Neidio i'r prif gynnwy

Nod Strategol 5

 

Sefydliad cynaliadwy sy’n chwarae ei ran i greu dyfodol gwell i bobl ledled y byd

 

Gwyliwch Carl James, Cyfarwyddwr Trawsnewid Strategol, Cynllunio a Digidol, yn esbonio'r nod strategol hwn...

 

Ein hamcanion yw:

  • Cael eich cydnabod fel Ymddiriedolaeth GIG flaenllaw ar gyfer cynaliadwyedd yn genedlaethol
  • Bod yn sefydliad carbon ‘Net Zero’ y GIG erbyn 2030.
  • Dod yn sefydliad angor yn y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu sy'n gwella eu lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol
  • Cefnogi’r trawsnewid o afiechyd i les ar draws Cymru

Byddwn yn cyflawni hyn drwy:

  • Datblygu modelau gwasanaeth clinigol sy'n cefnogi cynaliadwyedd ee mwy o ofal yn y cartref
  • Rhoi ein strategaeth gynaliadwyedd ar waith
  • Cymhwyso egwyddorion yr economi gylchol yn ein prosesau busnes trwy ddylunio, caffael, ailddefnyddio a chylch bywyd.
  • Darparu rhaglen addysg a dysgu gynhwysfawr sy’n rhoi cyfleoedd dysgu i staff, cleifion, rhoddwyr a phartneriaid i ymgorffori’r 5 ffordd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’u cefnogi i wneud newidiadau ymddygiad cadarnhaol (‘cam bach bob dydd ')
  • Rhoi ein cynllun lleihau carbon ar waith a fydd yn golygu ein bod yn cyflawni Sero Net a thrawsnewid i ynni adnewyddadwy ar gyfer ein gwasanaethau a'n cyfleusterau.
  • Buddsoddi mewn amrywiaeth o waith adnewyddu ac adeiladau newydd a fydd yn cefnogi ein dull o leihau allyriadau carbon ac adeiladau iachach a phobl iachach. Mae’r rhain yn cynnwys:
  • gwaith adnewyddu mawr ar safle Gwasanaeth Gwaed Cymru, Llantrisant erbyn 2024
  • adeiladu Canolfan Loeren Radiotherapi yn Neville Hall erbyn 2024
  • adeiladu Canolfan Ganser Felindre newydd erbyn 2025
  • Gweithredu agwedd ddeniadol at weithio ystwyth ar gyfer ein staff sy’n lleihau teithio y gellir ei osgoi, yn gwella llesiant ac yn cynnig y potensial i gefnogi arian sy’n mynd i gymunedau lleol
  • Gwella ein harlwy i staff, rhoddwyr a chleifion wrth deithio i ac o'n cyfleusterau ar droed, beic a thrafnidiaeth gyhoeddus
  • Defnyddio ein gweithgareddau caffael a gallu Cydwasanaethau GIG Cymru i ysgogi ymagwedd gynaliadwy a chyflawni gwerth moesegol a chymdeithasol ehangach mewn meysydd gan gynnwys cyflogaeth a ffyniant lleol; lleihau carbon; arferion gwrth-gaethwasiaeth ac anfoesegol.
  • Gweithio gyda phartneriaid a’r gymuned leol i nodi ffyrdd y gallwn ddarparu buddion a gwerth ehangach i gymdeithas trwy gyflogaeth a phrentisiaethau, defnyddio ein hadeiladau a’n cyfleusterau fel asedau cymunedol (e.e. ysgolion lleol a grwpiau elusennol yn eu defnyddio; rhaglenni celfyddydol); dod yn sefydliad angor mewn creu lleoedd; a chaffael er mwyn cynyddu cyrhaeddiad yr Ymddiriedolaeth o fewn economi Sylfaenol y Llywodraeth