Neidio i'r prif gynnwy

Asesiad Baich Anghymesur | Mai 2024

Cyflwyniad

Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol (Rhif 2)) 2018.

Mae darparu gwybodaeth sy'n hygyrch yn bwysig i ni fel y gallwn sicrhau bod rhoddwyr, cleifion ac aelodau'r cyhoedd yn gallu cyrchu ein gwasanaethau.

Mae ein Datganiad Hygyrchedd yn amlinellu sut rydym yn cydymffurfio â rheoliadau hygyrchedd. Mae’r rheoliadau hygyrchedd yn datgan os ydym yn credu y byddai proses i gydymffurfio yn gosod baich anghymesur arnom, gallwn negyddu’r elfen honno o hygyrchedd.

Cwmpas

Mae'r asesiad hwn yn ymwneud â nifer fach o feysydd penodol o wefan yr Ymddiriedolaeth. Mae'r adrannau hyn o fewn y rhan 'Amdanom ni' o'r wefan, gan gynnwys 'Bwrdd yr Ymddiriedolaeth Cyhoeddus,' 'Pwyllgorau,' 'Cofnodion Datgeliadau Rhyddid Gwybodaeth' a 'Pholisïau.'

Mae’r adrannau hyn yn bodoli gan fod gennym rwymedigaeth gyfreithiol i gyhoeddi ein holl bapurau bwrdd, papurau pwyllgor, adroddiadau, cofnod datgeliadau, polisïau a gweithdrefnau. Mae ganddynt lawer o PDFs.

Mae dau brif ddiben ar gyfer gwybodaeth ar y wefan hon:

  1. Gwybodaeth gyffredinol i gleifion ac aelodau'r cyhoedd

Mae gwybodaeth sydd wedi'i bwriadu ar gyfer cleifion ac aelodau'r cyhoedd ar gael fel tudalennau gwe HTML. Os oes PDF ar gael, mae hynny at ddibenion lawrlwytho yn unig a bydd yn ychwanegol at dudalen we HTML.

  1. Gwybodaeth gorfforaethol a thechnegol.

Rydym yn sicrhau bod llawer o ddogfennau ar gael i'r cyhoedd er budd tryloywder. Fodd bynnag, nid yw'r dogfennau hyn wedi'u cynllunio gyda'r cyhoedd mewn golwg. Yn hytrach maent yn canolbwyntio ar anghenion y gynulleidfa dechnegol/arbenigol.

Mae’r is-adrannau canlynol o’r wefan yn cynnwys casgliadau o wybodaeth y mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn hawlio baich anghymesur:

Nid yw'r ffeiliau hyn yn bodloni safonau hygyrchedd yn gyson, megis:

  • Teitlau tudalennau
  • Penawdau a labeli
  • Cynnwys di-destun
  • Penawdau tabl
  • Cyferbyniad (Isafswm)
  • Trefn ffocws
  • Dilyniant ystyrlon

Y tu allan i’r cwmpas:

Gwybodaeth gorfforaethol a thechnegol (er enghraifft: Nid yw cyfarfodydd cyhoeddus Bwrdd yr Ymddiriedolaeth, cyfarfodydd Pwyllgor, Cofnodion Datgeliadau Rhyddid Gwybodaeth, Polisïau a Gweithdrefnau) yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd, Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018, yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio dogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 (yn agor mewn tab newydd) os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Felly, nid ydym yn bwriadu trwsio unrhyw ddogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018.

Budd

Y manteision o wneud y dogfennau hyn yn fformatau hygyrch yw:

  • Byddai'r wybodaeth ar gael i bawb, megis y rhai sy'n defnyddio technolegau cynorthwyol.
  • Ni fyddai'n rhaid i ddefnyddwyr gysylltu â ni i ofyn am fersiynau hygyrch o ddogfennau.

Baich

Rydym wedi cynnal asesiad gwrthrychol o’r adnoddau sydd eu hangen i drosi’r PDF nad yw’n cydymffurfio sydd o fewn y cwmpas.

Asesiad

Darganfyddom y canlynol:

