Neidio i'r prif gynnwy

Ymchwil a Datblygu Strategaeth

Cydnabyddiaeth

Hoffem ddiolch i adrannau Y a D Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG a Gwasanaeth Trallwyso Gwaed Cenedlaethol yr Alban am eu mewnwelediadau a’u cefnogaeth barhaus.

Hoffem ddiolch hefyd, i’n cydweithwyr yng Ngwasanaeth Gwaed Cymru ac yn Ymddiriedolaeth GIG Felindre am eu hamser a'u brwdfrydedd yn ystod y gwaith o lunio’r strategaeth hon.

Dyddiad Cyhoeddi: Ionawr 2017

 

Rhagair

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru wedi ymrwymo i waith ymchwil a datblygu, ac mae’n bleser gennyf gyflwyno’r strategaeth newydd hon. Mae pocedi o ragoriaeth ym maes gwaith ymchwil yng Ngwasanaeth Gwaed Cymru, ac mae’n rhaid i ni ddathlu a hyrwyddo hyn, ond mae'r strategaeth hon yn ein herio i fynd ymhellach, a datblygu ffordd newydd o weithio i gyflwyno gwaith ymchwil a datblygu.

I gyflawni uchelgeisiau’r cynllun hwn, mae’n rhaid i bob un ohonom yng Ngwasanaeth Gwaed Cymru gyfrannu at y strategaeth hon. Mae gwasanaethau iechyd a gofal yn cael eu datblygu'n gyson, ac mae'n bwysig ein bod ni’n paratoi ein hunain ar gyfer datblygiadau newydd ym maes gofal, megis meddygaeth aildyfu, therapïau wedi’u personoli a chwyldroadau technolegol.

Fel sefydliad gofal iechyd sy’n weithgar ym maes ymchwil, byddwn yn cyflwyno gwell gwasanaethau i'r rhoddwyr rydym yn gofalu amdanynt, ac i’r cleifion y mae eu gofal yn cael eu cefnogi gennym. Byddwn yn canolbwyntio ar weithio gyda phartneriaid, a chynnwys yr holl staff wrth gyflawni hyn. Rydym eisiau bod yn sefydliad hyderus sy’n edrych tuag allan ac sy’n ehangu ein gorwelion, a bod yn agored i weithio gydag amrywiaeth o bartneriaid newydd. Bydd hyn yn ein galluogi i sicrhau ein bod yn darparu ein gwasanaethau ar sail y dystiolaeth orau sydd ar gael ac, yn gyfnewid am hyn, sicrhau ein bod yn cyfrannu ein setiau unigryw o sgiliau a phrofiadau. Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru wedi darparu gwasanaeth ardderchog am flynyddoedd lawer. Yr hyn sy’n bwysig nawr, yw herio ein hunain o ran sut rydym yn defnyddio ein doniau i gyflawni hyn.

Cath O’Brien

Cyfarwyddwr, Gwasanaeth Gwaed Cymru

 

Rwy'n croesawu'r strategaeth hon sy'n gosod uchelgais clir ar gyfer y Gwasanaeth Gwaed Cymru i drawsnewid eu gweithgareddau ymchwil, fel rhan o Ymddiriedolaeth GIG Felindre a GIG Cymru yn gweithio gyda sefydliadau partner i wella rhoddwr a gofal cleifion.

Steve Ham

Prif Weithredwr, Ymddiriedolaeth GIG Felindre

 

 

1. Ein Gweledigaeth

Bydd Gwasanaeth Gwaed Cymru yn ceisio gwneud datblygiadau ym meysydd gofal rhoddwyr a meddyginiaethau trallwyso a thrawsblannu, drwy sefydlu a chymryd rhan mewn ymchwil gwasanaethau iechyd o safon.

Ein gweledigaeth ar gyfer Gwasanaeth Gwaed Cymru yw iddo fod yn sefydliad lle mae ymchwil a datblygu o safon yn cael ei berfformio fel rhan o'n gweithgarwch arferol dydd i ddydd.

Byddwn yn ymroi i gydweithredu i sicrhau bod ein hymdrechion ymchwil yn cyflawni'r ansawdd, y canlyniad a’r cyrhaeddiad gorau posibl.

 

2. Cyd-destun

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru (GGC) yn sefydliad unigryw o fewn y system gofal iechyd yng Nghymru. Rydym yn awdurdodi ystod o wasanaethau gofal iechyd pwysig i bobl yng Nghymru, ac yn darparu gwybodaeth, arbenigedd a gwasanaeth yn y meysydd rhoi gwaed, trallwyso, safonau, trawsblannu a chynnwys y cyhoedd. Rydym yn darparu nifer o wasanaethau, gyda thimau medrus iawn. Yn 2016, cwblhaom waith ehangu sylweddol ar ein gwasanaeth, gan ymestyn ein darpariaeth i Gymru gyfan.

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn dibynnu ar haelioni ein rhoddwyr, sydd yn ffynhonnell o ysbrydoliaeth ar gyfer y gwasanaeth. Dylai pob un o'n rhoddwyr deimlo bod y gwasanaeth yn defnyddio eu rhodd hyd eithaf ei allu i achub a gwella bywydau eraill.

Mae gennym y potensial i gyfrannu ein gwybodaeth a'n harbenigedd mewn nifer o leoliadau gofal iechyd. Bydd ein strategaeth ymchwil yn cadarnhau ein hymrwymiad i geisio gwireddu’r cyfraniad hwn; mae'n canolbwyntio ar y ffyrdd mwyaf effeithiol ac effeithlon y gallwn ni gyflawni hyn, ac yn atgyfnerthu’r ymrwymiad hwnnw i berfformio ymchwil effeithiol, o safon.

Rydym yn rhan gyfansoddol o Ymddiriedolaeth GIG Felindre, ac mae'r strategaeth hon yn mynd ochr yn ochr â chenhadaeth yr Ymddiriedolaeth, sef 'Darparu Ansawdd, Gofal a Rhagoriaeth'; mae’r strategaeth yn cael ei llywio a’i thanategu gan werthoedd sefydliadol Ymddiriedolaeth GIG Felindre – sef Bydd Atebol, Feiddgar, Ofalgar, a Ddeinamig. Fel rhan o GIG Cymru, mae'r gwasanaeth yn wynebu heriau mwy. Mae gweithgarwch ymchwil a datblygiadau arloesol ar sail tystiolaeth yn ffordd o fynd i'r afael â'r her hon.

