Neidio i'r prif gynnwy

Mynd â fy Mhwmp Trwytho Elastomerig Symudol adref

Mynd â fy Mhwmp Trwytho Elastomerig Symudol adref:

Gwybodaeth a Rhestri Gwirio i Gleifion

 

 

Bydd fy mhwmp wedi'i gysylltu am:

24 awr

 

46 awr

 

4 diwrnod

 

 

Gwybodaeth gyffredinol

Nod y daflen hon ydy cefnogi cleifion sy'n mynd adref gyda phwmp elastomerig. Bydd y daflen yn cynnwys gwybodaeth ynghylch sut y gall cleifion fonitro'r pwmp gartref, a beth i'w wneud os ydych chi'n amau ​​​​y gallai fod problem gyda'ch pwmp.

 

Beth yw pwmp elastomerig?

Pwmp cludadwy, sydd ddim yn defnyddio trydan ac y gallwch ei daflu, sydd yn cael ei ddefnyddio i roi cemotherapi ydy pwmp elastomerig. Mae gan y pwmp gragen allanol caled, sy'n cynnwys balŵn sy'n dal eich cemotherapi. Mae'r pwmp wedi'i gysylltu â'ch llinell PICC/PORT, a bydd y cemotherapi yn trwytho'n araf dros yr amser trwytho sydd yn cael ei argymell i chi, sydd yn cael ei nodi ar du blaen y llyfryn.

 

Byw gyda'ch pwmp elastomerig

Bydd eich pwmp yn cael ei gario mewn bag ysgwydd a fydd yn cael ei roi i chi gan eich nyrs cemotherapi. Mae'n bwysig bod y bag yn cael ei gario ar yr un uchder â'ch llinell ganolog, a bod y pwmp yn aros yn y bag. Gellir ailddefnyddio’r bagiau, felly dewch â nhw gyda chi ar bob ymweliad.

Er y gallwch barhau fel yr arfer, dylech geisio osgoi gwneud y canlynol:

  • Unrhyw ymarfer corff neu symudiadau egnïol
  • Cael eich pwmp ac/neu eich llinell PICC/PORT yn wlyb
  • Gwneud eich pwmp yn agored i wres neu oerfel eithafol

                        

Fy mhwmp yn fanwl                                                                                                 

 

 

1. Mae'r tiwbiau'n gwrthsefyll plygiadau, ac yn cario'r feddyginiaeth o'r ddyfais i'ch llinell PICC/PORT.

2. Mae Caead y Pwynt Llenwi yn amddiffyn y pwmp.

3. Mae Llinellau Cynnydd yn dangos cynnydd y trwythiad i chi.

4. Mae Cyfyngydd Llif yn rheoli'r gyfradd trwytho.

 

Beth ddylai fy nyrs ei wneud

  • Cyn cysylltu'r pwmp, bydd y nyrs yn cwblhau gwiriad i sicrhau bod y pwmp yn gweithio.
  • Bydd y nyrs yn cysylltu'r pwmp â llinell PORT/PICC y claf, ac yn atodi’r hidlydd i frest y claf.
  • Yna, dylai'r nyrs sicrhau bod y pwmp yn cael ei roi mewn bag gyda sip â chlo.
  • Dylid dad-glampio clamp y llinell, a dylai dwy nyrs fod yn dyst i hyn. Yna, bydd y nyrsys yn llofnodi isod.
  • Bydd y nyrs yn gwneud yn siŵr eich bod chi’n gyfarwydd gyda’r gwiriadau sydd angen cael eu gwneud gartref, ac yn egluro unrhyw faterion sydd yn weddill. Mae manylion am y gwiriadau sydd angen cael eu gwneud gan gleifion yn cael eu rhestru isod.
  • Bydd y nyrs yn sicrhau bod gennych apwyntiad i gael eich pwmp wedi'i ddatgysylltu.

Nyrsys i lofnodi bod y clamp ar y Pwmp Trwytho Elastomerig wedi'i ddad-glampio

Nyrs 1af

 

2il nyrs

 

Beth ddylwn i ei wneud?

Rydym yn gofyn i'r claf wirio'r pwmp 3 gwaith y dydd. Rydym yn gofyn i'r claf chwilio am y pethau canlynol:

  • Gwneud yn siŵr nad ydy'r tiwbiau IV wedi'u clampio nac wedi'u plygu.
  • Gwirio’r balŵn. Dylai'r balŵn wagio'n araf dros sawl awr neu ddiwrnod.
  • Defnyddio’r llinellau cynnydd ar y botel drwytho i fonitro cynnydd dros amser.
  • Gwneud yn siŵr bod y clamp ar y llinell wedi agor.
  • Archwilio’r pwmp am ollyngiadau. Os ydy'r cyffur yn gollwng o'r pwmp, bydd cleifion yn sylwi bod eu rhwymyn, croen, neu eu dillad yn wlyb. Gall cleifion hefyd sylwi ar bowdr gwyn.
  • Llenwi dyddiadur y claf.

 

Dyddiadur y claf

Mae am faint o amser y byddwch wedi'ch cysylltu â'r pympiau yn amrywio, ac mae'n cael ei nodi ar y dudalen flaen. Defnyddiwch y dyddiadur ar gyfer nifer yr oriau neu'r dyddiau y byddwch wedi'ch cysylltu â'r pwmp.

 

Dyddiad ac amser

Tiwbiau IV wedi'u gwirio am blygiadau

Balŵn wedi'i wirio ac yn dadchwyddo

Rhif ar y llinellau cynnydd

Clamp wedi agor

Unrhyw arwyddion o ollyngiadau

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Rhaid i chi gysylltu â'r llinell gymorth triniaeth yn achos y canlynol:

  • Unrhyw arwyddion o ollyngiad o'ch PICC/PORT neu'r pwmp.
  • Unrhyw boen neu anghysur yn safle’r PICC/PORT.
  • Unrhyw chwydd yn safle'r PICC/PORT
  • Unrhyw arwyddion gweladwy o ddifrod i'r pwmp/llinell
  • Os yw'n ymddangos nad yw'r pwmp yn trwytho.

 

Ffoniwch 02920 615888,

a gofynnwch am y llinell gymorth triniaeth