Cynnwys
Mae’n bleser gennym gyflwyno cynllun strategol Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre sy’n nodi:
- Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud
- Pam mae angen strategaeth newydd arnom
- Ein pwrpas a’n gweledigaeth
- Ein nodau strategol ar gyfer 2033
- Sut y byddwn yn gweithio tuag at 2033
Rydym yn nodi:
- Ein hamcanion ar gyfer 2023 - 2033: yr hyn yr ydym am ei gyflawni
- Sut y byddwn yn ei gyflawni: y camau allweddol y byddwn yn eu cymryd
- Sut y byddwn yn gwybod ein bod wedi cyrraedd yno: y mesurau
Pwy Ydym A Beth Rydym yn Ei Wneud
Sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth ym 1994 ac mae’n un o 12 o sefydliadau iechyd statudol yng Nghymru. Rydym yn gyfrifol am ddarparu nifer o wasanaethau:
Gwasanaethau Canser Felindre
Gwasanaethau oncoleg trydyddol anfeddygol: rydym yn ganolfan driniaeth, addysgu, ymchwil a datblygu arbenigol ar gyfer gwasanaethau oncoleg trydyddol anfeddygol i gleifion o bob rhan o dde-ddwyrain Cymru sy’n gwasanaethu poblogaeth o 1.7 miliwn.
Gwasanaethau Gwaed a Thrawsblaniadau Cymru
Ystod o wasanaethau hanfodol a hynod arbenigol gan gynnwys casglu a chynhyrchu gwaed a chydrannau gwaed i drin cleifion; a chefnogi’r rhaglenni trawsblannu drwy wasanaethau Labordy Trawsblannu ac Imiwnogeneteg Cymru. Mae hwn yn wasanaeth cenedlaethol sy’n cefnogi poblogaeth Cymru o 3.3 miliwn.
Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC)
Rydym yn cynnal PCGC sy’n darparu ystod eang o wasanaethau cymorth i GIG Cymru gan gynnwys caffael, recriwtio a gwasanaethau swyddfa ehangach.
Technoleg Iechyd Cymru
Rydym yn cynnal TIC (HTW), sef corff cenedlaethol sy’n gweithio i wella ansawdd gofal yng Nghymru. Mae’n cydweithio â phartneriaid ar draws y sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a thechnoleg i nodi, arfarnu a chynghori ar fabwysiadu technoleg neu fodelau gofal er mwyn sicrhau dull gweithredu Cymru gyfan.
Pam Mae Angen Strategaeth Newydd Arnom?
Ar draws ein holl wasanaethau a’r system iechyd a gofal ehangach, mae’n amlwg bod pethau’n newid:
- Rydym yn gwasanaethu poblogaeth sy’n tyfu ac yn heneiddio, gydag amrywiaeth o heriau lleol yn ymwneud ag iechyd, afiechyd ac anghydraddoldebau, sy’n gofyn inni gydlynu a chydgysylltu gofal yn well.
- Mae disgwyliadau pobl yn newid gyda’r disgwyliad rhesymol y bydd ein gwasanaethau’n cael eu personoli i’w hanghenion. Mae ein hadeiladau, ein cyfleusterau a’n mannau gwyrdd yn rhan hanfodol o brofiad cleifion, rhoddwyr a staff, maent yn ganolog i wella iechyd meddwl a llesiant, a byddant yn chwarae rhan bwysig wrth ddatblygu cymunedau ffyniannus a chadarn.
- Mae Cymru Iachach yn nodi llwybr clir i symud o afiechyd i lesiant. Mae lleihau effaith amgylcheddol ac iechyd ein hystad yn flaenoriaeth i GIG Cymru.
- Mae technoleg, y Pedwerydd Chwyldro Diwydiannol, yn rhoi cyfle i ofal iechyd drawsnewid y ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau, gan gynyddu’r gwerth i gleifion, rhoddwyr a’n partneriaid mewn ffordd fwy cynaliadwy.
- Mae angen inni leihau allyriadau carbon, ysgogi effeithlonrwydd ynni, lleihau plastigion a gwastraff, gwella ansawdd aer a defnyddio adnoddau’n fwy effeithlon i symud o afiechyd i les.
- Yr argyfwng hinsawdd a’r angen i ddatblygu dull cynaliadwy o fyw ar y blaned; her fyd-eang y mae angen inni ymateb iddi
Ein Pwrpas: Gwella Bywydau
Ein Gweledigaeth: Gofal Ardderchog. Dysgu Ysbrydoledig. Pobl Iachach.
