Neidio i'r prif gynnwy

Ystafell i Deuluoedd

Agorodd yr ystafell i blant (Teuluoedd) am y tro cyntaf ym 1999. Tynnodd ymchwil sylw at pa mor bwysig ydyw i deuluoedd dreulio amser gyda’i gilydd pan fydd canser ar riant neu ar nain neu daid. Roeddem eisiau creu amgylchedd sy’n gyfeillgar i blant a heb fod yn fygythiol, lle gallai plant o bob oedran ymweld â pherthnasau a threulio amser gyda’i gilydd. Mae’r prosiect wedi bod yn llwyddiant aruthrol, a hoffem ddiolch yn fawr iawn i’r holl deuluoedd am eu haelioni a’u cefnogaeth. Rydym yn cofio am yr holl deuluoedd sydd wedi ein helpu ar ein bwrdd storïau y tu allan i’r ystafell.

Ar ôl 10 mlynedd o’i defnyddio, roedd plant yn eithaf di flewyn ar dafod am roi gwybod i ni fod angen i’r ystafell gael ei hailwampio a’i diweddaru er mwyn bodloni eu hanghenion!

Yn 2008, daeth teulu a ffrindiau Sefydliad Ed Evans (Saesneg yn unig)(dolen allanol) atom, ac arweiniodd eu rhodd hael at ailwampio’r ystafell yn llwyr. Cafwyd rhoddion ychwanegol gan:
• Ffermwyr ifanc Pontsenni
• Leighton Griffiths
• Rhanbarth Bandiau Jas Cymru
• Clwb Rygbi Rhiwbeina
• Cronfa Elusennol Pendragon 

Sicrhaodd y cymorth ychwanegol bod gan yr ystafell newydd y goleuadau a’r consolau gemau diweddaraf ar gyfer ein hymwelwyr ifanc.

Ailenwyd yr ystafell ar ei newydd wedd yn 'Ffau’r Llewod'. Cafodd ei hailagor yn swyddogol gan seren rygbi Cymru Martyn Williams ar 1 Ebrill 2009. Rydym wrth ein bodd gyda’r adborth cadarnhaol gan deuluoedd sydd wedi defnyddio’r ystafell. Roedd y plant (a’r rhieni/neiniau a theidiau!) yn arbennig o hoff o’r consol gemau Wii a’r amgylchedd llachar.

Mae Ffau’r Llewod ar gael i gleifion Felindre a’u teuluoedd, a gellir ei bwcio drwy ofyn wrth unrhyw aelod o’r staff nyrsio neu dderbynyddion y ward.

Caiff yr ystafell ei bwcio ar gyfer un teulu ar y tro. Nid yw’n gyfleuster meithrinfa - mae’n rhaid i blant gael eu goruchwylio drwy’r amser. Hefyd, gellir bwcio’r ystafell i ddathlu digwyddiadau teuluol arbennig megis pen-blwyddi. Mae cyfleusterau te a choffi ar gael am ddim. Rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau defnyddio Ffau’r Llewod!

Gadewch sylw i ni am eich ymweliad yn ein llyfr ymwelwyr.

Cofion gorau,

Michele Pengelly a Clare Boobier

Canolfan Ganser Felindre, Heol Felindre, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 2TL
Ffôn: 029 2061 5888