Neidio i'r prif gynnwy

Pam mae angen strategaeth glinigol a gwyddonol arnom?

Y Strategaeth Glinigol a Gwyddonol fydd yn gosod y cyfeiriad ar gyfer y gweithlu dros y 5 mlynedd nesaf, trwy weledigaeth a nodau strategol clir a rennir sy'n seiliedig ar ein blaenoriaethau. Bydd y strategaeth yn helpu i lywio cynlluniau gweithredol y sefydliad a gwella'r modd y darperir ein gwasanaeth clinigol a gwyddonol.

Bydd y ddogfen hefyd yn cynnwys set o egwyddorion clinigol a gwyddonol craidd i danategu ein gwaith. Enghraifft o hyn fyddai - gweithio gydag eraill i ddarparu gwasanaethau lleol, hygyrch a theg, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn mewn ymateb i anghenion a blaenoriaethau newidiol.

Bydd y strategaeth yn sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i wella profiad cleifion a rhoddwyr, darparu'r gofal gorau a'r driniaeth fwyaf effeithiol i gleifion, tra bydd hefyd yn darparu amgylchedd ysgogol a grymusol er mwyn i holl staff yr Ymddiriedolaeth ffynnu.

Mae'r strategaeth hon yn un o nifer o ddogfennau galluogi a fydd yn helpu'r Ymddiriedolaeth i gyflawni Strategaeth Ganser Felindre, Strategaeth Waed Cymru a Strategaeth gyffredinol yr Ymddiriedolaeth, sef 'Cyrchfan 2033.'

Wrth ddatblygu'r strategaeth, byddwn yn sicrhau ei bod yn alinio ac yn cyd-fynd â strategaethau a rhaglenni lleol a chenedlaethol.