Neidio i'r prif gynnwy

Taflen wybodaeth ynghylch eich triniaeth yn defnyddio Strontiwm 89 (Metastron)

Adran

Meddygaeth Niwclear

 

 

 

 

Taflen wybodaeth ynghylch eich triniaeth yn defnyddio Strontiwm 89 (Metastron)

 

 

 

 

Mae’r llyfryn hwn wedi cael ei ysgrifennu er mwyn ateb rhai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin sy’n cael eu gofyn am y driniaeth hon. Os nad yw’r wybodaeth hwn yn gwbl eglur neu os oes gennych unrhyw gwestiynau nad ydyn nhw’n cael eu hateb yn y daflen hon, ffoniwch y rhif ar ddiwedd y daflen os gwelwch yn dda.

 

 

 

 

 

 

 

Beth yw Metastron?

Pigiad ymbelydrol o Strontiwm yw Metastron.  

 

 

Sut mae’n gweithio?

Caiff ei gydio gan bob ardal lle mae esgyrn yn amsugno calsiwm ychwanegol ac achosi poen. Wedyn, mae’n aros yno am nifer o wythnosau gan leddfu’r boen yn gyson.

 

 

Pa effaith fydd Metastron yn ei chael?

Yn aml, mae Metastron yn gallu lleddfu poen, ond nid i bawb. I ddechrau, ni fyddwch yn teimlo unrhyw effaith o gwbl. Mae’n bosibl y bydd cynnydd cychwynnol o ran poen yn ystod y ddau neu dri diwrnod yn dilyn y pigiad. Mae hyn yn gyffredin, ac mae’n bosibl y bydd angen i chi gynyddu nifer y poen laddwyr rydych yn eu cymryd tan fod y boen yn pylu. Wedi tua dwy wythnos, weithiau’n hirach, dylai’r boen leddfu a phara am nifer o fisoedd.

 

 

A oes yna unrhyw sgîl-effeithiau?

Na, ddim fel arfer. Gallwch weithiau dioddef o newid yn eich blas neu efallai salwch.  Ni fydd Metastron yn effeithio ar eich gallu i yrru neu i ddefnyddio peirianwaith. Gallwch fwyta ac yfed fel arfer ac nid oes angen osgoi alcohol, oni bai eich bod wedi cael eich cynghori i wneud hynny. Mae’n bosibl y bydd gostyngiad bychan yn nifer eich celloedd gwaed, a bydd eich meddyg eisiau gwneud prawf gwaed. Mae hynny yn ddigon cyffredin.  Dylech yfed digon o ddŵr yn ystod y 24 awr gyntaf ar ôl y pigiad.

A ddylwn i stopio cymryd cyffuriau sy’n lladd poen?

Mae’n bosibl y bydd eich meddyg yn eich cynghori chi i barhau i gymryd eich poenladdwyr tan fod y boen yn dechrau pylu. Mae’n bosibl y bydd eich meddyg yn awgrymu eich bod yn dechrau lleihau’r dos yn raddol ac mae’n bosibl na fydd angen poenladdwyr arnoch o gwbl yn y pen draw.

 

 

Beth am driniaethau eraill?

Bydd eich meddyg yn eich cynghori chi ar ba driniaethau eraill y dylech eu cymryd. Mae’n bosibl eich bod wedi cael chwistrelliadau hormon neu dabledi ac efallai bydd eich meddyg yn dymuno i chi barhau â’r rhain.

 

 

A oes angen i mi ddweud wrth unrhyw un fy mod wedi cael y driniaeth hon?

Byddwn yn rhoi cerdyn i chi gario gyda chi yn eich waled neu fag sy’n cynnwys rhif ffôn cyswllt yr Adran Meddygaeth Niwclear. Os oes rhaid i chi fynd i’r ysbyty cyn y dyddiad ar y garden, gofynnwn eich bod yn dangos y garden i’r rhai sydd yn rhoi’r gofal i chi.

 

 

Pa ragofalon ddylwn i'w cymryd?

Nid yw Metastron yn effeithio ar bobl eraill trwy gyswllt corfforol. Yn ystod yr wythnos gyntaf ar ôl y pigiad, bydd Metastron yn bresennol yn eich gwaed a’ch wrin. Mae’n bwysig i chi ddilyn y rhagofalon canlynol:

 

 

Am wythnos yn dilyn eich  triniaeth:

 

  • Os oes modd, dylech ddefnyddio tŷ bach arferol, yn hytrach na throethfa. Dylech fflysio’r tŷ bach ddwywaith.

 

  • Sychwch unrhyw wrin â phapur tŷ bach cyn fflysio’r papur i lawr y tŷ bach.

 

  • Sicrhewch eich bod yn golchi eich dwylo bob tro ar ôl defnyddio’r tŷ bach.

 

  • Os yw eich wrin yn tasgu ar eich dillad, golchwch nhw ar wahân i weddill eich dillad.

 

  • Os rydych yn defnyddio unrhyw ddyfais casglu wrin, gadewch i ni wybod os gwelwch yn dda.

 

  • Os rydych yn torri eich hun, golchwch unrhyw waed sydd wedi’i ollwng.

 

 

Alla’i dreulio amser gyda phlant?

Am y mwyafrif o gleifion nid yw’n broblem cael cyswllt gyda phlant.  Er hynny, efallai dylai rhai cleifion unigryw peidio â chofleidio plant am oleua 9 diwrnod ar ôl y driniaeth, er enghraifft y cleifion hynny sy’n gwisgo cathetr neu’r rhai sy’n gweld hi’n anodd rheoli eu pledren.

 

 

 

 

A oes yna unrhyw beryglon o ran cael plant yn dilyn y driniaeth?

Dylai cleifion benywaidd osgoi beichiogi am fisoedd yn dilyn y driniaeth. Yn ogystal, dylech stopio bronfwydo.

 

Dylai cleifion gwrywaidd osgoi cenhedlu am bedwar mis yn dilyn y driniaeth.

 

 

Oes rhaid i mi aros yn yr ysbyty ar ôl y pigiad?

Byddwn yn gwneud gwiriad cyflym ar ôl y pigiad i sicrhau ei fod yn cylchdroi o amgylch eich corff yn eich llif gwaed. Gwneir hyn drwy symud monitor arbennig, sy’n olrhain ymbelydredd, dros eich corff. Dylai’r broses gymryd cwpwl o funudau yn unig i’w chwblhau, ac ni fydd yn achosi unrhyw boen.  

 

 

Beth fydd yn digwydd os bydd y boen yn dychwelyd?

Os bydd y boen yn dychwelyd, dylech gysylltu â’ch meddyg. Mae’n bosibl y bydd eich meddyg yn penderfynu rhoi pigiad Metastron arall i chi os mai dyma’r driniaeth fwyaf addas. Nid oes modd ailadrodd y driniaeth o fewn 3 mis i’ch pigiad blaenorol.

 

 

 

 

 

 

 

Gobeithio bod y daflen wybodaeth hon wedi bod yn ddefnyddiol i chi. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os oes angen mwy o wybodaeth arnoch, ffoniwch yr Adran Meddygaeth Niwclear ar 029 2031 6237.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Canolfan Ganser Felindre

Heol Felindre,

Yr Eglwys Newydd,

Caerdydd,

CF14 2TL

Ffôn: 029 2061 5888

Caiff y daflen hon ei hysgrifennu gan weithwyr iechyd profesiynol.  Mae’r wybodaeth wedi’i selio ar dystiolaeth ac yn cael ei harolygu bob dwy flynedd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ysgrifennwyd ym mis Hydref 2004

Adolygwyd ym mis Medi 2012