Neidio i'r prif gynnwy

Pam ddylwn i gymryd rhan?

Mae’r broses o ddatblygu’r strategaeth yr un mor bwysig â’r strategaeth ei hun – felly rydym am ei datblygu drwy ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid. Rydym am glywed gan bob aelod o’r tîm amlddisgyblaethol - gweithwyr proffesiynol gwyddonol a thechnegol ychwanegol, gwasanaethau clinigol ychwanegol, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, gwyddonwyr gofal iechyd, staff nyrsio a meddygol. Byddwn hefyd yn ymgysylltu â'n rhanddeiliaid allanol ac yn gofyn am farn cleifion, rhoddwyr a'r cyhoedd.

Mae barn ein holl randdeiliaid yn bwysig i ni ac rydym yn eu hannog i gymryd rhan a rhannu eu barn i’n helpu i ddatblygu’r strategaeth a llywio ein nodau a’n hamcanion yn seiliedig ar ein blaenoriaethau.