Neidio i'r prif gynnwy

Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre Strategaeth Glinigol a Gwyddonol Dogfen Friffio

 

Arweinydd Strategaeth:
Joanna Doyle, Arweinydd Clinigol a Strategaeth

Arweinwyr Gweithredol:
Nicola Williams, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Gweithwyr  Proffesiynol Perthynol i Iechyd a Gwyddonwyr Gofal Iechyd
Dr Jacinta Abraham, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol

Arweinydd Ymgysylltu:
Lisa Miller, Pennaeth Ymgysylltu â Chleifion

 

Cefndir

Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre (YGPF) yn dymuno ymgysylltu â rhanddeiliaid mewnol ac allanol i ofyn am eu barn ar y nodau yn ei Strategaeth Glinigol a Gwyddonol arfaethedig.

Lansiwyd Strategaeth yr Ymddiriedolaeth, sef Cyrchfan 2033, yn 2023 gan amlinellu pum nod strategol allweddol:

  • Cael ein cydnabod yn rhagorol ar gyfer ansawdd, diogelwch a phrofiad.
  • Darparwr gwasanaeth clinigol rhagorol sy’n enwog yn rhyngwladol sydd bob amser yn bodloni disgwyliadau ac yn aml yn rhagori arnynt.
  • Sefydliad disglair ar gyfer ymchwil, datblygu ac arloesi yn y meysydd blaenoriaeth a ddatganwyd gennym.
  • Ymddiriedolaeth Brifysgol sefydledig sy'n darparu gwybodaeth a dysgu gwerthfawr iawn i bawb.
  • Sefydliad cynaliadwy sy'n chwarae ei ran wrth greu dyfodol gwell i bobl ledled y byd.

Mae'r Strategaeth Glinigol a Gwyddonol yn adeiladu ar strategaeth drosfwaol Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre 'Cyrchfan 2033' ac mae'n rhan o gyfres o strategaethau galluogi a fydd yn caniatáu i'r Ymddiriedolaeth gyflawni 'Cyrchfan 2033', Strategaeth Gwaed Cymru a Strategaeth Ganser Felindre.

Bydd y Strategaeth Glinigol a Gwyddonol yn nodi cyfeiriad strategol clinigol a gwyddonol yr Ymddiriedolaeth, gan gynnwys ein gweithlu clinigol a gwyddonol, yn seiliedig ar ein blaenoriaethau cytunedig. Bydd yn darparu glasbrint 5 mlynedd ar gyfer datblygiadau clinigol a gwyddonol a bydd yn cadarnhau rôl yr Ymddiriedolaeth o fewn y cyd-destun rhanbarthol a chenedlaethol. Fel rhan o'r strategaeth, byddwn yn datblygu set o egwyddorion clinigol a gwyddonol craidd a fydd yn hwyluso'r Ymddiriedolaeth i gael ei harwain yn llawer mwy clinigol a gwyddonol.

 

Beth a olygwn wrth Strategaeth Glinigol a Gwyddonol?

Bydd y Strategaeth Glinigol a Gwyddonol yn helpu’r Ymddiriedolaeth i gael ei harwain yn fwy clinigol a gwyddonol ac i ddod yn arweinydd o ran datblygiadau ac arloesiadau clinigol a gwyddonol. Yn ogystal â hyn, bydd yn sicrhau ein bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am arferion gorau gofal a darparu gwasanaethau fel y gallwn wasanaethu ein poblogaeth yn well.

 

Pa waith ymgysylltu ydym ni wedi'i wneud hyd yn hyn? - Gofyn am farn y cyhoedd a'n gweithlu

Bydd gwaith ymgysylltu eang yn sicrhau bod gweledigaeth Glinigol a Gwyddonol Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre hefyd yn seiliedig ar yr hyn sy'n bwysig i'n cleifion, ein rhoddwyr a’n rhanddeiliaid. Bydd barn ac adborth gan ein cleifion, ein rhoddwyr a’n rhanddeiliaid yn cael eu defnyddio i helpu i lywio cyfeiriad a blaenoriaethau clinigol a gwyddonol yn y dyfodol a fydd, yn eu tro, yn cael effaith gadarnhaol ar ddarparu gofal a gwasanaethau effeithiol a chynaliadwy o ansawdd uchel.

