Mae'r llyfryn hwn yn rhoi gwybodaeth i chi am gael triniaeth radiotherapi yng Nghanolfan Ganser Felindre.
Mae rhifau ffôn cyswllt yn cael eu rhestru ar ddiwedd y llyfryn.
Cofiwch ddod â rhestr o'r meddyginiaethau rydych chi’n eu cymryd ar hyn o bryd bob tro y byddwch yn dod i Felindre.
Mae gwybodaeth i gleifion hefyd ar gael ar wefan Felindre.
Ewch i https://felindre.gig.cymru/gcfelindre.
Ni chaniateir ysmygu ar dir Canolfan Ganser Felindre nac y tu mewn i’r ganolfan. Os hoffech gael cymorth i roi'r gorau iddi, gofynnwch.
Beth yw Radiotherapi?
Mae eich meddyg wedi penderfynu y byddech yn elwa o gwrs o driniaeth radiotherapi.
Mae radiotherapi yn driniaeth ar gyfer canser sy’n defnyddio ymbelydredd egni uchel, pelydrau-x fel arfer. Cyfrifir y math o ymbelydredd a faint a gewch i ddifrodi’r DNA mewn celloedd canser. Mae hyn yn eu hatal rhag rhannu'n iawn fel eu bod yn cael eu dinistrio. Mae eich triniaeth wedi'i chynllunio i osgoi cymaint o feinwe iach â phosibl. Fodd bynnag, mae rhywfaint o feinwe iach yn cael ei effeithio, sydd yn gallu achosi sgil-effeithiau. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei hesbonio gan eich meddyg, ac efallai y byddwch yn derbyn llyfryn ar wahân yn ymwneud â'ch canser.
Tîm Radiotherapi Felindre @ Nevill Hall
Yr enw ar y meddyg sy'n gyfrifol am eich gofal yw’r Oncolegydd Clinigol. Bydd yn rhagnodi eich triniaeth radiotherapi. Bydd y driniaeth yn cael ei chynllunio gan dîm o ffisegwyr a radiograffwyr cynllunio.
Byddwch yn cwrdd â thîm o radiograffwyr therapiwtig:
Mae Felindre yn ysbyty addysgu, felly gall eich tîm gynnwys myfyrwyr dan hyfforddiant. Os nad ydych eisiau i fyfyriwr fod yn bresennol yn ystod eich apwyntiadau, rhowch wybod i ni.
Cludiant yn ôl ac ymlaen o Felindre @ Nevill Hall
Os oes angen cludiant ysbyty arnoch, rhowch gymaint o rybudd â phosibl i ni drefnu hyn ar eich cyfer. Mae galw mawr am gludiant, felly bydd angen i chi fod yn barod i aros am beth amser i gael eich codi a mynd â chi adref. Gall rhai grwpiau cymorth lleol drefnu cludiant hefyd. Gall cleifion sydd ar fudd-daliadau penodol hawlio costau teithio. Gofynnwch pan fyddwch yn dod am eich triniaeth.
Gwybodaeth i roi gwybod i ni amdani cyn dechrau
Mae'n bwysig nad ydych yn beichiogi yn ystod eich triniaeth, oherwydd gall radiotherapi niweidio babi sy'n datblygu. Os tybiwch eich bod yn feichiog, dywedwch wrth y radiograffwyr ar unwaith.
Os oes gennych ddyfais electronig cardiaidd (CIED) fel rheolydd calon neu ddiffibriliwr, rhaid i chi ddweud wrth eich meddyg neu radiograffydd cyn neu yn ystod eich apwyntiad cynllunio cyntaf.
Cyrraedd yr Adran
Mae Uned Radiotherapi Felindre @ Nevill Hall wedi'i lleoli yng nghefn Ysbyty Nevill Hall. Dilynwch y ffordd unffordd o amgylch cefn yr ysbyty a'r arwyddion ar gyfer Uned Radiotherapi Felindre @ Nevill Hall. Pan rydych yn cyrraedd yr Uned Radiotherapi mewn car, gyrrwch i mewn i'r maes parcio ar ochr arall yr adeilad a gyrrwch i fyny at y bar wrth fynedfa'r maes parcio. Bydd arwyddion clir ar gyfer y bar. Stopiwch wrth y bar a defnyddiwch y botwm intercom i siarad gydag aelod o staff. Rhowch wybod iddyn nhw eich bod chi'n mynychu apwyntiad, a byddan nhw'n codi'r bar i'ch gadael chi drwyddo. Bydd y groesfan i gerddwyr yn mynd â chi at fynedfa Uned Radiotherapi Felindre @ Nevill Hall. Ewch i mewn i'r dderbynfa i gofrestru, lle byddwch yn cael eich cyfeirio i'r ardal ofynnol ar gyfer eich apwyntiad. Dewch â'ch llythyr apwyntiad gyda chi.