Ein Hegwyddorion Arweiniol: Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015)
Bydd popeth a wnawn yn cyfrannu at ddatblygu:
- Cymru lewyrchus
- Cymru gydnerth
- Cymru iachach
- Cymru sy'n fwy cyfartal
- Cymru o gymunedau cydlynus
- Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
- Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
Sut Byddwn yn Gweithio:
- Hirdymor
- Integreiddio
- Ymwneud
- Cydweithio
- Partneriaeth
Ein Nodau Strategol
Erbyn 2033 byddwn yn cael ein cydnabod fel…
- Eithriadol o ran ansawdd, diogelwch a phrofiad
- Darparwr o fri rhyngwladol o wasanaethau clinigol eithriadol sydd bob amser yn bodloni disgwyliadau ac yn rhagori arnynt
- Sefydliad disglair ar gyfer ymchwil, datblygu ac arloesi yn ein meysydd blaenoriaeth
- Ymddiriedolaeth Prifysgol sefydledig sy’n darparu gwybodaeth a dysg werthfawr iawn i bawb
- Sefydliad cynaliadwy sy’n chwarae ei ran i greu dyfodol gwell i bobl ledled y byd
Sut Byddwn Ni’n Cyflawni Ein Gweledigaeth a’n Nodau Strategol Erbyn 2033?
Rydym yn nodi ein hamcanion a fydd yn helpu i gyflawni ein nodau strategol
Nod Strategol 1: Eithriadol o ran ansawdd, diogelwch a phrofiad
Ein hamcanion yw:
- Darparu gofal heb niwed, y canlyniadau gorau a phrofiad gwych i gleifion a rhoddwyr
- Gwrando ar brofiadau cleifion a rhoddwyr o’n gofal a dysgu oddi wrthynt er mwyn ysgogi gwelliant parhaus
- Bod yn sefydliad sy’n dangos Arweinyddiaeth Dosturiol yn gyson ym mhopeth a wnawn
- Cael ein cydnabod fel ‘Rhagorol’ gan Arolygiaeth Iechyd Cymru, yr Awdurdod Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd a chymheiriaid yn y DU ac yn rhyngwladol am y gwasanaethau a ddarparwn
Byddwn yn cyflawni’r rhain drwy wneud y canlynol:
- Gweithredu gofynion y Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu)
- Gweithredu fframwaith rheoli ansawdd a diogelwch a fydd yn llywio pob cam a gymerwn a phob penderfyniad a wnawn
- Cyflwyno’r rhaglen genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Tosturiol ar draws y sefydliad
- Parhau i ddatblygu diwylliant a arweinir gan ansawdd sy’n gyrru’r safonau uchaf o ofal a diogelwch, a sicrhau bod yr holl staff yn byw’r ethos ‘y safon yr ydych yn cerdded heibio yw’r safon a osodwyd gennym’
- Cael y pethau sylfaenol yn gywir drwy wella mynediad a thrafnidiaeth i’n gwasanaethau: lleihau’r angen am siwrneiau am ofal a gwella meysydd parcio a chludiant cyhoeddus os oes rhaid i chi ymweld â ni
- Parhau i ddatblygu diwylliant agored, tryloyw, cyfiawn a dysgu sy’n caniatáu i ragoriaeth ffynnu
- Datblygu rhaglen gofal iechyd seiliedig ar werth sy’n ein cefnogi i leihau amrywiadau ac aneffeithlonrwydd clinigol direswm, gan ddefnyddio arfer gorau fel ein meincnod
- Darparu addysg, hyfforddiant a chymorth i staff ddatblygu sgiliau gwella a gwybodaeth sy’n llywio safonau ansawdd a diogelwch
- Datblygu ein fframwaith rheoli perfformiad i adrodd ar ein perfformiad o ran ansawdd, diogelwch a phrofiad mewn ffordd syml er mwyn sicrhau bod pawb yn gallu gweld yn hawdd sut rydym yn gwneud
- Meincnodi ansawdd, diogelwch a phrofiad ein gwasanaethau yn genedlaethol ac yn rhyngwladol i nodi dysgu a gwelliant
Nod Strategol 2: Darparwr o fri rhyngwladol o wasanaethau clinigol eithriadol sydd bob amser yn bodloni disgwyliadau ac yn rhagori arnynt
Ein hamcanion yw:
