Er mwyn sicrhau iechyd a diogelwch ein cleifion a'n staff, ein blaenoriaeth gyntaf yw atal a rheoli heintiau. Byddwn bob amser yn ceisio ystyried anghenion cleifion unigol, ac yn gallu parhau i ddarparu ar gyfer ymweliadau tosturiol ar gyfer cleifion mewnol sydd wedi cael eu cytuno ymlaen llaw gyda phrif nyrs/rheolwr y ward. Efallai y byddwn yn trefnu ymweliad yn yr awyr agored hefyd os yw'n ymarferol gwneud hynny. Ni allwn ddarparu ar gyfer ymwelwyr mewn mannau eraill yn yr ysbyty fel mater o drefn, oni bai bod hynny mewn amgylchiadau eithriadol.
Os hoffech drafod hyn ymhellach, cysylltwch â’r adran berthnasol.
Mae diogelwch ein cleifion, ein staff a’n hymwelwyr yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni. Byddwn yn rhoi gwybod am unrhyw newidiadau pellach i chi drwy ein gwefan, ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, a’n staff clinigol.
Diolch yn fawr am eich cydweithrediad.
Erbyn hyn, does dim angen i staff, cleifion nac ymwelwyr wisgo masg neu orchudd wyneb yng Nghanolfan Ganser Felindre, ac eithrio yn y mannau canlynol:
Mae arwyddion o gwmpas yr ysbyty i esbonio’r rheolau. Fodd bynnag, mae croeso i chi barhau i wisgo masg neu orchudd wyneb os byddai hynny’n well gennych.
Dylech wneud pob ymdrech i fynychu eich apwyntiadau fel yr arfer, oni bai ein bod ni wedi cysylltu â chi a'ch cynghori fel arall.
Os ydych chi’n holi am eich apwyntiad neu am eich apwyntiad i gael triniaeth, cysylltwch ag ysgrifennydd eich meddyg ymgynhorol. Fodd bynnag, os ydych chi’n cael triniaeth am ganser ar hyn o bryd ac yn teimlo'n anhwylus, gyda thymheredd neu unrhyw rai o'r arwyddion neu’r symptomau ar eich cerdyn rhybudd, cysylltwch â Llinell Gymorth Triniaeth Felindre ar 02920 615888, a byddwn yn eich ffonio chi nôl.
Rydym yn gofyn yn garedig a fyddai modd i gleifion gael eu gollwng i gael triniaeth a'u casglu wedyn, er mwyn osgoi unrhyw berthnasau/ffrindiau rhag gorfod aros yn y Ganolfan ar adeg y driniaeth. Pwrpas hyn ydy ceisio lleihau'r risg o haint yn yr unedau dydd. Os ydy cleifion yn teimlo eu bod nhw angen cael rhywun yno i’w cefnogi nhw, siaradwch â'r nyrs sy'n gyfrifol am yr uned ar ddiwrnod eich triniaeth.
Paratoi ar gyfer eich triniaeth:
Os oes rhywun wedi gofyn i chi radio eich gwenwyndra, defnyddiwch y daflen ganlynol: