Neidio i'r prif gynnwy

Radiolawfeddygaeth Stereotactig ar gyfer cyflyrau'r ymennydd

Mae'r daflen hon yn rhoi gwybod i chi am fath o driniaeth radiotherapi o’r enw radiotherapi stereotactig.

Cofiwch ddod â rhestr o'ch meddyginiaethau cyfredol bob tro y byddwch yn dod i Felindre.

Ni chaniateir ysmygu ar dir Canolfan Ganser Felindre nac y tu mewn i’r ganolfan. Os hoffech gael cymorth i roi'r gorau iddi, gofynnwch.

Mae'n bwysig nad ydych yn beichiogi yn ystod eich triniaeth, oherwydd gall radiotherapi niweidio babi sy'n datblygu. Os tybiwch eich bod yn feichiog, dywedwch wrth y radiograffwyr ar unwaith.

Os oes gennych reolydd calon neu ddyfais gardiaidd y gellir ei mewnblannu (ICD), rhaid i chi ddweud wrth eich meddyg neu radiograffydd cyn neu yn ystod eich apwyntiad cynllunio cyntaf.

Beth yw radiolawfeddygaeth stereotactig (SRS/SRT)?

Mae'n fath o driniaeth radiotherapi fanwl gywir sy’n cael ei rhoi i ran fach o'r ymennydd. Fel arfer, rhoddir yr holl radiotherapi mewn un driniaeth (neu ffracsiwn) neu mewn cwrs byr o driniaethau. Rydyn ni'n rhoi’r cwrs fel hyn am fod hynny’n lleihau effaith yr ymbelydredd ar feinwe normal eich ymennydd. Mae hefyd yn helpu i leihau'r risg o sgil-effeithiau hwyr.

I sicrhau eich bod yn yr un osgo yn union ar gyfer pob triniaeth, bydd angen ichi wisgo mwgwd arbennig (cragen) yn ystod y driniaeth. Bydd y gragen hon yn teimlo'n dynn, ond dyma sydd ei angen arnom i sicrhau bod eich triniaeth yn gywir. Os na allwch chi ymdopi gyda’r gragen neu os yw’n boenus, rhowch wybod i'r radiograffwyr. Efallai y bydd angen hyd at dri ymweliad cynllunio arnoch cyn ichi ddechrau eich triniaeth.

Yr ymweliad cynllunio cyntaf - sgan MRI

Efallai y bydd angen ichi gael sgan MRI. Bydd hyn yn cael ei wneud fel arfer cyn inni wneud eich mwgwd. Bydd yn ein helpu i gynllunio’ch triniaeth. 

Yr ail ymweliad cynllunio - gwneud eich mwgwd.

Mae'r mwgwd sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer eich triniaeth yn cael ei wneud yn yr ystafell Fowldio. Mae'r ystafell Fowldio yn rhan o'r adran gynllunio ar gyfer triniaeth radiotherapi. Mae wedi’i lleoli ger yr adran cleifion allanol, yn nhu blaen Ysbyty Felindre.

Beth yw mwgwd triniaeth?

Mwgwd plastig yw'r mwgwd triniaeth, a byddwch chi'n gwisgo hwn bob dydd pan fyddwch chi'n cael eich triniaeth radiotherapi.

Sut mae'r mwgwd yn cael ei wneud?

Byddwn yn defnyddio plastig cynnes i gymryd argraff o gefn eich pen ac yna, blaen eich pen. Mae gan y darn blaen agoriad, felly mae eich llygaid, eich ceg a'ch trwyn heb eu gorchuddio. Mae'r plastig yn gynnes wrth gael ei osod ar eich wyneb, a bydd yn cael ei adael i oeri.

Pa mor hir fydd hyn yn ei gymryd?

Mae'n cymryd tua 30 munud i wneud yr argraff, ond rydyn ni’n gofyn ichi ganiatáu 45 munud ar gyfer eich apwyntiad cyfan.