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru wedi dechrau gweithio ar raglen barhaus o foderneiddio. Mae datblygiadau diweddar yn cynnwys ehangu i fod yn wasanaeth Gymru gyfan, cyflwyno technolegau o’r radd flaenaf yn ein clinigau rhoddwyr, ac uwchraddio ein systemau TG yn sylweddol. Mae’r gwaith o foderneiddio wedi dod â chyfraniad ymchwil a datblygu (Y a D) y corff i ffocws. Mae ein hymdrechion blaenorol wedi'u cyfyngu’n fwy i rôl gefnogol, megis ein gwaith ar gyfer y Rhaglen Gydweithredol Rhagoriaeth Fiofeddygol ar gyfer Trallwyso Diogelach, neu i bynciau arbenigol cul. Fodd bynnag, mae gan GGC y potensial i wneud mwy, ac mae gennym frwdfrydedd ac arbenigedd newydd. Ymgynghorwyd yn eang wrth lunio’r strategaeth hon. Yn gyntaf oll, gofynnom am gyfranogiad gweithredol gan ein cydweithwyr yn y gwasanaeth ac yn Ymddiriedolaeth Felindre, ar ffurf gweithdai. Darganfuwyd ein cryfderau yn yr ymgynghoriadau mewnol hyn, a diffiniwyd ein dyheadau. Y neges gref oedd bod ein cydweithwyr eisiau swyddogaeth Y a D i fod yn rhan o'r gwasanaeth o'r radd flaenaf maen nhw’n ymfalchïo mewn ei ddarparu. Ymgynghorom hefyd, gydag academyddion a chlinigwyr blaenllaw, i ddarganfod beth oedd eu disgwyliadau ac i ofyn iddynt beth oeddent yn ei ddisgwyl gennym ni. Gofynnom am gyngor gan wasanaethau gwaed eraill y DU ynghylch eu hymagwedd, eu cyfeiriad a'u rheolaeth Y a D nhw yn eu sefydliadau.

Y canlyniad yw’r strategaeth uchelgeisiol hon, sydd wedi’i chynllunio i fod yn berthnasol i'n cydweithwyr ac yn ymarferol i’r gwasanaeth ei darparu. Mae'r strategaeth hon yn ein galluogi i ffurfio partneriaethau tebyg, cofnodi a lledaenu ein gwaith, a datblygu gwybodaeth ac ymarfer yn fyd-eang.

 

3. Ein Nodau

Dyma fydd nodau'r gweithgarwch ymchwil a datblygu yng Ngwasanaeth Gwaed Cymru:

· Datblygu gwelliant

· Cynyddu Ein Gweithgarwch Y a D

· Bod yn Barod i Gydweithredu

· Adeiladu Ein Henw Da

 

4. Ein Hamcanion

Er mwyn defnyddio'r ffordd o weithio ar sail tystiolaeth yn ein gwaith, mae angen i ni ddod o hyd i’r dystiolaeth honno. Byddwn yn darganfod y dystiolaeth drwy waith ymchwil a datblygu (Y a D), ac yn ei defnyddio fel arf i wella ansawdd ac effeithlonrwydd yr hyn a wnawn. Rydym yn awyddus i adeiladu ein henw da fel sefydliad gwaed sy’n weithgar ym maes ymchwil ac sy'n cynhyrchu ymchwil o safon, sy’n hybu datblygiad pellach, ac sy’n cyhoeddi ein canfyddiadau, gan sicrhau y bydd iechyd rhoddwyr a chleifion yn cael eu gwella gan yr hyn a wnawn. Rydym eisiau bod yn sefydliad sy’n barod i gydweithredu, ac sy’n gweithio gyda phartïon sydd â diddordeb i gyflawni ein nodau o ran ymchwil.

 

5. Hybu Gwelliant

5.1 Sicrhau bod ein hymdrechion Y a D o’r ansawdd uchaf

Byddwn yn ail-sefydlu Grŵp Ymchwil a Datblygu Gwasanaeth Gwaed Cymru a fydd yn goruchwylio'r holl weithgarwch ymchwil a datblygu yng Ngwasanaeth Gwaed Cymru. Y Grŵp Ymchwil a Datblygu hwn fydd yn gyfrifol am arwain a chyflwyno'r strategaeth hon. Oherwydd ein bod ni eisiau i weithgarwch Y a D arwain at gynnydd yn ansawdd ac effeithlonrwydd ein gwasanaeth, bydd yr holl weithgarwch ymchwil a datblygu arfaethedig yn cael eu hadolygu gan Grŵp Y a D GGC am eu manteision gwyddonol, a dim ond y rhai hynny sy'n dangos lefel uchel o ansawdd fydd yn cael eu cymeradwyo i'w datblygu.

Er mwyn sicrhau proses lywodraethu gadarn, ond syml ar gyfer ein prosiectau, byddwn yn gosod ein prosiectau arolygu a goruchwylio ochr yn ochr â’r prosesau caniatâd corfforaethol o fewn Ymddiriedolaeth GIG Felindre. Yr hwylusydd Y a D yng Ngwasanaeth Gwaed Cymru fydd yn perfformio’r broses ganiatâd yng Ngwasanaeth Gwaed Cymru, a bydd yn arwain yn lleol ar lywodraethu, darparu cyngor arbenigol a rhoi arweiniad ar bolisi ymchwil, tra ar yr un pryd, yn cysylltu â swyddogaeth Y a D Felindre.