- Cyflawni safonau gofal a gydnabyddir yn genedlaethol ac yn rhyngwladol sy’n cydfynd â thystiolaeth sy’n dod i’r amlwg
- Bod yn bartner dibynadwy a dylanwadol ledled Cymru i ddarparu gwasanaethau iechyd lleol gwych sy’n diwallu anghenion y cyhoedd
- Dod yn arweinydd system yn ein meysydd arbenigedd yn genedlaethol ac yn rhyngwladol
- Dod yn ‘Ganolfan Ragoriaeth’ a darparwr blaenllaw ledled y DU ar gyfer y gwasanaethau tra arbenigol rydym yn eu darparu
- Nodi ystod o wasanaethau newydd y gallai’r Ymddiriedolaeth eu darparu i wella ansawdd, profiad a chanlyniadau ledled Cymru
Byddwn yn cyflawni’r rhain drwy wneud y canlynol:
- Darparu gwasanaethau sy’n cydymffurfio â phob safon statudol a phroffesiynol
- Gweithredu’r Fframwaith Clinigol Cenedlaethol i wella ansawdd, profiad a chanlyniadau’r gwasanaethau a ddarparwn yn barhaus
- Gweithredu ein strategaeth ymgysylltu â chleifion, rhoddwyr a dinasyddion er mwyn clywed yn barhaus yr hyn sydd ei angen ar bobl a’r hyn y maent yn ei werthfawrogi o’n gwasanaethau
- Cyd-ddylunio modelau gofal mewn partneriaeth â phobl o bob rhan o’r gymuned, gyda’r nod o wella mynediad at ein gwasanaethau a darparu gofal yn y cartref neu’n agos i’r cartref lle bynnag y bo’n briodol ac yn ddymunol
- Gweithio gyda’r gymuned a’n partneriaid i leihau anghydraddoldebau mewn gofal iechyd
- Mabwysiadu’n gyflym ganlyniadau ymchwil sy’n seiliedig ar dystiolaeth sy’n gwella ansawdd, diogelwch a phrofiad gofal cleifion a rhoddwyr
- Datblygu a gweithredu ein strategaethau clinigol a gwyddonol a fydd yn nodi pa wasanaethau y byddwn yn eu darparu dros y deng mlynedd nesaf; canolbwyntio ein cynnig ar ddarparu gwasanaethau y credwn y gallwn ddod yn arbenigwyr blaenllaw ynddynt
- Cytuno â’n partneriaid yn y Byrddau Iechyd Lleol a Llywodraeth Cymru ar y rolau arwain systemau y byddwn yn eu cyflawni er mwyn sicrhau’r gwerth mwyaf posibl i’n cleifion, rhoddwyr a phartneriaid
- Gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i gynllunio, ariannu a darparu adeiladau, cyfleusterau a thechnoleg o’r radd flaenaf ar gyfer cleifion, rhoddwyr a staff
- Meincnodi ein perfformiad yn genedlaethol ac yn rhyngwladol i weld sut rydym yn perfformio yn erbyn ein cymheiriaid ac i nodi meysydd dysgu a gwell
Nod Strategol 3: Sefydliad disglair ar gyfer ymchwil, datblygu ac arloesi yn ein meysydd blaenoriaeth
Ein hamcanion yw:
- Darparu ymchwil, datblygiad ac arloesedd o’r radd flaenaf i wella gofal yfory
- Cyflymu gweithrediad ymchwil a darganfyddiadau newydd i wella profiadau a chanlyniadau ein cleifion a rhoddwyr
- Blaenoriaethu ymchwil, datblygiad ac arloesedd sy’n glinigol berthnasol ac sy’n canolbwyntio ar y claf a’r rhoddwr
- Adeiladu diwylliant cynaliadwy o ymchwil, datblygu ac arloesi aml-broffesiynol sy’n cynnwys y sefydliad cyfan
- Cyhoeddi a hyrwyddo ymchwil o’r safon uchaf sy’n ennill cydnabyddiaeth yn y DU ac yn rhyngwlado
Byddwn yn cyflawni’r rhain drwy wneud y canlynol:
- Gweithredu ein strategaeth ymchwil, datblygu ac arloesi sy’n nodi rhaglen waith wedi’i blaenoriaethu ym maes gwasanaethau canser, gwaed a thrawsblannu
- Rhoi mynediad i bob rhoddwr, claf a gofalwr at yr ymchwil ddiweddaraf
- Datblygu triniaethau, ymyriadau a gofal newydd drwy gynyddu astudiaethau newydd yn lleol: ehangu mynediad at therapïau datblygedig y cyfnod cynnar/ tiwmor solet ac integreiddio ymchwil newydd i astudiaethau clinigol