Cynllunio eich Radiotherapi
Ar gyfer eich sgan cynllunio, byddwn yn gofyn i chi orwedd yn llonydd ar soffa galed. Er mwyn eich helpu i aros yn yr un safle, byddwn yn defnyddio mowldiau plastig a chlustogau ewyn/rwber, y gellir eu hail-leoli yn eich sgan cynllunio. Ni ellir newid y safle hwn yn ystod y driniaeth, felly mae'n bwysig eich bod chi'n gyfforddus. Rhowch wybod i'r radiograffwyr os nad ydych chi, fel y gellir gwneud addasiadau. Os yw gorwedd yn fflat yn boenus i chi, mae'n bwysig dod â meddyginiaeth lleddfu poen gyda chi.
Bydd y soffa'n cael ei symud drwy'r twll yn y peiriant, a gall stopio mewn safleoedd gwahanol i gymryd y sgan cynllunio. Bydd y radiograffwyr yn gadael yr ystafell i droi'r peiriant ymlaen, ond byddant bob amser yn eich gwylio. Gellir stopio’r sgan unrhyw bryd drwy roi gwybod i'r radiograffwyr drwy godi eich braich neu drwy chwifio. Nid ydych yn gweld nac yn teimlo unrhyw beth yn ystod y sgan.
Dyma'r sganiwr CT y mae Felindre @ Nevill Hall yn ei ddefnyddio ar gyfer cynllunio triniaeth.
Mae gan wahanol ardaloedd triniaeth wahanol safleoedd gosod.
Y fron – Bydd eich breichiau uwch eich pen, ond bydd eich symudedd yn cael ei wirio ymlaen llaw, a gellir addasu offer i wneud hyn yn haws.
Pelfis – Byddwch yn gorwedd ar eich cefn ar y soffa gyda'ch breichiau ar draws eich brest. Mae’n bwysig iawn eich bod yn yfed digon o ddŵr cyn dod i’ch apwyntiadau, yn enwedig os yw eich apwyntiad yn y bore. Bwytewch fel arfer.
Rydym yn cynllunio eich triniaeth i weddu i chi, a gall fod yn wahanol i'r rhai a eglurir yn y llyfryn hwn.
Efallai y bydd gennych farciau ar eich croen i helpu'r radiograffwyr i'ch lleoli ar gyfer eich triniaeth radiotherapi. Mae'r rhain fel arfer yn farciau parhaol bach a elwir yn aml yn datŵs. Os ydych chi'n poeni am gael marciau parhaol ar eich croen, trafodwch hyn gyda'ch radiograffydd.
Tatŵ triniaeth barhaol
Yn ystod eich sgan cynllunio, efallai y byddwch yn cael pigiad o liw i'ch gwythïen, a elwir yn gyferbyniad. Gall hyn helpu'r meddyg i weld rhai ardaloedd yn gliriach wrth iddo gynllunio'ch triniaeth.
Gall eich apwyntiad cynllunio bara hyd at 2 awr oherwydd unrhyw baratoadau sydd eu hangen ymlaen llaw. Dylai'r sgan cynllunio ei hun bara 15-30 munud yn unig. Bydd llun adnabod hefyd yn cael ei dynnu yn yr apwyntiad hwn a fydd yn cael ei ddefnyddio drwy gydol eich triniaeth.
Gellir rhoi triniaeth yr un diwrnod, ychydig ddyddiau neu ychydig wythnosau ar ôl eich sgan cynllunio CT; yn dibynnu ar y rheswm dros eich triniaeth; bydd eich oncolegydd yn esbonio hyn i chi. Efallai y cewch eich apwyntiad cyntaf yn eich apwyntiad cynllunio. Os na, bydd yn cael ei anfon yn y post atoch chi.
Cael eich Radiotherapi
Mae 2 beiriant radiotherapi wedi'u labelu’n ETHOS 1 ac ETHOS 2, lle byddwch chi'n ail-greu eich safle yn eich sgan CT cynllunio.
Fel arfer, rhoddir radiotherapi dros nifer o sesiynau triniaeth; bydd nifer y sesiynau yn dibynnu ar y math o ganser sydd gennych a nod y driniaeth.
Gall pob sesiwn driniaeth gymryd rhwng 10 a 30 munud. Mae'r rhan fwyaf o'r amser yn cael ei dreulio yn eich rhoi yn yr un safle ag yr oeddech ynddo ar gyfer eich sgan cynllunio CT. Mae'r driniaeth ei hun fel arfer dim ond yn cymryd ychydig funudau.
Er mwyn eich rhoi yn y safle cywir, bydd y radiograffwyr yn defnyddio'r marciau ar eich croen a gafodd eu gwneud yn eich sgan cynllunio. Mae'n bwysig eich bod yn teimlo'n gyfforddus, gan y bydd angen i chi orwedd yn llonydd ar gyfer eich triniaeth. Unwaith y byddwch yn y safle cywir, bydd y radiograffwyr yn gadael yr ystafell i droi'r peiriant ymlaen. Byddant yn eich gwylio ar gamera. Gellir stopio’r driniaeth unrhyw bryd drwy roi gwybod i'r radiograffwyr drwy godi eich braich neu drwy chwifio.