5.2 Cysylltu gweithgarwch Y a D gyda datblygiad mewn gofal

Rydym eisiau i weithgarwch Y a D adeiladu'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer gofal a gwaith Gwasanaeth Gwaed Cymru ond hefyd, cefnogi'r ddarpariaeth gofal iechyd ehangach a gefnogir gan ein gwasanaeth. Bydd y Grŵp Y a D yn adolygu prosiectau arfaethedig yn wrthrychol ar yr agwedd hon, a bydd yn cymryd camau rhagweithiol i sicrhau bod canfyddiadau’n cael eu bwydo yn ôl i ymarfer. Ar ddechrau unrhyw weithgarwch Y a D, byddwn yn gofyn i'n hymchwilydd neu gydweithiwr i ddangos y llwybr y bwriedir ei defnyddio i gyhoeddi neu ledaenu gwybodaeth. Yn ystod y prosiect neu ar ôl cwblhau'r prosiect (fel y bo'n briodol), bydd y gwaith o ledaenu’r canfyddiadau yn cael eu harchwilio a'u gweithredu. Bydd hwyluso a hyfforddiant yn cael eu cynnig, i alluogi canfyddiadau’r ymchwil i gael eu lledaenu drwy'r sianeli priodol. Byddwn hefyd yn cyfathrebu'n effeithiol gyda’n rhoddwyr a’n defnyddwyr gwasanaethau, i godi ymwybyddiaeth am ganlyniad ymchwil ar welliannau yn eu gofal.

5.3 Sicrhau cynaliadwyedd ar gyfer gweithgareddau Y a D

Er mwyn i weithgarwch parhaus gyflawni cynaliadwyedd, mae'n rhaid i ni integreiddio'r agwedd ariannol yn llawn o fewn y sefydliad, a chael cynllun cyllido Y a D ar gyfer y sefydliad. Bydd yr holl weithgarwch ymchwil yn cael ei ddadansoddi yn ôl cost, cyn cael ei archwilio gan y Grŵp Y a D.

Byddwn yn chwilio am gyllid ar gyfer gweithgarwch Y a D. Gallai ffynonellau fod yn gyllid elusennol a mewnol, ffynonellau allanol neu unrhyw gyfuniad o'r rhain. Yn unol â'r modelau costio y cytunwyd arnynt ar gyfer gweithgarwch Y a D dan gontract y GIG, bydd unrhyw weithgarwch sy’n rhan o brosiect yn cael eu costio am gostau staff a gorbenion, a bydd hyn yn cael ei ychwanegu at gostau’r prosiect. Bydd y costau hyn yn cael eu hail-fuddsoddi yn y sefydliad, er mwyn sicrhau cynaliadwyedd. Lle bo’n briodol, bydd cynlluniau prosiect ymchwil a datblygu sylweddol yn cael eu cynnwys yng Nghynllun Tymor Canolig Integredig Ymddiriedolaeth GIG Felindre. Bydd hyn yn caniatáu mwy o gynllunio a chyflwyno o ran ein nodau ymchwil.

Mae rôl ar gyfer codi ymwybyddiaeth fasnachol o’n gweithgarwch. Fodd bynnag, mae'n gynnar yn y cylch bywyd i fynd i’r afael â’r agwedd hon yn fanwl. Unwaith y bydd ein gwasanaeth yn fwy sefydledig, byddwn yn edrych unwaith eto ar yr agwedd hon o’r busnes. Bydd unrhyw gyllid allanol (gweler yr adran Sicrhau cyllid allanol) yn cael ei lywodraethu’n ffurfiol drwy weithdrefnau llywodraethu’r GIG, er mwyn sicrhau costau niwtral i'r GIG. Bydd trefniadau costio a chontractio groyw, ymlaen llaw yn cael eu gwneud, sy’n dilyn prosesau Llywodraethu Ymchwil Ymddiriedolaeth GIG Felindre. Bydd y Grŵp Y a D yn argymell dyrannu cyllid mewnol, a bydd hyn yn cael ei lywodraethu gan yr Uwch Dîm Rheoli.

 

6. Cynyddu Ein Gweithgarwch Y a D

6.1 Trefnu a chydlynu ein gweithgarwch Y a D

Mae datblygiadau mewn gofal iechyd yn cael eu gwneud mewn nifer o wahanol ffyrdd, o ddarganfyddiadau yn y labordy i astudio poblogaethau mawr. Rydym yn credu bod yr holl fathau hyn o waith ymchwil a datblygu yn bwysig, a byddwn yn cefnogi pob ffordd ddilys o weithio i geisio cyflwyno gwaith Y a D o ansawdd uchel. Felly, byddwn yn cefnogi nifer o wahanol fathau o ymchwil, o waith yn y labordy i ymchwil mwy clinigol ac ar sail ddemograffig. Byddwn yn trefnu ein gweithgarwch Y a D yn bedair thema gyflawn. Bydd y themâu hyn yn cael eu gosod ochr yn ochr â darpariaeth y gwasanaeth o fewn GGC, er nad ydynt yn cael eu mapio yn uniongyrchol at adrannau penodol. Bydd hyn yn galluogi gwahanu’r gwaith o reoli gweithgarwch sy'n gysylltiedig ag Y a D oddi wrth y gofynion arferol, ac ein galluogi i ychwanegu cydbwysedd o fewn y gweithgarwch sy'n digwydd o fewn y gwasanaeth. Y pedair thema fydd: Gofal Rhoddwr ac Iechyd y Cyhoedd, Trawsblannu, Cynnyrch, a Therapïau.

Bydd y broses hon o wahanu gweithgarwch yn themâu, yn creu ymagwedd 'perchenogaeth ranedig' at brosiectau Y a D. Bydd yn caniatáu ffordd effeithiol ac effeithlon o sicrhau y bydd pawb yn gallu cyfrannu at y themâu. Bydd hefyd yn caniatáu rhyngwynebu a chyfathrebu yn haws gyda phartïon allanol.

Rhagwelir y bydd unigolyn arweiniol ar gyfer pob un o'r themâu ymchwil yn cael eu penodi gan yr Uwch Dîm Rheoli, a fydd wedyn, yn arwain y gweithgarwch o fewn y thema, ac yn gweithredu fel arweinydd thema dynodedig Grŵp Y a D GGC.

6.2 Datblygu gallu ein gweithlu

Mae proffil Y a D GGC yn amrywiol. Mae'r proffil yn amrywio o bobl sy’n hollol newydd i faes ymchwil, i'r bobl hynny sydd efallai, heb lawer o brofiad o ymchwil, i staff sy'n meddu ar wybodaeth gyfoes am Y a D yn eu maes ac sydd hefyd efallai, yn meddu ar gymwysterau ymchwil academaidd.