- Adeiladu diwylliant o chwilfrydedd lle mae ymchwil, datblygu ac arloesi yn ‘Ddigwyddiad Bob Amser’ sy’n cynnwys pob un o’r gweithwyr yn yr Ymddiriedolaeth, gan alluogi’r staff i herio’r status quo a’i wella
- Cynyddu nifer yr ymchwilwyr arweiniol ac academyddion clinigol o fewn yr Ymddiriedolaeth
- Recriwtio entrepreneuriaid anrhydeddus ac academyddion wrth ddatblygu intrapreneuriaid, gyda llif o staff rhwng ein sefydliadau partner ar gyfnewidfeydd i ddenu a chadw talent o safon fyd-eang
- Creu cnewyllyn o weithwyr proffesiynol cyfunol i hyrwyddo cyfnewid gwybodaeth gan effeithio ar wella canlyniadau cleifion
- Sefydlu rhaglenni gwaith cyffrous gyda’n partneriaid iechyd ac academaidd lleol ym Mhrifysgol Caerdydd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol y Drindod Dewi Sant
- Cynyddu ein seilwaith ymchwil, datblygu ac arloesi i gyd-fynd â’n huchelgais. Bydd hyn yn cynnwys:
- 1. yr hyb ymchwil teiran gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Phrifysgol Caerdydd
- 2. darparu cyfleusterau o safon fyd-eang drwy Raglen Seilwaith Gwasanaeth Gwaed Cymru, Canolfan Ganser Felindre newydd, canolfannau ymchwil Felindre@ partneriaid y Bwrdd Iechyd Prifysgol a’r Ganolfan Gydweithredol ar gyfer Dysgu ac Arloesi
- 3. datblygu’r Gwasanaeth Llyfrgell yn Ganolfan Dystiolaeth gynaliadwy i’r Ymddiriedolaeth gyfan
- Cynhyrchu incwm ail-fuddsoddi trwy bartneriaethau â diwydiant ar gyfer ymchwil, datblygu ac arloesi masnachol
Nod Strategol 4: Ymddiriedolaeth Prifysgol sefydledig sy’n darparu gwybodaeth a dysg werthfawr iawn i bawb
Ein hamcanion yw:
- Darparu addysg ysbrydoledig sy’n cael ei chyfoethogi a’i llywio gan ymchwil ac
- Creu amgylchedd dysgu cefnogol a chyfoethog ar gyfer ein holl ddysgwyr
- Darparu profiad dysgu y mae dysgwyr yn ei ystyried yn rhagorol
- Cael ein graddio fel darparwr addysg a dysgu o ansawdd uchel yn genedlaethol ac yn rhyngwladol mewn nifer o feysydd blaenoriaeth
- Codi proffil Ymddiriedolaeth y Brifysgol ar lwyfan y DU ac yn rhyngwladol
Byddwn yn cyflawni’r rhain drwy wneud y canlynol:
- Datblygu rhaglen addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel sy’n cyd-fynd ag anghenion ein partneriaid lleol, cenedlaethol a rhyngwladol
- Penodi athrawon gwadd ac Athrawon Ymarfer i’r Ymddiriedolaeth a chysoni eu gwaith â meysydd blaenoriaeth y diwydiant a phartneriaid busnes
- Denu academyddion sydd ag enw da yn genedlaethol ac yn rhyngwladol
- Meithrin partneriaethau gyda sefydliadau blaenllaw o bob rhan o’r byd yn ein meysydd blaenoriaeth penodedig
- Arfogi pob dysgwr i wneud y defnydd gorau o adnoddau dysgu ffisegol a digidol, a defnyddio Caerdydd fel ystafell ddosbarth fyw
- Cynyddu ein buddsoddiad mewn amrywiaeth o fentrau strategol a ariennir i sicrhau bod gan staff yr amser a’r amgylchedd i ymgymryd â chyfleoedd i ddysgu. Byddwn yn buddsoddi arian ychwanegol mewn:
- 1. cefnogi ein gweithlu i ymgymryd â graddau MSC a PhD
- 2. cefnogi ein gweithlu i dderbyn Cymrodoriaethau
- 3. cefnogi ein gweithlu i ennill cymwysterau ac achrediadau proffesiynol, technegol a phenodol i’w rôl
- 4. darparu cyfleoedd ymchwil a dysgu i fyfyrwyr o’n partneriaid prifysgol, y diwydiant a sectorau eraill
- Datblygu cyfleoedd dysgu unigryw mewn meysydd arbenigol gan gynnwys rhaglen Moderneiddio Gyrfaoedd Gwyddonol Ysgol Oncoleg Felindre a Gwasanaeth Gwaed Cymru
