Neidio i'r prif gynnwy

Rheolau ymgysylltu ar y cyfryngau cymdeithasol

A person is sat down and using a smart phone device.

Diogelu

Rydym am fod yn lle diogel er mwyn i bawb rannu eu barn, gofyn cwestiynau a gwneud awgrymiadau.

Byddwn yn monitro a, phan fo hynny’n briodol, cymedroli ein cyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol yn rheolaidd yn ystod yr wythnos waith. Efallai y bydd oedi cyn ateb cwestiynau ac ymholiadau ar y penwythnos. Efallai y byddwn hefyd yn diffodd y sylwadau os bydd ein cyfrifon yn cael ei sbamio sy’n golygu na fyddwch yn medru postio ar y dudalen ar brydiau.

I helpu pawb i ddeall sut y byddwn yn monitro ac yn cymedroli ein cyfrifon, rydym wedi datblygu rheolau ymgysylltu. Mae disgwyl i bawb sy’n ymgysylltu â ni ddilyn y rheolau hyn.

Dyma ein rheolau:

  1. Byddwch yn dosturiol ac yn garedig am straeon neu brofiadau pobl. Byddwch yn gwrtais ac yn garedig.
  2. Parchwch fam pobl eraill, hyd yn oed os nad ydynt yn cyfateb â’ch un chi.
  3. Arhoswch ar y pwnc fel rhan o’ch sylwadau, cwestiwn neu ymateb.
  4. Peidiwch â phostio unrhyw beth na fyddech ei am ei weld ar eich cyfryngau cymdeithasol eich hun.
  5. Os byddwch yn ymateb i sylwadau, ystyriwch a fyddech yn barod ai peidio i adrodd y sylwadau’n uchel ac wyneb yn wyneb.
  6. Rydym yn cadw’r hawl i guddio neu ddileu sylwadau neu gynnwys yr ystyriwn yn amhriodol. Bydd y rhain yn cynnwys:
    • Sylwadau ymosodol a niweidiol
    • Sylwadau sy’n defnyddio iaith amhriodol neu gasineb llafar
    • Ymosodiadau personol, bygythiadau neu sylwadau difenwol
    • Bwlio neu aflonyddu
    • Ymosodiadau neu gyhuddiadau enllibus ynghylch Canolfan Ganser Felindre, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre ac aelodau o’r staff
    • Sylwadau neu ddelweddau sy’n torri deddfau preifatrwydd
    • Cynnwys, sylwadau neu ddelweddau sy’n torri deddfau hawlfraint neu a all fod yn gyfrinachol
  7. Rydym yn cadw’r hawl i rwystro unigolion os byddant yn torri unrhyw un o’r canllawiau ar gyfer ymgysylltu, a hynny heb eglurhad.
  8. Byddwn yn ymdrechu i ateb sylwadau a chwestiynau rhesymol a pharchus cyn gynted â phosibl; bydd hyn yn cael ei wneud unwaith ac nid i sylwadau unigol neu drywydd o ymatebion.
  9. Byddwn yn cyfeirio pobl at ein gwefan, pan fydd angen, am ragor o wybodaeth ynglŷn â phwnc.
  10. Barn unigolion yw sylwadau ar ein tudalennau, heblaw am byst corfforaethol, ac nid barn yr Ymddiriedolaeth.
  11. Wrth bostio at gyfrifon Felindre, rydych yn deall bod y wybodaeth hon ar gael yn gyhoeddus a gellir ei defnyddio yn rhan o waith monitro mewnol.

Diolch am eich cydweithrediad.

Cysylltu â ni

Os oes unrhyw gwestiynau gennych, e-bostiwch: Contact.Velindre@wales.nhs.uk