Mae angen i ni fod yn ymwybodol o'r amrywiaeth hon o fewn ein gweithlu wrth asesu effaith y strategaeth hon ar alluoedd y gweithlu. Er mwyn i’n cydweithwyr gyflawni ymchwil, efallai y byddant angen hyfforddiant ac addysg ychwanegol. Byddwn yn mabwysiadu ymagwedd haenog, wedi’i theilwra, at ddatblygu gallu’r gweithlu i gyflawni gwaith Y a D.

Wrth sefydlu prosiectau ymchwil a datblygu, bydd y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y prosiect yn cael eu hasesu ac yna, eu darparu’n briodol yn unol â hynny, Bydd angen i'r ddarpariaeth hyfforddiant fod yn amlochrog. Bydd model hyfforddi ymatebol yn osgoi darparu gormod o hyfforddiant a thanddefnyddio hyfforddiant, a bydd hefyd yn galluogi digwyddiadau hyfforddi i gyd-fynd â gofynion arferol y gwasanaeth. Bydd yr hyfforddiant a ddarperir yn cael ei adolygu'n barhaus gan y Grŵp Y a D, er mwyn sicrhau bod y model gorau ar gyfer cyflenwi yn cael ei ddefnyddio.

Gellir trefnu hyfforddiant Y a D yn fewnol drwy Adran Hyfforddi a Datblygu GGC, neu drwy’r Adran Addysg a Datblygu yn Ymddiriedolaeth GIG Felindre, Mae darparwyr hyfforddiant ac addysg allanol yn cynnwys Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a’n darparwyr hyfforddiant ein hunain

Bydd rhywfaint o agweddau o ymwybyddiaeth ymchwil yn cael eu cynnwys yng Ngwerthusiad/Adolygiad Datblygiad Personol (PADR) yr holl staff. Bydd y gweithgarwch sydd ei angen i gefnogi hyn yn cael ei ddarparu drwy weithgareddau datblygu’r staff a ddisgrifir yn yr adran Creu diwylliant positif yn ymwneud â gweithgarwch Y a D.

Bydd yr agwedd hon o waith unigolion sydd â mwy o weithgarwch Y a D yn eu rôl yn cael mwy o sylw yn eu Gwerthusiad/Adolygiad Datblygiad Personol, a thrwy hyfforddiant sy'n cefnogi ail-ddilysu proffesiynol.

6.3 Datblygu gallu ein gweithlu

Byddwn yn dod o hyd i ffyrdd o ddatblygu’r gweithlu sydd ei angen i gefnogi ein prosiectau Y a D.

Ar ddechrau unrhyw brosiect, bydd y gweithgarwch arfaethedig yn cael ei adolygu gan y Grŵp Y a D, a bydd y canlyniad ar adnoddau’r gweithlu yn cael eu diffinio a'u nodi. Ar hyn o bryd, dim ond nifer fechan o staff GGC sydd â chylch gwaith ymchwil yn eu rôl. I ddechrau, y grŵp hwn fydd y brif gefnogaeth ar gyfer prosiectau Y a D, a phwrpas y grŵp fydd gweithredu i ddefnyddio arbenigedd ac adnoddau eu cydweithwyr o fewn eu lleoliad gwaith. Hoffem gael mwy o staff ynghlwm ym maes ymchwil, fel arweinwyr ac fel cyfranwyr. Felly, bydd gallu’r grŵp bach hwn yn cael ei adolygu, ac rydym yn cydnabod ein bod ni angen cael gafael ar, a sicrhau cefnogaeth wrth ddatblygu ein gweithlu, drwy weithio mewn partneriaeth a thrwy gydweithredu’n allanol. Er enghraifft, byddwn yn archwilio ac yn defnyddio trefniadau staffio, yn defnyddio arian naill ai o gyllideb GGC ei hun, neu, pan fydd ar gael, o gynlluniau allanol (gweler yr adran Sicrhau cyllid allanol).

Rhagwelir y bydd y gwaith o weithredu'r strategaeth yn gofyn am nifer o ofynion anuniongyrchol ar wasanaethau cymorth GGC. Bydd y gofynion ychwanegol hyn yn cael eu rhoi ar wasanaethau fel yr adrannau ystadau, cyfleusterau, cefnogaeth llyfrgell, cymorth TG, ac ar adran gyfathrebu'r sefydliad. Byddwn yn diffinio, mesur, cynllunio a rheoli hyn yn y ffordd briodol, a galluogi'r adrannau perthnasol i ymateb a chyflenwi.

6.4 Creu diwylliant positif yn ymwneud â gweithgarwch Y a D

Byddwn yn anelu at ddarparu amgylchedd lle mae staff yn teimlo eu bod yn rhan o agenda sy’n weithgar ym maes ymchwil. Byddwn yn gwneud hyn drwy godi ymwybyddiaeth o waith ymchwil a'i fanteision, a gweithredu rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau a fydd yn ceisio annog ymgysylltu â staff. Bydd y gwasanaethau llyfrgell mewnol yn cael eu cryfhau a’u hyrwyddo drwy gysylltiadau gwaith agosach gydag Ymddiriedolaeth GIG Felindre a thrwy gymorth mewnol. Bydd y gwaith o adrodd ar, neu gyhoeddi ein prosiectau ymchwil yn cael ei hyrwyddo a'i hysbysebu yn fewnol ac mewn llenyddiaeth ein cydweithredwr.

 

7. Bod yn agored i gydweithrediad Y a D

7.1 Ymroi i chwilio am bartneriaid cydweithredol i ddatblygu prosiectau Y a D

Y brif ymagwedd y byddwn yn ei mabwysiadu i ddatblygu rhaglen o weithgarwch ymchwil fydd gweithio ar y cyd â chyrff eraill.

Byddwn yn ysgogi trafodaethau ymhlith y byd academaidd, clinigwyr a diwydiant. Byddwn yn dod â nhw at ein gilydd gyda’n staff ein hunain i gyfnewid gwybodaeth a meithrin llwybrau posibl ar gyfer prosiectau ymchwil. Bydd y dull hwn yn rhoi mynediad i Wasanaeth Gwaed Cymru i fentrau ymchwil arloesol, a fydd yn sicrhau bod ein hymdrechion yn datblygu yn y maes.

