Neidio i'r prif gynnwy

Scan ar yr asgwrn

Gwybodaeth ynglŷn â’ch sgan radioisotop 

Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am eich sgan radioisotop. Mae’n esbonio beth yw hyn a sut y mae’n cael ei wneud. Mae hefyd yn ateb rhai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin y mae pobl yn gofyn am y prawf hwn. Os yw’r wybodaeth hon yn aneglur neu os oes gennych unrhyw gwestiynau na chânt eu hateb gan y daflen hon, yna ffoniwch yr Adran Meddygaeth Niwclear ar 02920 316237.

Mae eich meddyg wedi gofyn i ni wneud ‘sgan’ radioisotop.  Mae hwn yn brawf sy’n defnyddio ychydig bach o ymbelydredd i gynhyrchu lluniau o esgyrn, organau a rhannau eraill o’r corff. 

Beth fydd yn digwydd?

Fel arfer, byddwch yn cael pigiad o ychydig bach o hylif ymbelydrol i mewn i wythïen yn eich braich. Fodd bynnag, ar gyfer profion y thyroid, gall yr ymbelydredd gael ei roi fel  pilsen neu ddiod fach. Ar gyfer sganiau o’r ysgyfaint, efallai y byddwn yn gofyn i chi anadlu erosol, nad yw’n gwneud i chi deimlo’n sâl.  

Bydd yn rhaid i chi aros tra bod yr ymbelydredd yn teithio i ran y corff sy’n cael ei sganio. Wedyn rydym yn tynnu lluniau â’r Camera Gama.

Pa mor hir fydd yn rhaid i mi aros? 

Mae’r amser aros yn dibynnu ar y prawf. Bydd yn amrywio rhwng 5 munud a 72 awr. Bydd yr amser hwn wedi cael ei ysgrifennu’n eglur ar eich llythyr apwyntiad. 

A oes yn rhaid i mi aros yn yr ysbyty?

Byddwch yn rhydd i adael yr adran, ond efallai y byddwn yn gofyn i chi yfed mwy na’r arfer cyn i’r lluniau gael eu tynnu. 

Sut mae’r lluniau’n cael eu tynnu?

Byddwn yn gofyn i chi orwedd ar wely (neu eistedd mewn cadair o bosibl) tra bod y lluniau’n cael eu tynnu â Chamera Gama. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 30 munud a 2 awr i dynnu’r lluniau. Efallai y bydd oedi byr wrth i’r lluniau gael eu dangos i’ch meddyg i weld a oes angen unrhyw brofion eraill yn ystod eich ymweliad. Byddwch wedyn yn rhydd i adael yr adran. 

A fydd yn rhaid i mi ddadwisgo?

Na, ond efallai y bydd angen i chi dynnu eitemau metal, fel byclau gwregys, arian, allweddi neu emwaith. Mae’n haws rhoi’r pigiad i chi os rydych yn gwisgo dilledyn gyda llewys llac. 

A oes angen i mi baratoi ar gyfer y prawf?

Bydd eich llythyr apwyntiad yn dweud wrthych a oes angen i chi wneud unrhyw beth yn arbennig cyn eich prawf (er enghraifft, peidio â bwyta neu yfed). Gan amlaf, gallwch fwyta ac yfed fel arfer rhwng y pigiad a thynnu’r lluniau.

A oes angen i mi stopio cymryd fy meddyginiaeth?

Ar gyfer y rhan fwyaf o brofion, nid oes angen i chi stopio cymryd eich meddyginiaeth. Os oes, byddwn yn dweud wrthych yn eich llythyr apwyntiad.

A fydd yn rhoi dolur?

Pigiad y nodwydd yn unig efallai fydd yn rhoi ychydig o ddolur. Ni fyddwch yn teimlo unrhyw ôl-effeithiau yn dilyn y prawf. Ni fydd yn eich gwneud yn gysglyd ac ni fydd yn eich atal rhag gyrru eich car.

A yw’r ymbelydredd yn beryglus?

Na. Mae’r ymbelydredd rydych yn ei gael ar gyfer y rhan fwyaf o brofion meddygaeth niwclear ar ei fwyaf yn ddwbl yr hyn y cewch bob blwyddyn o ymbelydredd cefndir naturiol.

A oes angen i mi wneud rhywbeth ar ôl y prawf?

Fel arfer, gallwch fwyta ac yfed yn arferol a mynd lle dymunwch. Efallai y byddwn yn gofyn i chi yfed mwy na’r arfer er mwyn helpu i glirio’r ymbelydredd o’ch corff. Yn ystod y prawf, efallai y byddwn yn rhoi meddyginiaeth o’r enw diwretig i chi. Bydd hwn yn gwneud i chi eisiau pasio dŵr yn fwy aml. 

Efallai y byddwn yn gofyn i chi osgoi cyfnodau hir o gyswllt â phlant a menywod beichiog ar gyfer gweddill y diwrnod neu am sawl diwrnod. Bydd hyn yn dibynnu ar y prawf a faint o ymbelydredd rydych wedi ei gael. Bydd hyn yn eu hatal rhag cael unrhyw ymbelydredd dianghenraid.

Pwy fydd yn rhoi canlyniad y prawf i mi?

Eich ymgynghorydd, neu rywun sy’n gweithio gyda’r tîm hwnnw, fydd yn rhoi canlyniadau’r prawf i chi. Ni fydd staff yr Adran Meddygaeth Niwclear yn gallu rhoi canlyniadau’r prawf i chi.

A oes unrhyw beth y dylwn i ddweud wrthych cyn y prawf?

Oes. Dywedwch wrthym cyn i chi gael y pigiad os rydych:

  • yn feichiog, neu’n credu y gallech fod,  
  • yn bwydo ar y fron.


Canolfan Ganser Velindre
Velindre Road, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 2TL

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae'r wybodaeth a gynhwysir yn y daflen hon yn seiliedig ar dystiolaeth. Mae'n cael ei adolygu a'i ddiweddaru bob 2 flynedd.