Ers mis Hydref 2023 bu gwaith ymgysylltu helaeth ag ystod eang o randdeiliaid mewnol ac allanol (tua 700 a 50 yn y drefn honno). Hyd yn hyn, rydym wedi bod i gyfarfodydd tîm gyda staff a rhanddeiliaid, wedi cynnal gweithdai gwrando a digwyddiadau ymgysylltu. Yn ogystal â hyn, rydym wedi codi ymwybyddiaeth o'r cynlluniau i ddatblygu'r strategaeth a gofyn am farn ein rhanddeiliaid trwy wefan, taflenni a diweddariadau’r Ymddiriedolaeth. Rydym wedi gofyn am farn aelodau'r cyhoedd, cleifion a rhoddwyr. Ond gan fod hyn wedi bod yn gyfyngedig, rydym yn awr yn gofyn am farn bellach ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda Llais i sicrhau y manteisir i'r eithaf ar gyfleoedd.

Bydd y gwaith ymgysylltu hwn yn parhau gan ei fod yn hollbwysig ein bod yn gweithio ar y cyd â'n holl randdeiliaid i lywio datblygiad y strategaeth. Wrth i'n cynlluniau ymgysylltu fynd rhagddynt rydym yn rhagweld y bydd y nodau a'r egwyddorion yn esblygu drwy gydol y broses hon. Hyd yma, cymerwyd cyfleoedd i ymgysylltu ag aelodau'r cyhoedd.

Mae’r cynllun hwn yn canolbwyntio ar y modd y byddwn yn anelu at ehangu’r gwaith ymgysylltu hwn ymhellach. Byddwn yn gofyn am safbwyntiau rhoddwyr gwaed, cleifion canser a phartïon eraill â diddordeb er mwyn iddynt ddarparu cyfleoedd i roi eu hadborth ar y themâu sydd wedi dod i’r amlwg yn dilyn gweithgareddau ymgysylltu hyd yma.

Fel rhan o'r gwaith hwn, bydd yr Ymddiriedolaeth yn cynnal Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb ac Asesiadau o’r Effaith ar Ansawdd cynhwysfawr o'r strategaeth Glinigol a Gwyddonol arfaethedig.

 

Beth yw'r egwyddorion craidd drafft ar gyfer y Strategaeth Glinigol a Gwyddonol?

Drwy ymgysylltu â’n rhanddeiliaid mewnol ac allanol, rydym wedi dechrau datblygu set o chwe egwyddor graidd fel y’u nodir isod, sydd ar ffurf drafft ar hyn o bryd a byddant yn destun adolygiad pellach yn seiliedig ar adborth gan ein rhanddeiliaid.

Yr egwyddorion hyn y mae angen inni glywed eich barn yn eu cylch.

 

Chwe egwyddor sy'n dod i'r amlwg ac sy'n sail i'n Strategaeth Glinigol a Gwyddonol

  1. Trwy sganio'r gorwel, manteisio ar ddatblygiadau diweddaraf newid mewn gwyddoniaeth a thechnoleg, gan sicrhau parodrwydd ar gyfer datblygiadau newydd.

  2. Darparu gofal dan arweiniad clinigol a yrrir gan ddata, sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac a ategir gan ddatblygiadau mewn gwybodaeth glinigol a gwyddonol.

  3. Cydweithio â phartneriaid allweddol i ddarparu gwasanaethau lleol, hygyrch a theg, sy’n gynaliadwy ac sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, mewn ymateb i anghenion a blaenoriaethau sy’n newid.