- Datblygu strategaeth farchnata a chyfathrebu sy’n denu dysgwyr i’n rhaglenni ac sy’n codi proffil yr Ymddiriedolaeth
- Nodi amrywiaeth o bartneriaid a chydweithwyr i wella ein harlwy a’n brand ledled y byd
Nod Strategol 5: Sefydliad cynaliadwy sy’n chwarae ei ran i greu dyfodol gwell i bobl ledled y byd
Ein hamcanion yw:
- Cael ein cydnabod fel un o brif Ymddiriedolaethau’r GIG ar gyfer cynaliadwyedd yn genedlaethol
- Bod yn sefydliad carbon ‘Sero Net’ yn y GIG erbyn 2030
- Dod yn sefydliad angori yn y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu i wella eu llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol
- Cefnogi’r trawsnewid o afiechyd i lesiant ledled Cymru
Byddwn yn cyflawni’r rhain drwy wneud y canlynol:
- Datblygu modelau gwasanaeth clinigol sy’n cefnogi cynaliadwyedd e.e. mwy o ofal yn y cartref
- Gweithredu ein strategaeth gynaliadwyedd
- Cymhwyso egwyddorion yr economi gylchol yn ein prosesau busnes trwy ddylunio, caffael, ailddefnyddio a chylch bywyd
- Darparu rhaglen addysg a dysgu cynhwysfawr sy’n rhoi cyfleoedd dysgu i staff, cleifion, rhoddwyr a phartneriaid i wreiddio 5 Ffordd o Weithio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’u cefnogi i wneud newidiadau ymddygiad cadarnhaol (‘cam bach pob dydd’)
- Gweithredu ein cynllun lleihau carbon a fydd yn ein gweld yn cyflawni Sero Net a thrawsnewid i ynni adnewyddadwy ar gyfer ein gwasanaethau a’n cyfleusterau
- Buddsoddi mewn amrywiaeth o waith adnewyddu ac adeiladau newydd a fydd yn cefnogi ein dull o leihau allyriadau carbon ac adeiladau iachach a phobl iachach. Mae’r rhain yn cynnwys
- gwaith adnewyddu mawr ar safle Gwasanaeth Gwaed Cymru, Llantrisant erbyn 2026
- adeiladu Canolfan Loeren Radiotherapi yn Nevill Hall erbyn 2024
- adeiladu Canolfan Ganser Felindre newydd erbyn 2025/2026
- Gweithredu agwedd ddeniadol tuag at weithio ystwyth ar gyfer ein staff sy’n lleihau teithio y gellir ei osgoi, yn gwella llesiant ac yn cynnig y potensial i gefnogi arian sy’n mynd i gymunedau lleol
- Gwella ein harlwy i staff, rhoddwyr a chleifion sy’n teithio i ac o’n cyfleusterau ar droed, beic a chludiant cyhoeddus
- Defnyddio ein gweithgareddau caffael a gallu Cydwasanaethau GIG Cymru i ysgogi dull cynaliadwy, a chyflawni gwerth moesegol a chymdeithasol ehangach mewn meysydd sy’n cynnwys cyflogaeth a ffyniant lleol, lleihau allyriadau carbon, arferion gwrth-gaethwasiaeth ac anfoesegol
- Gweithio gyda phartneriaid a’r gymuned leol i nodi ffyrdd y gallwn ddarparu buddion a gwerth ehangach i gymdeithas trwy gyflogaeth a phrentisiaethau, defnyddio ein hadeiladau a’n cyfleusterau fel asedau cymunedol (e.e. ysgolion lleol a grwpiau elusennol yn eu defnyddio, rhaglenni celfyddydol), dod yn sefydliad angori mewn creu lle a chaffael er mwyn cynyddu cyrhaeddiad yr Ymddiriedolaeth o fewn Economi Sylfaenol y Llywodraeth
Alinio Ein Gwasanaethau
Sut y bydd ein swyddogaethau cymorth yn helpu i gyflawni ein huchelgeisiau
Ein Pobl: Bod yn Gyflogwr o Ddewis
Ein hamcanion yw:
- Datblygu a Chefnogi Gweithlu Medrus a Datblygedig: cyflogwyr o ddewis i staff a gyflogir gennym eisoes, sy’n dechrau eu gyrfa yn y GIG neu’n chwilio am rôl a fydd yn cyflawni eu huchelgeisiau proffesiynol ac yn bodloni eu dyheadau personol
