Mae colli rhywun rydych chi’n ei garu neu’n gofalu amdano yn brofiad poenus iawn. Efallai y byddwch yn profi pob math o emosiynau anodd, ac efallai y byddwch yn teimlo fel na fydd y boen a’r tristwch byth yn dod i ben. Mae galar yn effeithio ar bobl mewn ffyrdd gwahanol. Nid oes ffordd gywir nac anghywir o deimlo. Efallai y byddwch yn teimlo llawer o emosiynau ar unwaith, neu’n cael diwrnod da ac yna’n teimlo’n waeth drannoeth. Gall teimladau pwerus ddod yn annisgwyl – fel tonnau ar draeth. Gallwch fod yn sefyll mewn dŵr hyd at eich pengliniau ac yn teimlo eich bod yn ymdopi, ond yna daw ton fawr sy’n eich bwrw oddi ar eich traed ac rydych yn teimlo fel eich bod yn boddi.
Mae galaru yn brofiad unigol iawn. Mae’n dibynnu ar eich personoliaeth, eich ffordd o ymdopi, eich profiadau bywyd, eich ffydd, a natur y golled. Mae’r broses yn cymryd amser – ni ellir ei gorfodi nac ei brysio. Nid oes amserlen “normal” ar gyfer galaru. Mae rhai pobl yn dechrau teimlo’n well mewn wythnosau neu fisoedd; i eraill, mae’n cymryd blynyddoedd. Beth bynnag yw eich profiad, mae’n bwysig bod yn amyneddgar gyda chi’ch hun a gadael i’r broses ddatblygu’n naturiol.
Symptomau cyffredin galar
Er bod colled yn effeithio ar bobl mewn ffyrdd gwahanol, mae llawer yn profi rhai neu’r cyfan o’r symptomau canlynol:
- Sioc ac anghrediniaeth – Yn syth ar ôl colled, gall fod yn anodd derbyn yr hyn sydd wedi digwydd. Efallai y byddwch yn teimlo’n ddideimlad, yn gwadu’r gwir, neu’n disgwyl i’r person ymddangos eto.
- Tristwch – Teimlad dwfn o dristwch, gwacter, hiraeth neu unigrwydd. Efallai y byddwch yn crio llawer neu’n teimlo’n emosiynol iawn.
- Euogrwydd – Efallai y byddwch yn difaru neu’n teimlo’n euog am bethau a wnaethoch neu heb eu gwneud. Gallwch hyd yn oed deimlo’n rhyddhad, ac yna’n euog am hynny.
- Dicter – Efallai y byddwch yn teimlo’n flin gyda chi’ch hun, Duw, meddygon, neu hyd yn oed y person a fu farw.
- Ofn – Gall colled sbarduno pryderon am y dyfodol, am fod ar eich pen eich hun, neu am eich marwolaeth eich hun.
- Symptomau corfforol – Gall galar achosi blinder, cyfog, colli pwysau, poenau, neu anhunedd.
Ymdopi â'ch galar a'ch colled
Y ffactor pwysicaf wrth wella o golled yw cael cefnogaeth pobl eraill. Hyd yn oed os nad ydych chi'n gyfforddus yn siarad am eich teimladau o dan amgylchiadau arferol, mae'n bwysig eu mynegi pan fyddwch chi'n galaru. Mae rhannu eich colled yn gwneud baich galar yn haws i'w gario. O ble bynnag y daw'r gefnogaeth, derbyniwch hi a pheidiwch â galaru ar eich pen eich hun. Bydd cysylltu ag eraill yn eich helpu i wella.
- Trowch at ffrindiau ac aelodau’r teulu – Nawr yw’r amser i bwyso ar y bobl sy’n gofalu amdanoch chi, hyd yn oed os ydych chi’n ymfalchïo yn eich bod chi’n gryf ac yn hunangynhaliol. Dewch ag anwyliaid yn agos yn hytrach na’u hosgoi, a derbyniwch y cymorth a gynigir. Yn aml mae pobl eisiau helpu ond dydyn nhw ddim yn gwybod sut, felly dywedwch wrthyn nhw beth sydd ei angen arnoch chi – boed yn ysgwydd i wylo arni neu help gyda threfniadau’r angladd.
- Gofalwch amdanoch chi'ch hun - Mae galar yn flinedig felly ceisiwch gynnal diet cytbwys, ymarfer corff yn rheolaidd a digon o gwsg. Gwnewch bethau a all eich ymlacio, darllenwch lyfr da, gwrandewch ar gerddoriaeth, ewch am dro yn y wlad neu ar lan y môr.
- Cynlluniwch ymlaen llaw ar gyfer gwyliau a phenblwyddi priodas - Gall y digwyddiadau hyn ddeffro eich galar yn ôl, yn enwedig dyddiad pen-blwydd marwolaeth a hefyd penblwyddi a dyddiadau priodas. Byddwch yn barod am hyn a gwyddoch fod eich emosiynau'n gwbl normal.
- Chwiliwch am gefnogaeth Ysbrydol a Chrefyddol – Os ydych chi'n dilyn traddodiad crefyddol, cofleidiwch y cysur y gall ei ddefodau ei ddarparu. Gall gweithgareddau ysbrydol sy'n ystyrlon i chi fel gweddïo, myfyrio, mynychu lle o addoliad, gwrando ar gerddoriaeth, mynd am dro yn y wlad, gwaith elusennol personol i gyd, ddod â heddwch a seibiant o alar. Os ydych chi'n cwestiynu eich ffydd yn sgil y golled, siaradwch â rhywun o'r ffydd honno, efallai y byddant yn gallu eich helpu i feddwl am bethau.
- Ymunwch â grŵp cymorth – Gall galar deimlo’n unig iawn, hyd yn oed pan fydd gennych anwyliaid o gwmpas. Gall rhannu eich galar gydag eraill sydd wedi profi colledion tebyg helpu. I ddod o hyd i grŵp cymorth galar yn eich ardal, cysylltwch ag ysbytai lleol, hosbisau, cartrefi angladdau, canolfannau cwnsela neu’ch meddyg teulu eich hun.
- Chwiliwch am gymorth Arbenigol a– Os yw eich galar yn teimlo fel gormod i’w ddwyn, os yw’n ymddangos ei fod yn mynd yn gryfach ac yn ddyfnach yn lle dechrau cilio, galwch am gymorth cwnselydd galar profiadol, therapydd, neu seicolegydd clinigol a all eich helpu i weithio trwy emosiynau dwys a goresgyn rhwystrau i’ch galaru. Efallai y bydd eich meddyg teulu lleol yn gallu trefnu hyn i chi. Fel arall, mae croeso i chi gysylltu â’r adran gofal cefnogol yn ysbyty Felindre a all siarad â chi a’ch cynghori.
Y rhif cyswllt ar gyfer gwasanaethau gofal cefnogol yw 029 20196132. neu e-bostiwch vcc.supportivecare@wales.nhs.uk