Neidio i'r prif gynnwy

Cludiant Ysbyty

Weithiau, efallai na fyddwch yn teimlo'n dda nac yn ddigon abl i fynd i’ch apwyntiad. Yn yr amgylchiadau hyn, gallwn drefnu cludiant. Fodd bynnag, mae ein gwasanaeth cludo ar gyfer ein cleifion mwyaf agored i niwed. Peidiwch â gofyn am gludiant os nad os ei angen arnoch, gan y gallai ei ddefnyddio’n amhriodol rwystro cleifion eraill rhag dod i'w hapwyntiadau.

A gaf i ddod â rhywun gyda mi?
Mae ein gwasanaeth cludiant ar gyfer cleifion Felindre yn unig; fodd bynnag, mewn amgylchiadau eithriadol, mae’n bosibl y gall rhywun deithio gyda chi.

Sut gallaf fwcio cludiant?
Os bydd angen cludiant arnoch, bydd rhif ffôn ar eich llythyr apwyntiad cyntaf, a bydd angen i chi ei ffonio i drefnu cludiant. Os gwelwch yn dda, cofiwch fod yn rhaid i chi ofyn am gludiant bob tro y bydd ei angen arnoch - os ydych yn bwcio cludiant unwaith, nid yw hyn yn golygu y bydd cludiant yn cael ei drefnu ar gyfer pob apwyntiad. Byddwch hefyd yn derbyn taflen ar gludiant a fydd yn dweud wrthych beth i'w ddisgwyl, ac yn rhoi manylion cyswllt i chi.

Os nad ydych ein hangen, rhowch wybod i ni ar: 029 2031 6974

Canolfan Ganser Felindre, Heol Felindre, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 2TL
Ffôn: 029 2061 5888