Mewn unrhyw sector, rydym yn dymuno gweithio gydag arweinwyr yn y maes ac felly, byddwn yn chwilio am unigolion a grwpiau sy'n rhannu ein hamcanion ymchwil blaenllaw. Byddwn yn gwneud cysylltiadau gyda'r grwpiau hyn, ac yn gweithio tuag at ddod â sgiliau o wahanol ddisgyblaethau at ei gilydd, a meithrin syniadau ymchwil.

Diwydiant Rhyngwladol a’r DU

Byddwn yn mynd ar drywydd cyfleoedd i weithio ar brosiectau ymchwil a datblygu gyda phartneriaid masnachol pan fydd eu nodau yr un fath â’n rhai ni. Byddwn yn ymateb yn gyflym i ymholiadau, a chael offer costio a chontractio wrth law i gynorthwyo gyda’r gwaith o gyd-drafod a sefydlu.

Mae’r swyddogaeth o weithredu ymchwil iechyd trosiadol ym maes gofal cleifion yn swyddogaeth i nifer o sefydliadau a chyrff. Byddwn yn anelu at weithio gyda'r cyrff hyn ac yna, cymryd rhan mewn prosiectau pan yn berthnasol i’n strategaeth Y a D.

Fel hyn, bydd gennym bortffolio cytbwys o brosiectau cydweithredol o ran y math o gydweithiwr; llinell amser o hyd y prosiect; a thema'r ymchwil.

Sefydliadau Academaidd

Byddwn yn targedu prifysgolion yng Nghymru fel ffynonellau o gydweithredu. Mae gan seilwaith ymchwil Llywodraeth Cymru ffrydiau ariannu penodol, gyda chymhwyster sy’n benodol i gydweithredu sy’n digwydd yng Nghymru a fyddai wedyn, yn hygyrch drwy’r math hwn o gydweithredu.

Byddwn hefyd yn ceisio cydweithio gyda sefydliadau addysg uwch tu allan i Gymru. Mae’n bosibl y gellir cael arbenigedd penodol a ffrydiau ariannu pellach fel hyn. Bydd cydweithrediadau yn cael eu hwyluso drwy’r defnydd da o TG a chyfathrebu.

Byddwn yn ceisio cyfrannu at lunio cynigion ymchwil, a chael ein cynnwys ar geisiadau am gyllid.

Mae gweithio gyda'r sector Addysg Uwch yn caniatáu i Wasanaeth Gwaed Cymru gael mynediad i gynlluniau a chyllid, ac i weithio ochr yn ochr ag arbenigwyr yn eu maes. Bydd hyn yn sicrhau bod ein hymdrechion o’r safon academaidd uchaf, ac ein bod yn cael mynediad i gwmpas ehangach o wybodaeth a galluoedd.

GIG Cymru

Mae GIG Cymru yn wasanaeth cynhwysfawr, felly bydd cydweithredu o fewn y gwasanaeth yn caniatáu mynediad i amrediad o feysydd ymchwil cyffredinol a hefyd, gwasanaethau arbenigol. Rydym yn awyddus i weithio gyda seilwaith ariannu Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, i berfformio a chefnogi ymchwil trosiadol o’r ansawdd uchaf.

Cyrff eraill y GIG

Mae’n rhaid i ni gydnabod hefyd, efallai bod y GIG yng ngweddill y DU hefyd yn dymuno cydweithio â ni, a byddwn yn parhau i fod yn agored i hyn. Byddwn hefyd yn edrych ar ein cysylltiadau presennol gyda chlinigwyr a'r byrddau iechyd sy'n gwsmeriaid i ni, i archwilio p’un a oes gwaith ymchwil academaidd clinigol parhaus neu arfaethedig y gallai'r gwasanaeth gymryd rhan ynddo.

Y Gwasanaethau Gwaed rhyngwladol

Byddwn yn gweithio ochr yn ochr â changhennau ymchwil gwasanaethau gwaed cenedlaethol eraill i rannu ffyrdd o weithio a strategaethau. Wrth weithio gyda gwledydd eraill, byddwn yn cyfathrebu’n agos â Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG, Gwasanaeth Trallwyso Gwaed Cenedlaethol yr Alban a Gwasanaeth Trallwyso Gwaed Gogledd Iwerddon, i sicrhau bod ein hymdrechion yn cael eu cydlynu'n briodol. Byddwn yn agored ac yn barod i dderbyn prosiectau cydweithredol rhyngwladol. Bydd y llwybr hwn yn caniatáu mynediad i'r gymuned ryngwladol, ac yn cyfrannu at faes meddyginiaethol gwaed a thrallwyso.

7.2 Sicrhau cyllid allanol

Wrth gydweithio gydag endidau anfasnachol, byddwn yn gweithio i gael arian ar gyfer ein gweithgareddau naill ai'n uniongyrchol gan y parti arall, neu drwy ennill cyfran o gyllid o ffynhonnell prosiect ar y cyd.

Byddwn yn ymgeisio am ffynonellau elusennol o gyllid pan fo hyn yn briodol i'r prosiect.

Byddwn yn mynd ar drywydd cyfleoedd perthnasol i gynhyrchu incwm masnachol a fydd yn cael ei ail-fuddsoddi yn ein capasiti i wneud gwaith ymchwil. Byddwn yn sicrhau bod costau o ran amser a chyfarpar staff yn cael eu mesur a'u costio’n ddigonol, a bod ffrydiau ariannu yn cael eu harchwilio wrth weithio gydag endidau masnachol.

Byddwn yn gweithio'n agos gyda swyddfa Llywodraethu Ymchwil Ymddiriedolaeth GIG Felindre, i sicrhau bod ein proses ar gyfer adolygu contractau a chostau, a chwblhau’r broses, yn cael ei symleiddio. Bydd gennym wybodaeth ariannol dryloyw o ansawdd uchel sydd ar gael yn rhwydd, a byddwn yn defnyddio dull adennill costau cadarn.

