaeth. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.
|