Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Rheoli Poen Cronig Caerdydd

 

Croeso i dudalen Rhaglen Rheoli Poen Cronig Caerdydd.

Dechreuodd y Gwasanaeth Rhaglen Rheoli Poen Cronig ym 1994 ac mae wedi'i leoli o fewn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.

Mae'r gwasanaeth yn cwmpasu Byrddau Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Chwm Taf. Mae gan y ddwy ardal glinigau poen ymyriadol sy'n cyfeirio at y gwasanaeth Rhaglen Rheoli Poen.

Mae'r Tîm wedi'i leoli yn Ysbyty Felindre ac mae'r rhaglen yn cael ei rhedeg mewn lleoliad cymunedol neu drwy feddalwedd fideo-gynadledda yn rhithwir gan ein tîm profiadol o glinigwyr.

Mae Rhaglenni Rheoli Poen wedi datblygu i helpu pobl sy'n byw gyda phoen parhaus. Poen Parhaus/Cronig yw poen sy'n para'n hirach na thri mis. Mae'n gyflwr cymhleth ac i lawer o bobl nid yw ymyriadau meddygol wedi darparu'r rhyddhad yr oeddent yn gobeithio amdano.

Mae'r Rhaglen Rheoli Poen Cronig yn derbyn atgyfeiriadau o ofal Sylfaenol ac Eilaidd. Cliciwch yma i gael gwybod mwy am y tîm.