Sgan CT

Byddwch yn cael sgan CT ar ôl eich apwyntiad gwneud mwgwd. Fel arfer, bydd hyn ar yr un diwrnod ag y bydd y mwgwd yn cael ei wneud ond weithiau, mae'n gallu bod ar y diwrnod canlynol. Bydd yr apwyntiad hwn yn cymryd tua 15 munud, ac nid oes angen rhoi unrhyw liw cyferbyniad mewnwythiennol. 

Pryd fydda i’n dechrau’r driniaeth?

Fel arfer, mae'r driniaeth yn dechrau tua dwy i bedair wythnos ar ôl yr ymweliadau cynllunio hyn.

Radiotherapi

Mae peiriant o’r enw cyflymydd llinellol neu LA (Linear Accelerator) yn cael ei ddefnyddio i roi’r driniaeth ichi. Yn ystod pob ymweliad i gael triniaeth, bydd eich radiograffwyr yn gosod eich mwgwd triniaeth, ac yn gwneud yn siŵr eich bod chi mor gyffyrddus â phosibl.

Yna, byddant yn gosod trefn y driniaeth o amgylch ffrâm eich mwgwd (yn y llun), sydd â pheli is-goch ynghlwm wrtho, gan ganiatáu i'r radiograffwyr eich gosod yn yr osgo cywir gan ddefnyddio meddalwedd arbenigol.

Bydd y feddalwedd arbenigol hon hefyd yn caniatáu i'r gwely symud i sawl cyfeiriad a gogwyddo, i sicrhau eich bod yn yr union osgo sydd ei angen i'ch trin yn gywir.

Bydd y radiograffwyr yn gadael yr ystafell i droi'r peiriant ymlaen. Bydd y driniaeth yn cael ei rhoi o sawl cyfeiriad. Gelwir pob cyfeiriad yn “drawst”, a bydd y driniaeth gyfan yn cymryd tua 30-45 munud i’w rhoi. Mae'r radiograffwyr yn eich gwylio'n ofalus ar fonitorau teledu. Os byddwch yn cael unrhyw broblemau yn ystod y driniaeth, gellir diffodd y peiriant ar unrhyw adeg. Yr unig beth y bydd angen i chi ei wneud ydy chwifio eich llaw.

Ni fyddwch yn teimlo unrhyw beth pan fyddwch yn cael eich triniaeth, er efallai y byddwch chi’n clywed y peiriant yn gwneud sŵn neu’n bipian.

Unwaith y bydd y driniaeth wedi gorffen, bydd y radiograffwyr yn tynnu'r mwgwd i ffwrdd, a byddwch yn rhydd i fynd adref.

Sgil-effeithiau

Dylech fod wedi cael llyfryn tiwmor yr ymennydd Macmillan, lle byddwch yn dod o hyd i esboniad o sgîl-effeithiau disgwyliedig y driniaeth.

Gofal dilynol

Byddwch yn cael manylion am eich apwyntiad dilynol ar ddiwedd eich triniaeth. Efallai y bydd eich apwyntiad dilynol ychydig wythnosau ar ôl i chi gael radiotherapi. Efallai y bydd y tîm adolygu yn eich ffonio'n rheolaidd ar ôl eich triniaeth i fynd drwy rywfaint o gwestiynau, ond byddwn yn rhoi gwybod i chi am y dyddiadau hyn yn agosach at yr amser.

 

Rhifau Ffôn Cyswllt

Ysbyty Felindre 02920 615 888

 

Radiograffwyr yr Ystafell Fowldio 029 2031 6213

 

Tîm Radiograffydd Adolygu 029 2061 5888 est 6421

 

Cludiant o Ferthyr

Cymorth Canser Merthyr 01685 379633

 

Trafnidiaeth o'r Rhondda

Coeden Rowan Cynon Taf 01443 479369

 

Llinellau cymorth a gwefannau

Llinell gymorth canser Tenovus 0808 808 1010

www.tenovuscancercare.org.uk

 

Cymorth Canser Macmillan 0808 808 0000

www.macmillan.org.uk

 

Maggie's Caerdydd 029 2240 8024

https://www.maggies.org/our-centres/maggies-cardiff/

 

Dim Smygu Cymru 0808 250 6061

www.helpmequit.wales