- Cynllunio a Chynnal ein Gweithlu: cael y bobl iawn gyda’r gwerthoedd, ymddygiadau, gwybodaeth, sgiliau a hyder cywir i ddarparu gofal sy’n seiliedig ar dystiolaeth a chefnogi llesiant cleifion a rhoddwyr
- Tyfu Gweithlu Iach ac Ymgysylltiedig: o fewn diwylliant o wir gynhwysiant, tegwch a chyfiawnder ar draws y gweithlu. Gweithlu sy’n adlewyrchu amrywiaeth poblogaeth Cymru, yr iaith Gymraeg a hunaniaeth ddiwylliannol
Byddwn yn cyflawni rhain drwy wneud y canlynol:
- Gweithredu Fframwaith Iechyd a Lles ar draws yr Ymddiriedolaeth sy’n nodi safonau clir a mesuradwy i helpu i ysgogi gwelliant
- Gweithredu ein strategaeth addysg i gefnogi staff i dyfu’n broffesiynol a chynnig llwybrau mewnol ac allanol i ennill profiad a gwybodaeth
- Datblygu ein proses rheoli talent i gefnogi llwybrau gyrfa i staff
- Datblygu ein data, gwybodaeth a mewnwelediad i gefnogi gwreiddio ein proses o gynllunio gweithlu: cefnogi ffyrdd newydd o weithio ar gyfer ein staff
- Gweithredu dull ystwyth o weithio
- Targedu cynnydd mewn recriwtio dwyieithog i dyfu ein gweithlu sy’n siarad Cymraeg
- Gwella’r ffordd rydym yn dathlu llwyddiant gan sicrhau bod ein staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr am y gwaith anhygoel y maent yn ei wneud
- Tyfu Rhaglen Ysbrydoli Arweinyddiaeth a Rheolaeth yr Ymddiriedolaeth
- Gweithio gyda’n partneriaid yn y byd academaidd a’r diwydiant i sicrhau bod y cynigion arweinyddiaeth a rheolaeth gorau yn cael eu darparu i staff gan gynnwys hyfforddi, mentora a darparu dosbarthiadau meistr
Rhagoriaeth Ddigidol: Cysylltu Pobl yn Ddigidol i Greu Gwell Gwasanaethau a Buddion Ehangach
Ein hamcanion yw:
- Darparu gwasanaethau digidol gwydn sy’n cefnogi gofal rhagorol
- Cysylltu cleifion, rhoddwyr a phartneriaid yn ddi-dor â’n gwasanaethau
- Dod yn sefydliad a yrrir gan ddata ac a arweinir gan fewnwelediad lle mae gan bobl y wybodaeth gywir, ar yr amser cywir, bob amser
- Diogelu ein data a’n gwybodaeth drwy ddull effeithiol o ymdrin â seiberddiogelwch
- Creu diwylliant digidol o arloesi a rhannu gwybodaeth sy’n cefnogi darparu gwasanaethau o’r radd flaenaf
Byddwn yn cyflawni rhain drwy wneud y canlynol:
- Gweithredu ein strategaeth ddigidol
- Datblygu ein seilwaith TG a threfniadau diogelwch yn gyson
- Gweithredu rhaglen drawsnewid ddigidol i ysgogi buddion a chreu mathau newydd o werth
- Datblygu rhaglen addysg llythrennedd digidol i gefnogi cleifion, rhoddwyr, cynhalwyr a’n gweithlu i wella eu llythrennedd digidol
- Cynyddu cyflymder datblygu, defnyddio a gweithredu technolegau newydd i gynyddu ein cynhyrchiant
- Gweithio gyda’r cyhoedd a’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol i hyrwyddo a chyflymu cynhwysiant digidol
- Datblygu ein rôl o fewn yr Academi Dysgu Dwys Digidol i gynyddu sgiliau digidol a gwybodaeth ein staff
- Nodi cyfleoedd i ymuno â rhaglenni a mentrau cyflymydd digidol
- Chwyldroi ein gallu o ran cuddwybodaeth busnes i ddarparu data, hysbysiaeth a gwybodaeth i’r bobl gywir ar yr amser cywir
- Adeiladu partneriaethau digidol gyda sefydliadau partner, y byd academaidd a darparwyr digidol i greu gwerth mewn iechyd, cyfoeth a lles
Cydweithio a Phartneriaeth: Creu Mwy o Werth O’n Hadnoddau
Ein hamcanion yw:
- Creu partneriaethau cryf ac effeithiol gyda sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol, gwasanaethau cyhoeddus a phartneriaid trydydd sector i greu mwy o werth a budd
