Mae Canolfan Ganser Felindre ar gyrion gogleddol Caerdydd, yn agos at gyffordd 32 yr M4 (Coryton).
Os ydych chi'n defnyddio 'satnav', ein cod post yw CF14 2TL.
O'r dwyrain ac o'r gorllewin, ewch ar hyd yr M4 a gadewch ar gyffordd 32 Coryton. O'r Gogledd, ewch ar yr A470 i'r de gan adael wrth y gyffordd (32) ar gyfer yr M4 (Coryton).
Mae modd i gleifion barcio o flaen y safle ac yng nghefn y safle. Er nad oes rhaid talu i barcio, mae ein safle'n gallu bod yn brysur. Dylech chi neilltuo digon o amser cyn eich apwyntiad er mwyn parcio.
Mae bysiau rhif 25 a 24 Bws Caerdydd yn stopio y tu allan i'r ganolfan. Am wybodaeth amserlen lawn, ewch i wefan Cardiff Bus.
Mae gan gwmnïau bysiau eraill safleoedd bws ger Felindre. Am y rhain ac am ragor o wybodaeth am amseroedd a gwasanaethau, ewch i'w gwefan isod.
Y gorsafoedd trên agosaf yw Llandaf a Coryton (tua 10-15 munud o waith cerdded o Felindre).
Am wybodaeth ynglŷn ag amseroedd, ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru.
[INVALID]