Neidio i'r prif gynnwy

Ystafell aml-grefydd

Mae ein hystafell aml-grefydd ar gael i unrhyw un sydd angen rhywfaint o amser tawel. Mae’r ystafell hon yn rhoi hafan heddychlon a llonydd i gleifion, ymwelwyr a staff. Mae hi ar wahân i fwrlwm bywyd arferol yr ysbyty.

Mae ystod o eitemau crefyddol sy’n cynrychioli amrywiol grefyddau ar gael i’w defnyddio. Mae’r eitemau hyn y tu ôl i len ar y chwith wrth i chi fynd i mewn i’r ystafell. Os hoffech weddïo, mae croeso i chi ddefnyddio unrhyw un o’r eitemau hyn.  A wnewch chi roi unrhyw eitemau sy’n cael eu defnyddio yn ôl ar y silff cyn i chi adael?

I gael gwybodaeth am wasanaethau caplaniaeth a chysylltu â gwahanol gredoau, gweler ein tudalen gofal ysbrydol .

Uchod – golygfa o’r ystafell aml-grefydd.

Canolfan Ganser Felindre, Heol Felindre, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 2TL
Ffôn: 029 2061 5888