Neidio i'r prif gynnwy

Lleisiau Felindre

Mae’ch angen chi!


Mae gweithio mewn partneriaeth â'n cymuned yn hanfodol os ydym am ddatblygu ein gwasanaethau mewn ffordd sy'n adlewyrchu eich anghenion.
 

Y cam cyntaf yw estyn allan atoch er mwyn dechrau sgyrsiau newydd! Dyna pam rydym yn gyffrous wrth lansio Lleisiau Felindre – sef modd i chi, cleifion, gofalwyr ac aelodau o'r gymuned ehangach, gadw mewn cysylltiad â ni, dylanwadu ar ein gwaith a chymryd rhan ym mha bynnag ffordd sy'n gyfleus i chi.

 

Pam ymwneud â ni?

Mae gwasanaethau gofal iechyd yn newid drwy'r amser – ac mae hyn yn wir am Wasanaeth Canser Felindre hefyd. Rydym yma i wella bywydau - i ddarparu gofal rhagorol a dysgu ysbrydoledig, yn ogystal â hybu pobl iachach. Ein nod yw gwneud hyn mewn sawl ffordd gan gynnwys cyflwyno gwelliannau a newidiadau i wasanaethau, trwy adeiladu ar sylfeini cryf. Bydd yr ystod eang ac amrywiol o leisiau sy'n ymwneud â gwaith Felindre’n cryfhau ein dyfodol.

Dyma rai o’r rhesymau posib dros ymwneud â ni:

  • Cadw mewn cysylltiad ar ôl eich triniaeth
  • Rhoi eich barn ar ein cynlluniau ar gyfer gwasanaethau'r dyfodol
  • Gwybod mwy am wirfoddoli
  • Cynnig syniad ynglŷn â chodi arian
  • Gwybod mwy am brosiect Canolfan Ganser Felindre Newydd
  • Gwybod mwy am dreialon ymchwil

 

Cymryd rhan

Beth bynnag fo'ch cymhelliant, drwy gofrestru i ymuno â Lleisiau Felindre, byddwn yn gallu cadw mewn cysylltiad a dechrau sgyrsiau newydd yn seiliedig ar eich meysydd o ddiddordeb.

I ddod yn aelod o Lleisiau Felindre, bydd angen rhywfaint o fanylion gennych yma.