 

8. Adeiladu enw da fel gwasanaeth gwaed sy’n weithgar mewn gwaith ymchwil

Byddwn yn gwahodd partïon eraill i gael gwybod am ein gwaith trwy gyfarfodydd, cyflwyniadau a digwyddiadau. Bydd gennym becyn llenyddiaeth a chynhadledd proffesiynol ar ein stondin. Byddwn yn mynychu digwyddiadau perthnasol, a lle bo hynny'n bosibl, yn bresennol ynddynt i hyrwyddo ein cynnig ymchwil ac i wahodd ymholiadau. Byddwn yn gwella cynrychiolaeth ein gweithgarwch ymchwil drwy ein rhyngrwyd, cyfryngau cymdeithasol a sianeli cyhoeddusrwydd. Byddwn yn trefnu gweithdai a chyfarfodydd yn ein pencadlys pan fo hynny'n briodol. Byddwn yn ymateb ymholiadau yn gyflym, a bydd llwybr cyfathrebu penodol o fewn y sefydliad i sicrhau bod ymholiadau yn cael eu hateb yn brydlon. Byddwn yn rhoi amser penodol i staff i gyflawni’r dasg o sefydlu cydweithrediadau. Bydd gennym gorff o wybodaeth ysgrifenedig am ein cyfleusterau a’n galluoedd Y a D, y gellir eu dosbarthu i gydweithredwyr posibl.

8.1 Mesur a diffinio Cynnydd a Llwyddiant

Drwy weithredu’r strategaeth ymchwil yn llwyddiannus, byddwn yn creu ein cofnod ymchwil, a bydd yn galluogi Gwasanaeth Gwaed Cymru i ddangos gwelliannau mewn

gwybodaeth, enw da, datblygu staff a materion ariannol. Byddwn yn sefydlu dangosyddion perfformiad allweddol mewn perthynas â nifer y cyhoeddiadau sy’n cael eu cyhoeddi. Byddwn yn cynnwys gweithgarwch ymchwil a datblygu yn adroddiad blynyddol Gwasanaeth Gwaed Cymru. Bydd ffyrdd o gofnodi a chynnal ein deunydd cyhoeddedig sy'n ymwneud ag ymchwil a datblygu yn cael eu hailystyried a'u datblygu. Bydd camau’n cael eu cymryd i alluogi gwaith i gael ei gyhoeddi am ddim dros y rhyngrwyd. Mae dau reswm am hyn: i gynyddu amlygrwydd ein hymchwil ac i wneud y mwyaf o'i effaith, ac yn ail, i fynd i'r afael â'r twf cynyddol yn y galw am fwy o fynediad agored i wybodaeth ymchwil o ffynonellau’r sector cyhoeddus. Byddwn yn cyhoeddi’r straeon unigol o ddarganfod a chynnydd. Fel rhan o gylch gwaith pwyllgor Y a D Ymddiriedolaeth GIG Felindre, mae’n ofynnol iddynt fonitro ein perfformiad mewn perthynas â’r strategaeth hon.

 

9. Ein themâu Ymchwil a Datblygu yng Ngwasanaeth Gwaed Cymru

Trawsblannu: Mae trawsblannu yn cynnwys pynciau yn ymwneud â thrawsblannu organau solet a bôn-gelloedd, histogydnawsedd ac imiwnogeneteg, a chofrestrfeydd rhoddwyr.

Gofal Rhoddwr ac Iechyd y Cyhoedd: Mae Gofal Rhoddwyr ac Iechyd y Cyhoedd yn cynnwys pynciau yn ymwneud â recriwtio, cadw a chymhwysedd rhoddwyr, gofal ac iechyd y cyhoedd, a gwyliadwriaeth.

Cynnyrch: Mae cynnyrch yn cynnwys testunau yn ymwneud â chydrannau gwaed, sy'n cynnwys imiwnohaematoleg, profi, cynhyrchu cydrannau a chynnyrch, rheoli ansawdd, a gwerthuso offer a deunyddiau.

Therapïau: Mae therapïau yn cynnwys pynciau yn ymwneud â therapïau cellog a gwaed eraill

 

9.1 Amcan y thema Trawsblannu

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn bartner allweddol yn y ddarpariaeth o drawsblannu organau a bôn-gelloedd yng Nghymru. Ein nod yw cefnogi gwelliannau ym maes meddyginiaeth trawsblannu drwy ein cefnogaeth histogydnawsedd ac imiwnogeneteg arbenigol.

Rydym yn cydnabod bod gennym rôl mewn datblygu gwasanaethau trawsblannu a gofal cleifion. Rydym yn bwriadu cyflawni hyn drwy weithio'n agos gyda darparwyr y gwasanaethau hyn, ac adeiladu rhwydweithiau a fydd yn sefydlu rôl GGC mewn gwaith ymchwil a datblygu ym maes trawsblannu.

Gweithio mewn partneriaeth fydd prif ran y thema Y a D hon, a byddwn yn gweithio’n galed i ymateb i geisiadau gan arweinwyr barn allweddol, clinigwyr, diwydiant a'r byd academaidd. Byddwn yn gweithio i sefydlu a chynnal y perthnasoedd hyn.

Byddwn yn adeiladu ar ein hunigrywedd ac ar gryfder ein gwasanaethau. Mae gennym gyfoeth o ddata a darpariaeth glinigol brofedig y gallwn eu defnyddio i sefydlu ein lle fel datryswyr problemau proffesiynol yn y maes clinigol.

Byddwn yn parhau i geisio gwella ein gwasanaethau drwy ddefnyddio’r prosesau histogydnawsedd ac imiwnogeneteg gorau. Bydd optimeiddio yn canolbwyntio ar berfformiad, effeithiolrwydd cost a gweithredu arloesed yn y lleoliad hwn. Byddwn yn darparu mynediad at ein data presennol (yn unol â chymeradwyaeth llywodraethu a moesegol), er mwyn sicrhau y gellir eu defnyddio i'w llawn botensial.

Byddwn yn gweithio gyda rhoddwyr a derbynwyr trawsblaniadau i ymchwilio i'w hagweddau, gwybodaeth a’u barnau am feddyginiaeth trawsblannu. Gyda therapi bôn-gelloedd yn parhau i ehangu i feysydd clinigol newydd, byddwn yn edrych ar ganfyddiad y cyhoedd a chleifion o baru a chydnawsedd, a ph’un a all ein darpariaeth gyfathrebu a gwybodaeth gael ei gwella neu ei ehangu.

Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda chanolfannau trawsblannu Byrddau Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, i gefnogi eu gwaith Y a D.

Crynodeb

· Byddwn yn cyfrannu at ddealltwriaeth bellach ym maes trawsblannu.

· Rydym yn dymuno deall mwy am effaith y newidiadau mewn gwybodaeth ar y pwysigrwydd o baru â rhoddwy

· Byddwn yn datblygu a chynnal perthnasau gweithio gyda chlinigwyr ac academyddion sy’n ymroi i ymchwil ym maes trawsblannu, ac yn archwilio a datblygu prosiectau ymchwil a datblygu ar y cyd.

 

9.2 Amcan y thema Gofal Rhoddwyr ac Iechyd Cyhoeddus

Ein nod yw bod Gwasanaeth Gwaed Cymru yn arwain mewn arloesi o'r radd flaenaf yn y gofal i roddwyr.

Ein rhoddwyr gwaed, platennau a mêr esgyrn yw conglfaen y sefydliad, ac rydym yn ymdrechu i sicrhau bod y gofal y mae ein rhoddwyr yn ei dderbyn o safon fyd-eang. Bydd y thema Gofal Rhoddwyr ac Iechyd Cyhoeddus yn cwmpasu gwaith Y a D, sydd ar flaen y gad o ran gwybodaeth gyfredol ac ymarfer ar sail tystiolaeth. Bydd yn sicrhau bod syniadau a chymwysiadau newydd yn cael eu profi, bod meddwl newydd yn cael ei gymhwyso, ac y bydd ein gofal yn gwella ac yn ehangu.

Byddwn yn darparu gwybodaeth awdurdodol ar y ffyrdd gorau o weithio drwy gasglu, prosesu a chyhoeddi data ar ofal rhoddwyr a'n datblygiadau, gan sicrhau bod gofal yn cael ei seilio ar dystiolaeth ac ar wneud pethau am y rhesymau iawn.

Mae ein rhoddwyr yn rhan o'r cyhoedd; felly, bydd y thema hon yn cwmpasu gwaith ar lefel iechyd y cyhoedd, gan ein bod yn cydnabod y gallai ein gofal gael canlyniadau arwyddocaol ar gyfer y cyhoedd.

Byddwn yn archwilio sut i leihau cyfradd ac effaith adweithiau anffafriol wrth roi gwaed. Drwy fynd i’r afael â’r mater hwn, byddwn yn gwella iechyd rhoddwyr a pharodrwydd y rhoddwyr i ddychwelyd i roi gwaed eto. Bydd atal digwyddiadau niweidiol o'r fath o fudd uniongyrchol i roddwyr, a bydd yn gwella ein heffeithiolrwydd gweithredol. Mae atal a lleihau digwyddiadau andwyol yn amcan ar gyfer gwasanaethau gwaed ar draws y byd. Gall GGC chwarae rhan lawn yn hyn. Gobeithio y gallwn gydweithio â gwasanaethau gwaed eraill ar y pwnc hwn a hefyd, edrych am atebion newydd ac arloesol yn y maes hwn.

Byddwn yn casglu tystiolaeth ar gyfer cefnogi gofal gwell i roddwyr iau, ac yn mynd i'r afael â materion megis amlder casglu priodol, a'r defnydd o strategaethau recriwtio soffistigedig.

Byddwn yn cyfeirio at yr arwyddocâd clinigol a’r posibilrwydd o gynnig ymyrraeth feddygol ar gyfer rheoli’r posibilrwydd o golli haearn ar ôl rhoi gwaed. Unwaith eto, mae’r pwnc hwn yn cael sylw gan y gwasanaethau gwaed ar draws y byd. Mae'n rhaid i ni ddarganfod ein rôl a chyfrannu fel y gallwn. Pan fo'n briodol, byddwn yn sefydlu cysylltiadau gyda darpariaeth gofal sylfaenol, ochr yn ochr â mentrau ymchwil parhaus ar gyfer hyn.

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn arloeswr mewn cofnodi data’n electronig wrth sgrinio rhoddwyr. Rydym yn cydnabod bod yn rhaid i ni fanteisio ar yr arloesedd hon o’r radd flaenaf ac ar ein profiad o’r dechnoleg hon. Byddwn yn parhau i ddatblygu ein dealltwriaeth o gadernid a chywirdeb y dechnoleg hon yn ymarferol.

Rydym yn dymuno hybu ein defnydd o’n harbenigedd ac felly, byddwn yn cefnogi’r bwriad o gyhoeddi ein gwybodaeth a’n tystiolaeth yn ein gwaith.

Byddwn yn ymchwilio ffyrdd o deilwra recriwtio rhoddwyr. Gallai cynnig dulliau recriwtio personol ar sail ffactorau demograffig arwain at effaith gadarnhaol ar enw da ac ar ein cyfraddau cadw. Byddwn yn edrych ar ddemograffig a nodweddion ein rhoddwyr, a ph’un ai y gellir gwella ein ffyrdd o ryngweithio i wella ein cyfraddau cadw.

Byddwn yn archwilio yn arbennig, ein hymagwedd at roddwyr ifanc, rhoddwyr tro cyntaf neu roddwyr benywaidd, a gofyn a allai gwahanol fathau o ryngweithio neu ddethol fod yn fuddiol, neu a allai dulliau sy’n cyfuno ffactorau eraill megis cymhelliant ac amseru effeithio ar recriwtio a chadw rhoddwyr. Byddwn yn chwilio am gysylltiadau â gwasanaethau gwaed sydd â demograffig debyg, a chyfnewid gwybodaeth, ymarfer ac arloesedd.

Byddwn yn archwilio'r ffenomenon Heb Fynychu (pan mae rhoddwyr yn trefnu apwyntiadau, ond ddim yn dod i’r apwyntiad) yn y lleoliad rhoddi. Byddwn yn chwilio am syniadau seicolegol newydd i ddeall yn well pam nad yw rhai rhoddwyr yn dod i’w hapwyntiadau.