- Gweithredu ar y cyd i gyflawni blaenoriaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol
- Datblygu partneriaethau masnachol strategol gyda sefydliadau i feithrin arloesedd, twf economaidd, iechyd a lles
- Datblygu diwylliant sy’n ymgorffori partneriaeth, cydweithio a chynhwysiant yn DNA ein sefydliad
Byddwn yn cyflawni rhain drwy wneud y canlynol:
- Gweithio gyda’n byrddau iechyd lleol a phartneriaid ehangach i gyflawni ein set o flaenoriaethau strategol cyffredin
- Gweithio gyda byrddau iechyd lleol i wella’r trefniadau comisiynu sy’n sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu llywio gan anghenion ac yn canolbwyntio ar ganlyniadau
- Datblygu ein rôl yn y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a Gwasanaethau Cyhoeddus o amgylch set o nodau a rennir gyda’n partneriaid
- Ehangu ein perthynas â’n gweithlu gwirfoddol a grwpiau cymunedol lleol i’n cefnogi i ddarparu gwasanaethau craidd rhagorol a mathau eraill o werth cymdeithasol e.e. cadw pobl yn heini, cydlyniant cymunedol, gwella iechyd a lles
- Datblygu diwylliant o gydweithio, partneriaeth ac arloesi drwy nifer o gamau ymarferol:
- darparu staff gyda gwybodaeth, cefnogaeth a chanllawiau ar gyfer datblygu cydweithio a phartneriaethau i wneud llwyddiant yn haws i’w gyflawni
- nodi ffyrdd arloesol o ariannu partneriaethau a sicrhau bod cyllid sbarduno ar gael i roi cychwyn ar bethau
- datblygu arbenigedd mewn meysydd busnes eiddo masnachol a deallusol i ddiogelu ein syniadau a sicrhau’r buddion mwyaf posibl
- Buddsoddi mwy i gynyddu ein capasiti a’n gallu i ddatblygu a rheoli partneriaethau gyda phartneriaid masnachol strategol a Phrifysgolion
Darparu Lleoedd Gwych i Bobl Ymweld â Nhw a Gweithio Ynddynt
Ein hamcanion yw:
- Darparu ystâd sy’n galluogi darparu gwasanaethau clinigol o ansawdd uchel
- Darparu ystâd ddiogel o ansawdd uchel sy’n rhoi profiad gwych i gleifion, rhoddwyr, staff a phartneriaid
- Darparu adeiladau iach sy’n cefnogi ac yn gwella lles unigolion
- Lleihau effaith ein hystâd ar yr amgylchedd
- Amlhau’r budd a’r gwerth cymdeithasol y gall ein hystâd eu darparu i’n staff, cleifion, rhoddwyr a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu
Byddwn yn cyflawni rhain drwy wneud y canlynol:
- Ymgysylltu’n barhaus â defnyddwyr ein hystâd i ddeall sut y gellir ei dylunio, ei haddasu neu ei gwella i ddiwallu eu hanghenion yn well
- Datblygu ystâd sy’n gosod gwerthoedd dynol wrth galon dylunio a chroesawu cyfleoedd ar gyfer y celfyddydau a diwylliant o fewn gofodau o’r fath
- Buddsoddi adnoddau ychwanegol i gynnal a chadw’r ystâd bresennol er mwyn cynnal Categori B
- Gweithredu ein strategaethau ystadau, digidol, gweithlu a chynaliadwyedd
- Darparu ystod o ddulliau teithio amgen hygyrch sy’n canolbwyntio ar gerdded, beicio, trafnidiaeth gyhoeddus a cherbydau trydan
- Nodi ffyrdd arloesol o fabwysiadu ffynonellau ynni adnewyddadwy i wasanaethu ein gofynion
- Nodi cyfleusterau y gallwn rannu’r defnydd ohonynt gyda chyrff cyhoeddus eraill a phartneriaid ehangach
- Gweithio gyda’r gymuned a phartneriaid i nodi sut y gallwn agor ein hadeiladau, cyfleusterau a thir i’w defnyddio fel asedau cymuned
- Gweithio gyda sefydliadau partner yn y celfyddydau a’r diwydiant i chwilio am gyfleoedd sydd o fudd i bawb ar gyfer cydweithio artistig ar draws ein gwasanaethau
