Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth ychwanegol

18/03/24
Reiki

Yn ystod Reiki, bydd y therapydd yn gosod ei ddwylo'n ysgafn ar eich dillad a dillad gwely, neu drosynt, er mwyn sianelu grym bywyd ac chynnau prosesau iachâd naturiol y corff yn gynnil i adfer cydbwysedd a harmoni. Yn gyffredinol, mae pobl yn dweud eu bod yn teimlo heddwch ac yn mwynhau gofod tawel yn eu meddwl. Mae Reiki yn gweithio cystal pan nad yw'r therapydd a'r person sy'n ei gael gyda'i gilydd yn yr un ystafell. Yr enw ar hyn yw reiki o bellter.

18/03/24
Aromatherapi

Mae aromatherapi'n defnyddio pigion o blanhigion naturiol ar ffurf olewau hanfodol, ac mae gan bob un ohonynt arogl ac effaith unigryw ar y meddwl a'r corff. Mae’r manteision yn amrywio o roi hwb i'r corff i helpu'r person i  gysgu. Mae'n gallu helpu hyd yn oed gyda phen tost, gorbryder a chyfog. Mae ein haromatherapyddion cymwys yn cyfuno'r olewau hanfodol i greu cyfuniad arbennig i chi, sy'n cyd-fynd yn ddiogel â thriniaethau am ganser. Mae'r tîm yn darparu'r rhain mewn ffon aroma, sef anadlydd bach trwy'r trwyn sy'n ffitio yn y boced fel bod modd i chi fwynhau'r driniaeth gartref. Mae modd rhoi'r driniaeth hefyd ar ffurf tylino, fel arfer ar y dwylo, y traed neu'r cefn.

18/03/24
Tylino

Mae tylino'n gweithio trwy wasgu cyhyrau a meinweoedd meddal y corff yn ofalus. Mae hyn yn helpu i wella eich cylchrediad ac yn rhyddhau mannau sy'n dynn neu sydd â thensiwn. Mae tylino'n ffordd wych o ymlacio'r corff a lleddfu unrhyw anghysur. Gall cyffwrdd hefyd helpu i leddfu nerfau a thawelu meddyliau gorfywiog. Mae ein therapyddion cymwys fel arfer yn tylino'r dwylo, y traed neu'r cefn a gallant addasu'r triniaethau'n hawdd er mwyn i chi gael y profiad gorau. Mae'r tîm yn gallu hyfforddi'r bobl bwysig yn eich bywyd gyda'n technegau syml, felly bod modd i chi gael eich tylino'n union pan fydd ei eisiau arnoch.

18/03/24
Adweitheg

Therapi yw adweitheg sy'n defnyddio pwysau ysgafn ar y dwylo a'r traed. Yr enw ar y mannau hyn yw atgyrchau (reflexes) ac maen nhw'n cysylltu â systemau ac organau'r corff. Mae gwasgu'r pwyntiau atgyrch yn ysgafn yn helpu i glirio'r llwybrau ynni a dod â gwell cydbwysedd i'ch iechyd a'ch lles. Mae ein hadweithegwyr cymwys yn fedrus i'ch helpu i ymdopi yn ystod cyfnodau pryderus a gwella'ch hwyliau cyffredinol. Gallwn ni hyd yn oed ddangos i chi sut i wneud hynny ar eich pen eich hun neu i rywun arall, felly bydd y manteision yn para'n hwy.

18/03/24
Therapi sain

Mae therapi sain yn defnyddio cerddoriaeth, sain a'r llais i ryddhau tensiwn a mynegi emosiynau. Gall cerddoriaeth fod yn ddewis hynod o bersonol a chael effeithiau dwys, gan eich helpu i gofio profiadau o lawenydd a chwerthin. Mae offerynnau fel powlenni canu, ffyrch tiwnio a chlochau yn creu synau pur ac yn helpu meddyliau prysur a chyrff dan straen i ddod o hyd i gyflwr mwy llonydd. Bydd ein therapydd sain cymwys yn eich helpu i ddefnyddio eich offer sain mwyaf effeithiol fel bod modd i chi eu defnyddio i dynnu sylw ac ysgafnhau eich meddyliau. Mae defnyddio'ch llais eich hun, neu hyd yn oed hymian, yn arwain at ganlyniadau cadarnhaol gwych a gallwch ei ddefnyddio yn unrhyw le.