  4. Trwy arweinyddiaeth glinigol a gwyddonol gref, gyrru'r agenda glingiol a gwyddonol yn ei blaen, dylanwadu ar waith trawsnewid clinigol a gwyddonol, a llywio blaenoriaethau.

  5. Adeiladu gwybodaeth ac arbenigedd clinigol a gwyddonol trwy ddysgu a rennir a gwelliant parhaus sy'n cael ei arwain gan ymchwil, datblygiadau ac arloesi.

 

Sut byddwn yn ceisio adborth pellach ar ein hegwyddorion craidd drafft?

Er mwyn sicrhau bod cyfleoedd ehangach i gleifion, rhoddwyr a rhanddeiliaid rannu eu barn a helpu i lywio datblygiad yr egwyddorion, rydym yn gweithio gyda Llais i ymgysylltu â’r cyhoedd dros gyfnod o 6 wythnos, a byddwn yn gwneud hynny drwy’r canlynol:

  • Dau ddigwyddiad byw ar-lein.
  • Un digwyddiad wyneb yn wyneb.
  • Arddangos gwybodaeth mewn modd sy’n amlwg iawn mewn meysydd gwasanaeth, gan gynnwys posteri, gwybodaeth ar sgriniau arddangos digidol ac arddangosiadau.
  • Darparu gwybodaeth ar bapur a holiaduron mewn safleoedd allweddol ar draws Gwasanaeth Gwaed Cymru (GGC) a Chanolfan Ganser Felindre (CGF).
  • Tudalen wybodaeth bwrpasol ar wefannau'r Ymddiriedolaeth, GGC a CGF i gynnwys Cwestiynau Cyffredin, mynediad at yr holiadur a manylion y prif gyswllt.
  • Darparu’r uchod ar dudalennau Ymgynghori Bwrdd Iechyd De-ddwyrain Cymru.
  • Negeseuon cyfryngau cymdeithasol.

Yn dilyn trafodaethau gyda Llais (Llais Dinasyddion Cymru) y bwriad yw cynnal cyfnod ymgysylltu o 6 wythnos rhwng 7 Mai 2024 a 17 Mehefin 2024.

 

Holiadur

Rhowch adborth i ni trwy lenwi'r holiadur drwy URL isod.

https://forms.office.com/e/TzXn1i5nu1

 

Sesiynau Ymgysylltu â'r Cyhoedd

  • Ar-lein trwy Teams: 
    22 Mai 2024, 6pm-7pm
    23 Mai 2024, 12pm-1pm
  • Wyneb yn wyneb:
    29 Mai 2024, 5pm-6pm yng Nghanolfan Ganser Felindre

Os hoffech chi fynd i ddigwyddiad, e-bostiwch Velindre.engagementhub@wales.nhs.uk  i gadarnhau pa ddigwyddiad hoffech chi ei fynychu a byddwn ni’n anfon y ddolen a dogfen fer ategol atoch.

 

Cysylltu â Ni

Cysylltwch â ni trwy e-bostio unrhyw sylwadau i Joanna.doyle3@wales.nhs.uk.

Gallwch hefyd anfon sylwadau at Llais trwy e-bostio cardiffandvaleenquiries@llaiscymru.org neu ffonio 02920 750112.

 

Y Cyfryngau Cymdeithasol

Cyfrannwch at unrhyw sgyrsiau trwy sianeli cyfryngau cymdeithasol Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre e.e. Facebook neu X (Twitter gynt).

 

Beth fydd yn digwydd ar ôl y cyfnod ymgysylltu?

Unwaith y bydd y cyfnod ymgysylltu wedi'i gwblhau, bydd yr holl ymatebion a safbwyntiau'n cael eu casglu a'u hadolygu gan yr Arweinydd Strategaeth Glinigol a Gwyddonol ac arweinwyr Gweithredol yr Ymddiriedolaeth. Bydd fersiwn derfynol y strategaeth yn cael ei datblygu a'i rhannu gyda'r holl randdeiliaid gan gynnwys Llais.

 

Cwestiynau cyffredin