Neidio i'r prif gynnwy

Gofal ysbrydol

Mae’r tîm caplaniaeth yn bodloni anghenion crefyddol ac ysbrydol cleifion, eu teuluoedd a staff. Rydym yn darparu gwasanaeth ar gyfer pobl o bob ffydd a phobl heb ffydd.

Mae ein tîm yn cynnwys caplaniaid amser llawn, caplaniaid rhan-amser ac ymwelwyr gwirfoddol lleyg hyfforddedig.  Rydym yn ymwneud â’r holl ysbytai sy’n rhan o Nghaerdydd a'r Fro (dolen we allanol), ac Ymddiriedolaeth GIG Velindre a Hosbis Marie Curie ym Mhenarth.

Mae anghenion ysbrydol ein cleifion yn bwysig i ni. Er ein bod yn Gristnogol yn bennaf, ein nod yw darparu gofal i gleifion o bob ffydd yn y byd. Os oes angen arweinydd ffydd gwahanol arnoch, gofynnwch. Mae gennym gysylltiadau ag arweinwyr ffydd eraill, a gallwn gysylltu â nhw pan fydd angen.

Rydym yn gweithio’n bennaf yn ein wardiau i gleifion mewnol. Ein nod yw cyfarfod â chleifion mewnol newydd yn fuan ar ôl iddynt gyrraedd er mwyn cyflwyno ein hunain. Rydym yn ceisio adnabod a chefnogi anghenion cleifion yn ôl y galw. Mae ein gwirfoddolwyr yn ymweld â’r wardiau ac ardaloedd cleifion allanol yr ysbyty, ac yn gwneud ffrindiau gyda chleifion â’u teuluoedd a’u cefnogi.

Gall cleifion fod â chredau crefyddol dwfn ac efallai byddant eisiau cael mynediad at ‘ddefodau’ sy’n addas i’w ffydd nhw. Efallai eu bod yn ceisio gwneud synnwyr o’r hyn sy’n digwydd a pham. Yn aml, mae pobl yn myfyrio am eu bywydau a gall hyn weithiau ddod â theimladau cymysg. Efallai y bydd pobl eraill eisiau archwilio ystyr bywyd ac angau neu sôn am eu pryderon am y dyfodol. Ein rôl yw cefnogi pobl a chynnig amgylchedd diogel sydd heb fod yn fygythiol, nac yn feirniadol. Fel hyn, gall cleifion archwilio eu holl deimladau ac ofnau mewnol.

Mae caplan ar gael ddydd Mawrth a dydd Iau drwy'r diwrnod a gellir gwneud apwyntiadau drwy gofrestru ar ddrws y caplaniaid, gan ofyn i nyrs ei drefnu neu gysylltu â 02921 843230. Ebost ysbrydol.careteam@wales.nhs.uk

Hefyd, mae gennym system ar alwad felly rydym ar gael ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn, cysylltwch â’r prif switsfwrdd ar 029 2061 5888.

Delwedd realiti rhithwir o'n hystafell Aml ffydd (gweddi).

Canolfan Ganser Felindre, Heol Felindre, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 2TL
Ffôn: 029 2061 5888