Neidio i'r prif gynnwy

Cleifion wedi'u hyswirio a chleifion o dramor

Gwybodaeth i gleifion o dramor, cleifion sydd wedi’u hyswirio a chleifion sy’n talu eu hunain

Os ydych yn glaf o dramor a bod gennych yswiriant meddygol neu yn chwilio am gyngor er mwyn talu am driniaeth eich hun, yn gyntaf bydd angen i chi gysylltu â’n rheolwr cleifion preifat Val Williams.  Mae gennym gysylltiadau â’r holl gwmnïau yswiriant mawr ac rydym yn gallu gweithio gyda nhw ar eich rhan.

Rydym yn cynnig y profion a’r triniaethau diagnostig canlynol ar hyn o bryd:

  • Pelydrau-X
  • Sganiau esgyrn
  • Bracitherapi
  • Sganiau CT/MRI
  • Cemotherapi
  • Therapi Ymbelydredd wedi’i Fodiwleiddio yn Ôl Dwysedd (IMRT)
  • Triniaeth Radiotherapi a Arweinir gan Ddelwedd (IGRT)
  • Swyddogaeth yr Arennau
  • Sganiau MUGA
  • Therapi
  • Mewnlifiad Thyroid
  • Therapi Arc Foliwmetrig Modyledig (VMAT)

Gallwn hefyd gynnig trallwysiadau gwaed a mewnosod llinell hickman.

Mae’r ymgynghorwyr canlynol yn cynnig ymgynghoriadau i gleifion preifat/o dramor/sydd wedi’u hyswirio yn y meysydd arbenigedd isod:

Oriau agor ein swyddfa i gleifion preifat:  8am tan 5pm (Llun i Wener)

Ffôn: 029 2019 6135
Ffacs: 029 2019 6867
E-bost: vcc.privatepatients@wales.nhs.uk

Mae gwasanaeth peiriant ateb ar gael i gymryd galwadau y tu allan i oriau.

Canolfan Ganser Felindre, Heol Felindre, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 2TL
Ffôn: 029 2061 5888