- Darparu nifer o raglenni cyfalaf trawsnewidiol sydd â chynaliadwyedd yn ganolog i’w dyluniad:
- adnewyddu adeilad Gwasanaeth Gwaed Cymru yn Llantrisant erbyn 2026
- canolfan radiotherapi lloeren erbyn 2024
- Canolfan Ganser Felindre newydd erbyn 2025/2026
Buddsoddi’n Ddoeth i Greu’r Gwerth Mwyaf
Ein hamcanion yw:
- Sicrhau’r gwerth mwyaf o bob punt rydym yn ei buddsoddi
- Cynyddu ein hincwm a’r adnoddau sydd ar gael i gefnogi’r gwaith o wella ansawdd, diogelwch, profiad, canlyniad a chynaliadwyedd ein gwasanaethau a’n hasedau
- Defnyddio ein cyllid a’n buddsoddiadau i gyfrannu at y saith nod llesiant a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- Cynnal ein sefyllfa fel sefydliad ariannol gynaliadwy
Byddwn yn cyflawni rhain drwy wneud y canlynol:
- Datblygu systemau ariannol o ansawdd uchel sy’n rhoi’r wybodaeth i ni i gefnogi buddsoddiad darbodus yn ein hadnoddau er mwyn sicrhau’r canlyniadau a’r gwerth cymdeithasol mwyaf posibl
- Ceisio buddsoddiad cyfalaf ychwanegol ac incwm i wella gwasanaethau i gleifion a rhoddwyr trwy fabwysiadu’r pum ffordd o weithio, buddsoddi yn y tymor hir a chreu gwerth ehangach y tu hwnt i fudd uniongyrchol y sefydliad
- Darparu lefelau cynyddol a chynaliadwy o effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd trwy drawsnewid modelau gwasanaeth clinigol a dileu amrywiadau diangen
- Datblygu trefniadau comisiynu a chontractio gwell gyda’n partneriaid yn y byrddau iechyd lleol i sicrhau gwerth o fuddsoddiad presennol ac ychwanegol
- Gweithio gyda phartneriaid i ‘greu lleoedd’ i sicrhau gwerth cymdeithasol ehangach o’n hadnoddau cyfunol ym meysydd iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, addysg, tai ac ati
- Chwilio am bartneriaethau strategol a masnachol i amrywio ein ffrydiau incwm
- Sicrhau cronfeydd elusennol a dyngarol parhaus i ategu ein cyllid craidd gan y GIG
- Defnyddio graddfa gyfunol cadwyn gaffael a chyflenwi’r GIG i sicrhau mwy o werth o’n cyllid a chefnogi ein gwaith ym meysydd cynaliadwyedd, tlodi, anghydraddoldeb, arferion anfoesegol a newid hinsawdd
Sut Byddwn yn Mesur Ein Cynnydd?
Byddwn yn olrhain ystod o fesurau ar lefel sefydliadol i’n helpu i gyflawni ein huchelgeisiau datganedig.
Ein Gofal
- Mynediad at ein gwasanaethau
- Digwyddiadau Byth
- Digwyddiadau Anffafriol Difrifol
- Gwasanaethau clinigol: mesurau perfformiad clinigol allweddol a chanlyniadau (wedi’u meincnodi gyda’n cymheiriaid)
- Cleifion a rhoddwyr sy’n graddio eu profiad yn rhagorol
- Staff sy’n dweud y byddent yn hapus i ni ddarparu gofal a gwasanaethau i aelod o’u teulu
- Rheoleiddwyr allanol a chyrff proffesiynol yn ein graddio
Ein Tîm
- Amrywiaeth ein gweithlu
- Staff sy’n ein graddio fel cyflogwr rhagorol
- Staff a fyddai’n ein hargymell fel cyflogwr i’w teulu neu ffrindiau
- Ein cyfraniad i ddiwylliant Cymraeg bywiog
Ein Dysgu
- Effaith ein hymchwil
- Staff sy’n ymwneud yn rheolaidd ag ymchwil, datblygu ac arloesi
- Staff sy’n ymchwilwyr arweiniol
- Effaith ein harloesi
Ein Cyfraniad Ehangach i'n Cymunedau a'n Gwlad
- Siaradwyr Cymraeg yn ein gweithlu
- Allyriadau carbon
- Ôl-troed carbon
- Cynnydd bio-amrywiaeth net: gwerth cyfalaf naturiol
- Ansawdd aer ar ein safleoedd
- Nwyddau a gwasanaethau a gaffaelir yn lleol yng Nghymru
- Asesiad datblygu cynaliadwy: ein cyfraniad i gymunedau
- Gwerth cymdeithasol: ein cyfraniad i gymdeithas