Ni fyddwch yn gweld nac yn teimlo unrhyw beth pan fydd y peiriant wedi'i droi ymlaen, ond efallai y byddwch yn clywed sŵn suo wrth i'r peiriant symud o'ch cwmpas. Bydd y radiograffwyr yn tynnu sganiau a lluniau rheolaidd drwy gydol eich triniaeth. Mae hyn i sicrhau bod y driniaeth yn cael ei rhoi'n gywir, yn hytrach na dangos sut mae'r driniaeth yn mynd.
Unwaith y bydd y sesiwn driniaeth wedi dod i ben, bydd y radiograffwyr yn dod yn ôl i'r ystafell. Mae'n bwysig eich bod yn aros yn yr un safle nes bod y radiograffwyr yn dweud wrthych ei bod yn ddiogel codi oddi ar y gwely. Ar ôl hyn, gallwch barhau â’ch diwrnod arferol, neu fynd yn ôl i'r ward os ydych yn glaf mewnol.
Os hoffech chi wylio sut mae radiotherapi yn cael ei roi yn Felindre, ewch i www.youtube.com/user/Velindrecc.
Rhoddir gwybodaeth ar y sgil-effeithiau i chi, naill ai mewn llyfryn/taflen ar wahân, wedi'i hegluro gan eich ymgynghorydd a'i rhoi ar eich ffurflen cydsynio.
Os hoffech siarad â rhywun am eich triniaeth radiotherapi, cysylltwch â'r Clinig Adolygu Radiotherapi.
Beth allaf ei ddisgwyl ar ôl i'r driniaeth ddod i ben?
Mae gan radiotherapi effaith ohiriedig, a bydd y sgil-effeithiau'n parhau hyd yn oed ar ôl i'ch triniaeth ddod i ben. Maent yn tueddu i gyrraedd eu hanterth tua 7 i 14 diwrnod ar ôl eich sesiwn radiotherapi ddiwethaf, felly peidiwch â dychryn os byddant yn gwaethygu.
Mae amseroedd adferiad yn amrywio o berson i berson, ond dylai’r sgil-effeithiau wella'n raddol dros y 6 i 12 wythnos ganlynol.
Yn yr wythnosau ar ôl eich triniaeth, byddwch yn cael eich adolygu gan yr arbenigwyr sydd wedi bod yn gofalu amdanoch. Bydd hyn yn amrywio yn dibynnu ar eich diagnosis a threfn eich triniaeth, ond bydd eich tîm triniaeth yn eich cynghori ar hyn.
Mae pawb yn wahanol, a gallant ymateb yn wahanol i driniaeth. Os ydych yn pryderu am unrhyw beth ar unrhyw adeg, ar ôl i chi orffen eich triniaeth, cysylltwch â'ch tîm radiotherapi neu'ch meddyg teulu. Nid yw'n anarferol i bobl fod yn bryderus, ac efallai y byddai'n well ceisio cyngor yn hytrach na phoeni.
Rhifau Ffôn Cyswllt ar gyfer Radiotherapi
Ar gyfer eich apwyntiadau a chludiant ysbyty:
Clercod trefnu apwyntiadau Radiotherapi 02920 196 836
Prif Dderbynfa Felindre @ Nevill Hall: 02920 035 700
Adran gynllunio radiotherapi Felindre @ Nevill Hall: 02920 196 285
Gwybodaeth am driniaeth a chyngor:
Tîm Adolygu Radiotherapi: 0292061 5888 est 6421
Elusennau lleol sy’n darparu trafnidiaeth:
Cludiant o Aberdâr:
Rowan Tree Cancer Care 01443 479369
Cludiant o Ferthyr:
Cancer Aid 01685 379633
Tîm Gofal Cefnogol yng Nghanolfan Ganser Felindre
Hawliau Budd-daliadau a Lles: 02920 316277
Ar gyfer grwpiau cymorth lleol, gofalwyr/cymorth i deuluoedd, gwasanaethau cyfeillio, gofal ysbrydol a siarad â phlant: 02920 196132
Llinellau cymorth a gwefannau
Llinell gymorth cymorth canser Macmillan: 08088080000 9am–8pm
www.macmillan.org.uk
Maggie's Cardiff. Llinell Gymorth 9am-5pm: 02922408024
Gwefan: www.maggies.org/our-centres/maggies-cardiff
Tenovus Llinell Gymorth: 0808 808 1010 8am – 8pm
Gwefan: www.tenovuscancercare.org.uk
Llinell Gymorth Dim Smygu Cymru – Helpa Fi i Stopio: 0808 278 4105 0808 278 4105
Gwefan: www.helpafiistopio.cymru