Diogelu
Rydym am fod yn lle diogel er mwyn i bawb rannu eu barn, gofyn cwestiynau a gwneud awgrymiadau.
Byddwn yn monitro a, phan fo hynny’n briodol, cymedroli ein cyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol yn rheolaidd yn ystod yr wythnos waith. Efallai y bydd oedi cyn ateb cwestiynau ac ymholiadau ar y penwythnos. Efallai y byddwn hefyd yn diffodd y sylwadau os bydd ein cyfrifon yn cael ei sbamio sy’n golygu na fyddwch yn medru postio ar y dudalen ar brydiau.
I helpu pawb i ddeall sut y byddwn yn monitro ac yn cymedroli ein cyfrifon, rydym wedi datblygu rheolau ymgysylltu. Mae disgwyl i bawb sy’n ymgysylltu â ni ddilyn y rheolau hyn.
Dyma ein rheolau:
- Byddwch yn dosturiol ac yn garedig am straeon neu brofiadau pobl. Byddwch yn gwrtais ac yn garedig.
- Parchwch fam pobl eraill, hyd yn oed os nad ydynt yn cyfateb â’ch un chi.
- Arhoswch ar y pwnc fel rhan o’ch sylwadau, cwestiwn neu ymateb.
- Peidiwch â phostio unrhyw beth na fyddech ei am ei weld ar eich cyfryngau cymdeithasol eich hun.
- Os byddwch yn ymateb i sylwadau, ystyriwch a fyddech yn barod ai peidio i adrodd y sylwadau’n uchel ac wyneb yn wyneb.
- Rydym yn cadw’r hawl i guddio neu ddileu sylwadau neu gynnwys yr ystyriwn yn amhriodol. Bydd y rhain yn cynnwys:
- Sylwadau ymosodol a niweidiol
- Sylwadau sy’n defnyddio iaith amhriodol neu gasineb llafar
- Ymosodiadau personol, bygythiadau neu sylwadau difenwol
- Bwlio neu aflonyddu
- Ymosodiadau neu gyhuddiadau enllibus ynghylch Canolfan Ganser Felindre, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre ac aelodau o’r staff
- Sylwadau neu ddelweddau sy’n torri deddfau preifatrwydd
- Cynnwys, sylwadau neu ddelweddau sy’n torri deddfau hawlfraint neu a all fod yn gyfrinachol
- Rydym yn cadw’r hawl i rwystro unigolion os byddant yn torri unrhyw un o’r canllawiau ar gyfer ymgysylltu, a hynny heb eglurhad.
- Byddwn yn ymdrechu i ateb sylwadau a chwestiynau rhesymol a pharchus cyn gynted â phosibl; bydd hyn yn cael ei wneud unwaith ac nid i sylwadau unigol neu drywydd o ymatebion.
- Byddwn yn cyfeirio pobl at ein gwefan, pan fydd angen, am ragor o wybodaeth ynglŷn â phwnc.
- Barn unigolion yw sylwadau ar ein tudalennau, heblaw am byst corfforaethol, ac nid barn yr Ymddiriedolaeth.
- Wrth bostio at gyfrifon Felindre, rydych yn deall bod y wybodaeth hon ar gael yn gyhoeddus a gellir ei defnyddio yn rhan o waith monitro mewnol.
Diolch am eich cydweithrediad.
Cysylltu â ni
Os oes unrhyw gwestiynau gennych, e-bostiwch: Contact.Velindre@wales.nhs.uk