Er bod llawer i'w wneud o hyd nes ein bod ni’n deall rôl deiet mewn perthynas â'r risg o gael canser, rydym yn dechrau deall mwy gyda thystiolaeth barhaus sy'n dod i'r amlwg.
Pa gysylltiadau sydd rhwng deiet a'r risg o ganser?
Rydym yn gwybod y gall bod dros eich pwysau neu'n ordew (yn enwedig cario pwysau ychwanegol o amgylch ardal y stumog) achosi nifer o broblemau iechyd, sy’n cynnwys cynyddu'r risg o gael sawl math gwahanol o ganser. Felly, mae'n bwysig dros ben ceisio sicrhau nad ydych chi dros eich pwysau. Bydd dilyn deiet cytbwys iach, glynu wrth faint y dognau a argymhellir a bod yn gorfforol egnïol yn helpu gyda hyn.
Nid yw alcohol yn dda i iechyd, ac mae'n gysylltiedig â chynyddu risg o gael o leiaf 10 math gwahanol o ganser. Mae'n bwysig cyfyngu ar ein cymeriant alcohol, a pheidio â mynd dros argymhellion y llywodraeth o 14 uned yr wythnos, a chael o leiaf 2 ddiwrnod di-alcohol bob wythnos. Dylech geisio gael dim mwy na 2-3 uned mewn un diwrnod.
Mae cig coch a chig wedi'i brosesu yn cynyddu'r risg o gael canser y stumog a chanser y coluddyn. Ni ddylech fwyta mwy na 500g o gig coch yr wythnos. Cig eidion, porc, cig oen a chig gafr yw cig coch; mae'n cynnwys briwgig. Dylech osgoi bwyta cig wedi'i brosesu (wedi’i fygu, wedi'i halltu neu gig sydd wedi cael halen neu gadwolion cemegol wedi’i hychwanegu atynt) e.e. corn-bîff, bacwn, cŵn poeth, ham chorizo, salami, pepperoni, a pastrami. Os nad yw selsig a byrgyrs wedi cael eu mygu, eu halltu neu wedi cael cadwolion wedi’u hychwanegu atynt, yna fe'u hystyrir yn gig coch yn hytrach na chigoedd wedi'u prosesu.
Mae'n debyg bod bwydydd sydd â halen ynddynt yn cynyddu'r risg o gael canser y stumog. Mae p'un a yw bwydydd sy'n uchel mewn halen, neu halen ei hun yw’r achos, yn llai clir. Fodd bynnag, mae'n pawb yn gwybod nad yw bwyta llawer o halen yn dda i iechyd, e.e. codi pwysedd gwaed. Felly, ceisiwch gyfyngu ar fwydydd sydd â halen ynddynt, fel cigoedd wedi'u prosesu, llysiau wedi'u cadw â halen e.e. llysiau wedi’u piclo, sinsir a bresych), a physgod a gedwir gan halen. Ceisiwch gyfyngu eich cymeriant halen i ddim mwy na 6g y dydd. Sylwch fod halen yn gallu cael ei guddio mewn llawer o fwydydd.
Ni chanfuwyd cysylltiad cryf rhwng siwgr a chynyddu'r risg o ganser. Mae llawer o erthyglau’r wasg sy'n awgrymu bod 'siwgr yn bwydo canser', ond mae hyn yn seiliedig ar wyddoniaeth wael, gan fod angen glwcos ar bob un o'n celloedd i weithredu – boed yn gelloedd canser neu'n gelloedd iach. Fodd bynnag, mae dietau sy'n uchel mewn siwgr yn aml yn uchel mewn calorïau. Mae hyn yn gallu arwain at fod dros eich pwysau neu'n ordew, sydd yn gallu cynyddu'r risg o gael sawl math gwahanol o ganser ac sy’n gallu cyfrannu at iechyd deintyddol gwael. Felly, argymhellir eich bod chi’n ceisio cyfyngu ar y siwgr yn eich deiet a dilyn deiet cytbwys iach.
Mae ffrwythau a llysiau yn lleihau eich risg o gael canser (er enghraifft y geg, y gwddf a'r ysgyfaint). Mae'n bwysig bwyta o leiaf 5 dogn o ffrwythau a llysiau'r dydd, a cheisio bwyta amrywiaeth o wahanol ffrwythau a llysiau. Mae un dogn tua 80g (neu 150ml o sudd), ac mae'n cynnwys ffrwythau neu lysiau ffres/wedi’u rhewi/tun/sych. Dylech geisio 'bwyta enfys' i gael sbectrwm llawn o'r holl fitaminau a mwynau gwahanol.
Mae ffibr yn y deiet yn bwysig er mwyn lleihau'r risg o ganser y coluddyn. Gellir darganfod ffibr mewn ffrwythau a llysiau, grawniau cyflawn, corbys, cnau a hadau. Ceisiwch gynnwys y bwydydd hyn yn eich deiet.
Awgrymiadau i gynyddu’r ffibr yn eich deiet:
Mae llawer iawn o wybodaeth am ddeiet a maeth ar gael, yn enwedig gyda chanser mewn golwg. Mae'n bwysig, os ydych chi'n gwneud eich ymchwil eich hun ar ddeiet a chanser, eich bod chi'n dewis ffynonellau gwybodaeth parchus sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Mae gennym amrywiaeth o'n taflenni cyngor diet ein hunain i helpu gyda llawer o'r sgîl-effeithiau a phryderon mwy cyffredin ac mae'r rhain wedi'u rhestru ar waelod y dudalen hon
Mae gan Macmillan hefyd amrywiaeth o adnoddau rhagorol y gellir ymddiried ynddynt:
Os hoffech wybod mwy am ddeiet a chanser, rydym yn argymell y gwefannau canlynol:
Macmillan.org.uk - https://www.macmillan.org.uk
GIG Byw'n dda - www.nhs.uk/live-well
Ymchwil canser y DU - www.cancerresearchuk.org
Cronfa Ymchwil Canser y Byd - www.wcrf-uk.org
Cymdeithas Ddeieteg Prydain - Ffeithiau Bwyd - https://www.bda.uk.com/foodfacts/home