Neidio i'r prif gynnwy

Sut bydd hyn yn helpu cleifion, rhoddwyr gwaed a staff?

Bydd y strategaeth yn darparu llawer o fanteision i gleifion a rhoddwyr gan y bydd yn llywio’r gwaith o ddatblygu a darparu gofal a gwasanaethau diogel, amserol, effeithiol, teg, sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac sy’n canolbwyntio ar ddiwallu anghenion cleifion a rhoddwyr a bydd yn darparu profiad a chanlyniadau cadarnhaol.

Bydd ymgysylltu â chleifion, rhoddwyr a’r cyhoedd yn sicrhau bod y Strategaeth Glinigol a Gwyddonol yn adlewyrchu’r hyn sy’n bwysig i gleifion a rhoddwyr a fydd yn galluogi’r Ymddiriedolaeth i ddarparu gofal a gwasanaethau rhagorol.

Bydd y strategaeth yn darparu gweledigaeth ar y cyd ac eglurder ar gyfeiriad clinigol a gwyddonol yr Ymddiriedolaeth trwy nodi'r nodau strategol allweddol a'r camau gweithredu a fydd yn helpu i arwain yr agenda Glinigol a Gwyddonol. Bydd hyn yn helpu i gefnogi staff, llywio cynllunio'r gweithlu a dyrannu adnoddau.

Bydd y strategaeth yn grymuso’r gweithlu ac yn cryfhau arweinyddiaeth drwy rymuso’r gweithlu clinigol a gwyddonol, gan greu cyfleoedd ar gyfer addysg, ymchwil, datblygu ac arloesi.