Adran Meddygaeth Niwclear
Gwybodaeth ynglŷn â’ch ymweliad ar gyfer prawf gweithrediad yr arennau
Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am eich prawf gweithrediad yr arennau. Mae’n esbonio beth yw hyn a sut y mae’n cael ei wneud. Mae hefyd yn ateb rhai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin y mae pobl yn gofyn am y prawf hwn. Os yw’r wybodaeth hon yn aneglur neu os oes gennych unrhyw gwestiynau na chânt eu hateb gan y daflen hon, yna ffoniwch yr Adran Meddygaeth Niwclear ar 02920 316237.
Mae eich meddyg wedi gofyn i ni wneud prawf gweithrediad yr arennau (neu EDTA). Mae hwn yn brawf sy’n defnyddio ychydig bach o ymbelydredd i ddangos i’r meddyg pa mor dda mae eich arennau’n gweithio.
Beth fydd yn digwydd?
Byddwch yn cael pigiad o ychydig bach o hylif ymbelydrol i mewn i wythïen yn eich braich. Bydd sampl fach o waed yn cael ei thynnu wedyn ddwy, tair a phedair awr ar ôl y pigiad.
A oes yn rhaid i mi aros yn yr ysbyty?
Rhwng y pigiad a’r samplau gwaed, byddwch yn rhydd i adael yr adran a’r ysbyty os dymunwch.
A fydd yn rhaid i mi ddadwisgo?
Ni fydd yn rhaid i chi ddadwisgo, er mae’n haws rhoi’r pigiad i chi a chymryd y samplau gwaed os rydych yn gwisgo dilledyn gyda llewys llac.
A oes angen i mi baratoi ar gyfer y prawf?
Na, gallwch fwyta ac yfed fel arfer.
A oes angen i mi stopio cymryd fy nhabledi a meddyginiaeth eraill?
Fel arfer nid oes angen i chi stopio cymryd eich tabledi neu eich meddyginiaeth. Os oes, byddwn yn dweud wrthych yn eich llythyr apwyntiad.
A fydd yn rhoi dolur?
Pigiad y nodwydd yn unig efallai fydd yn rhoi ychydig o ddolur. Ni ddylech deimlo unrhyw ôl-effeithiau yn dilyn y prawf. Ni fydd yn eich gwneud yn gysglyd ac ni fydd yn eich atal rhag gyrru eich car.
A yw’r ymbelydredd yn beryglus?
Na. Mae’r ymbelydredd rydych yn derbyn yn fach iawn (llai na’r hyn fyddech yn ei gael wrth archwiliad pelydr-x).
A oes angen i mi wneud rhywbeth ar ôl y prawf?
Gallwch fwyta, yfed a mynd lle dymunwch.
Beth sy’n digwydd i ganlyniadau’r prawf?
Mae’r wybodaeth rydym yn ei chael o’r samplau gwaed yn cael ei hanfon at y meddyg a’ch anfonoch chi at yr Adran Meddygaeth Niwclear.
A oes unrhyw beth y dylwn i ddweud wrthych cyn y prawf?
Oes. Dywedwch wrthym cyn i chi gael y pigiad os rydych:
Gobeithiwn fod y daflen hon wedi bod yn ddefnyddiol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os bydd arnoch eisiau mwy o wybodaeth, ffoniwch yr Adran Meddygaeth Niwclear ar 029 2031 6237.
Canolfan Ganser Felindre
Heol Felindre, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 2TL
Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth yn y daflen hon yn seiliedig ar dystiolaeth. Mae’n cael ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.