Neidio i'r prif gynnwy

Ymgysylltu â'r Cyhoedd | Ymgynghoriad Ffurfiol

Dweud Eich Dweud

 

Croeso i borth ymgynghori ac ymgysylltu Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre (Canolfan Ganser Felindre a Gwasanaeth Gwaed Cymru).

Yma gallwch ddweud eich dweud ar yr amrywiol wasanaethau rydym yn eu darparu ar draws yr ardaloedd rydym yn eu gwasanaethu.

 

Gan fod gennym agenda newid gyffrous o’n blaenau, bydd gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre (Canolfan Ganser Felindre a Gwasanaeth Gwaed Cymru) lawer o gyfleoedd i’n cymunedau a’n rhanddeiliaid bod yn rhan o ail-ddylunio a datblygu’r gwasanaethau.

Bydd yr holl gyfleoedd ar gyfer ymgysylltu ac ymgynghori ffurfiol yn cael eu rheoli yn unol â chanllawiau newid gwasanaeth y GIG mewn partneriaeth â Llais (Llais y Dinesydd Cymru).

 

People are taking part in conversations at our engagement opportunities.

 

Pwy yw Llais?

Mae Llais yn gorff statudol sy’n adrodd i Lywodraeth Cymru ac sydd â rôl mewn sicrhau bod barn a phrofiadau pobl Cymru yn cael eu defnyddio gan y rhai sy’n gwneud penderfyniadau i gynllunio a darparu gwell gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

I gefnogi pobl ar lefel leol, mae Llais wedi strwythuro ei hun ar lefel rhanbarthol. Felly mae timau lleol yn yr ardaloedd canlynol:

  • Caerdydd a'r Fro
  • Cwm Taf Morgannwg
  • Gwent
  • Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe
  • Gogledd Cymru
  • Powys
  • Gorllewin Cymru

Mae eich tîm Llais lleol yn casglu profiadau da a drwg pobl o'r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol y maen nhw wedi'u cael ac yn rhoi cymorth i wneud cwynion.

Yna maent yn gweithio gyda darparwyr y gwasanaethau gofal cymdeithasol a’r GIG lleol i ymateb i’r pethau sydd bwysicaf i bobl yn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

Gallwch ddarganfod mwy drwy fynd i wefan Llais: www.llaiswales.org

 

Cyfleoedd ymgysylltu presennol

 

Ymgynghoriadau Ymgysylltu Blaenorol

 

Efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn: