Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd (AHPs)
Mae gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn gweithio gyda phob grŵp oedran ac o fewn pob arbenigedd. Mae enghreifftiau yn cynnwys ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol ac ati. Gall eu sgiliau a’u harbenigedd penodol fod y ffactor mwyaf arwyddocaol wrth helpu pobl i wneud y canlynol:
adfer symudiad neu symudedd.
goresgyn problemau gweledol.
gwella statws maeth.
datblygu sgiliau cyfathrebu.
adfer hyder mewn sgiliau byw bob dydd.
Y Bwrdd Rheoli Gweithredol
Yr uwch Gyfarwyddwyr Gweithredol sy'n gyfrifol am weithrediad Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre. Mae'r rhain yn cynnwys y Prif Weithredwr, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a Gwyddonwyr Gofal Iechyd, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid, Cyfarwyddwr Gweithredol Trawsnewid Strategol, Cynllunio a Digidol, Prif Swyddog Gweithredu, Cyfarwyddwr Gweithredol y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Canser, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru a Chyfarwyddwr Llywodraethu Corfforaethol/Pennaeth Staff.
Tîm Amlddisgyblaethol (MDT)
Mae tîm amlddisgyblaethol yn grŵp o staff iechyd sy'n aelodau o wahanol broffesiynau a/neu sefydliadau ac sy'n cydweithio i wneud penderfyniadau ynghylch trin cleifion unigol.
Sganio'r Gorwel
Cadw llygad allan am ymchwil a datblygiadau newydd.