  • Mae mwy na 800 o ffeiliau PDF wedi'u huwchlwytho o fewn y maes a amlinellwyd yn y cwmpas.
  • Mae’r dogfennau hyn fel a ganlyn: 26 o ddogfennau cyfarfodydd cyhoeddus Bwrdd yr Ymddiriedolaeth, 95 o ddogfennau cyfarfodydd pwyllgor, 4 Adroddiad Blynyddol, 160 o ddogfennau polisi, a 518 o Gofnodion Datgeliadau Rhyddid Gwybodaeth.
  • Dros gyfnod o chwe mis rhwng 1 Tachwedd 2023 a 30 Ebrill 2024, roedd yr adrannau hyn o’r wefan yn cyfrif am 1,186 o ymweliadau â thudalennau gwe gyda’i gilydd. (Sylwer, dim ond ar dudalennau gwe unigol y mae dadansoddeg ar gael ac nid ar gyfer dogfennau penodol oherwydd cyfyngiadau Google Analytics.)
  • Fe wnaethom brofi sawl dogfen sampl i amcangyfrif yr amser y byddai'n ei gymryd i'w trosi i fformat hygyrch. Gwnaethom hyn drwy ddefnyddio Adobe Acrobat a Microsoft Word i wneud diweddariadau hygyrch. Yn y ddau achos, cymerodd hyn o leiaf awr ar gyfer dogfennau cymedrol eu maint. Ar gyfer dogfennau mwy (fel papurau cyfarfodydd Bwrdd yr Ymddiriedolaeth a Phwyllgorau), byddai hyn yn cymryd llawer mwy o amser. Er y byddai bod yn fwy cyfarwydd â’r broses yn lleihau’r amser y byddai’n ei gymryd i drosi pob un o’r 800 PDF yn ddogfennau hygyrch, mae amcangyfrif ceidwadol i drosi’r holl ddogfennau’n llawn dros 1,000 o oriau yn gyfforddus. Byddai hyn yn cyfateb i fwy na chwe mis ar gyfer un aelod o staff amser llawn yn gweithio ar drosi dogfennau yn unig.
  • Mae'r tîm Llywodraethu Corfforaethol yn gyfrifol am y rhan fwyaf o'r 800 PDF. Mae'n dîm bach ac mae ganddo adnoddau cyfyngedig. Yn seiliedig ar eu llwyth gwaith presennol, byddai gofyn iddynt drosi’r dogfennau yn eu rhoi dan faich anghymesur o ran adnoddau dynol, cost ac amser. Opsiwn arall fyddai asiantaeth allanol ar gontractau tymor byr ond oherwydd y cyfyngiadau ariannol sy’n wynebu GIG Cymru, nid yw hyn yn ymarferol.
Gwybodaeth Ychwanegol:
  • Mae’r wefan wedi bod yn fyw ers 2020 ac nid ydym erioed wedi derbyn cwyn am ddefnyddiwr yn methu â chael mynediad i PDF. Yn ogystal, mae hysbysiad wedi'i ychwanegu at dudalennau gwe sy'n cynnal dogfennau PDF gyda chyfarwyddiadau ar sut i ofyn am fersiwn hygyrch o'r ddogfen.
  • Gan fod y rhan fwyaf o'r dogfennau ar gyfer cyfarfodydd blaenorol, nid ydynt yn debygol o adlewyrchu sefyllfa bresennol yr Ymddiriedolaeth. Dim ond ciplun hanesyddol o'n sefyllfa ar y pryd y maent yn ei gynnig ac mae eu gwerth yn gyfyngedig os yw defnyddiwr yn chwilio am y sefyllfa bresennol.

Yn seiliedig ar yr asesiad uchod, rydym o'r farn bod trosi 800 o ffeiliau PDF yn ddogfennau hygyrch o werth cyfyngedig i'r cyhoedd ac yn ddefnydd gwael o adnoddau'r Ymddiriedolaeth.

Rydym wedi asesu y byddai trwsio pob PDF a gyhoeddwyd ar ein gwefan ers 21 Medi 2018 yn gosod baich anghymesur ar yr Ymddiriedolaeth.

Paratowyd yr asesiad hwn ym mis Mai 2024.

Dadansoddiad ategol o ddata (1 Tachwedd 2023 - 30 Ebrill 2024)

Cyfarfodydd Cyhoeddus Bwrdd yr Ymddiriedolaeth
Cyfanswm nifer y dogfennau PDF: 26
Ymwelwyr unigryw dros gyfnod o chwe mis: 44

Y Pwyllgor Ansawdd, Diogelwch a Pherfformiad
Cyfanswm nifer y dogfennau PDF: 17
Ymwelwyr unigryw dros gyfnod o chwe mis: 141

Pwyllgor Datblygu Strategol
Cyfanswm nifer y dogfennau PDF: 14
Ymwelwyr unigryw dros gyfnod o chwe mis: 59

Y Pwyllgor Archwilio
Cyfanswm nifer y dogfennau PDF: 12
Ymwelwyr unigryw dros gyfnod o chwe mis: 63

Cronfeydd Elusennol
Cyfanswm nifer y dogfennau PDF: 9
Ymwelwyr unigryw dros gyfnod o chwe mis: 106

Is-bwyllgor Adolygu Perfformiad Buddsoddiadau’r Cronfeydd Elusennol
Cyfanswm nifer y dogfennau PDF: 3
Ymwelwyr unigryw dros gyfnod o chwe mis: 21

Is-bwyllgor Craffu’r Rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Canser
Cyfanswm nifer y dogfennau PDF: 31
Ymwelwyr unigryw dros gyfnod o chwe mis: 110

Is-bwyllgor Ymchwil, Datblygu ac Arloesi
Cyfanswm nifer y dogfennau PDF: 9
Ymwelwyr unigryw dros gyfnod o chwe mis: 62

Adroddiadau Blynyddol
Cyfanswm nifer y dogfennau PDF: 4
Ymwelwyr unigryw dros gyfnod o chwe mis: 111

Polisïau
Cyfanswm nifer y dogfennau PDF: 160
Ymwelwyr unigryw dros gyfnod o chwe mis: 389*

*Noder: Efallai mai'r rheswm posibl am nifer uwch o ymwelwyr â'r dudalen bolisïau yw oherwydd dyma'r prif leoliad ar gyfer yr holl bolisïau i’r staff ar gyfer 1,600+ o staff Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre. Gwnaeth Llywodraethu Corfforaethol y penderfyniad i letya'r polisïau mewn un lle er mwyn osgoi dyblygu rhwng y fewnrwyd a'r rhyngrwyd. Mae nifer yr ymwelwyr unigryw yn cyfrif am y rhai sy'n glanio ar y brif dudalen polisïau ac nid ei is-dudalennau cysylltiedig.

Cofnodion Datgeliadau Rhyddid Gwybodaeth
Cyfanswm nifer y dogfennau PDF: 518
Ymwelwyr unigryw dros gyfnod o chwe mis: 80