Ewch i Google Maps am gyfarwyddiadau.
Mae 11 o leoedd i barcio'n uniongyrchol y tu allan i'r uned. System 'y cyntaf i'r felin' yw hon. Byddwn ni'n rhoi trwydded barcio i chi wrth gyrraedd yr uned i'w defnyddio ar gyfer y diwrnod hwnnw. Os yw'r maes parcio'n llawn, bydd modd parcio ym mhrif feysydd parcio'r ysbyty.
Traveline Cymru – Fy Nhaith Iechyd
Ewch i mewn i'r ysbyty drwy fynedfa Rhymni. Cerddwch ar hyd y coridor nes i chi weld yr arwydd ar gyfer yr Uned Gemotherapi Felindre @ Tywysog Siarl ar yr ochr dde uwchben y drws dwbl (gyferbyn â'r grisiau ar gyfer yr adran mamolaeth).
Yr orsaf reilffordd agosaf yw Merthyr Tudful, sydd oddeutu 2 filltir i ffwrdd.
Mae Google Maps yn gallu cynnig opsiynau ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus bellach.