Er mwyn cynllunio a gweithredu gweithgareddau sy'n gysylltiedig â rhoddwyr, byddwn angen cefnogaeth gadarn yn y ddealltwriaeth o ymddygiad dynol a chymhellion ffisiolegol. Byddwn yn cefnogi ymchwil rhyngddisgyblaethol, ac yn dwyn ynghyd ymddygiadwyr, seicolegwyr ac arbenigwyr eraill yn y maes hwn. Bydd hyn yn hwyluso datblygu astudiaethau rheoli rhoddwyr, a chynyddu ein dealltwriaeth o'r mecanweithiau sy'n dylanwadu ar ffordd o feddwl ac ymddygiad rhoddwyr. Drwy ymchwilio ymhellach i gymhelliant, byddwn yn edrych ar ein mecanweithiau cyswllt, amseriad a’n dulliau rhyngweithio, er mwyn cynnig rhyngweithiadau wedi’u teilwra ar sail priodoleddau ac amgylchiadau personol y rhoddwr. Bydd hyn yn ein helpu i geisio sicrhau bod pob rhoddwyr yn teimlo’n werthfawr a’u bod yn cael eu cydnabod mewn modd personol, a fydd yn ein galluogi i wella ein metrics cadw.

Crynodeb

· Byddwn yn darparu tystiolaeth awdurdodol ar ofal ein rhoddwyr.

· Byddwn yn ceisio gwneud y gorau o'n gwaith o recriwtio a chadw rhoddwyr trwy ddatblygu, gweithredu a gwerthuso ymyriadau a strategaethau newydd.

· Mae gennym y potensial i gefnogi pynciau ymchwil eraill, megis iechyd a lles y boblogaeth, iechyd y cyhoedd a chyfathrebu gyda sefydliadau iechyd am y cyhoedd.

 

9.3 Amcan ar gyfer y thema Cynnyrch

Rydym yn arbenigwyr gweithgynhyrchu o fewn ein maes. Byddwn yn ysgogi rhyngweithio rhwng cyflenwyr a’r parth clinigol, ac yn sefydlu llwybr ymchwil a fydd yn cael canlyniadau buddiol i roddwyr a derbynwyr.

 

Bydd y thema Cynnyrch yn cwmpasu gweithgarwch Y a D yn ein galluoedd cynhyrchu. Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn defnyddio amrywiaeth o brosesau profi, gweithgynhyrchu a dosbarthu wrth gynhyrchu cydrannau gwaed. Mae ein cyfleusterau cynhyrchu a’n labordai sicrhau ansawdd tra modern i gyd wedi eu lleoli mewn un ganolfan yn ein pencadlys yn Nhonysguboriau.

Byddwn yn defnyddio ein galluoedd cynhyrchu i gynnig datrysiad ymchwil ar gyfer gwerthuso a mireinio prosesau. Byddwn yn gweithio gyda'n gweithgynhyrchwyr a’n cyflenwyr offer i sicrhau prosesau a mecanweithiau llyfn, cynhyrchiol ac effeithiol a allai arwain at fwy o effeithiolrwydd o ran ein cydrannau a gynhyrchwn. Byddwn yn sganio’r gorwelion am ddatblygiadau technolegol mewn dulliau cynhyrchu, er mwyn ein galluogi i gael mynediad i dechnolegau o’r radd flaenaf. Byddwn yn edrych am gyfleoedd i weithio gyda gwneuthurwyr offer i dreialu a gweithredu offer a thechnoleg newydd gyda'n proses gweithgynhyrchu presennol. Byddwn yn ceisio gwella'r cysylltiad rhyngddom ni a chyflenwyr, trwy agweddau newydd o weithio ar y cyd.

Yn y maes technegol iawn hwn, byddwn yn buddsoddi yn ein perthynas â'n cyflenwyr a’n gweithgynhyrchwyr, ac yn gweithio mewn partneriaeth er mwyn caniatáu mynediad i’r wybodaeth glinigol ddiweddaraf a rhannu ein galluoedd gweithgynhyrchu. Bydd data presennol ar ein perfformiad mewn gweithgynhyrchu cydrannau yn cael ei archwilio, i chwilio am feysydd lle gallwn weithredu'n ddeinamig a threfnu ein galluoedd yn wahanol. Byddwn yn ceisio creu gwelliannau; i gynhyrchu’n effeithlon wrth sicrhau diogelwch parhaus. Lle bo'n bosibl, byddwn yn gwneud hyn mewn partneriaeth â chyflenwyr a gweithgynhyrchwyr, i sicrhau’r effeithiolrwydd mwyaf a chreu gwybodaeth gyda’n gilydd. Bydd y dull rhyngddisgyblaethol hwn yn cyfrannu at y gwaith o ddatblygu technolegau newydd, ac yn rhoi cyfle i fuddsoddi yn y diwydiant.

Drwy ganolbwyntio ar ddatblygu a gwella ein darpariaeth blatennau ymhellach, byddwn yn ysgogi rhyngweithio rhwng y maes meddygol, gweithgynhyrchwyr a grwpiau cleifion i gyflymu datblygiad technolegol mewn ffordd sy'n cael effaith uniongyrchol ar roddwyr a derbynwyr platennau.

Crynodeb

· Byddwn yn sganio’r gorwelion am ffyrdd o wella ein gwaith gweithgynhyrchu, a sicrhau bod ein prosesau gweithgynhyrchu yn ddarbodus ac yn effeithlon.

· Byddwn yn asesu technolegau newydd sydd â'r potensial i wella cyflenwad.

· Byddwn yn cyfrannu at yr wybodaeth am berfformiad cydrannau gwaed yn y lleoliad clinigol.

 

9.4 Amcan ar gyfer y thema Therapïau

Byddwn yn gwella’r uchelgais i gefnogi datblygiadau yn y meysydd therapïau imiwno-, biolegol- a chellog, yn unol ag uchelgais y gwasanaeth i ddarparu meddyginiaethau atgynhyrchiol a therapïau eraill yn y dyfodol.

Mae angen i ni newid ein darpariaeth gwasanaeth er mwyn datblygu ym maes meddygaeth atgynhyrchiol, ac er mwyn ehangu’r sefyllfa glinigol ar gyfer therapi sy'n gysylltiedig â bôn-gelloedd. Gall y gwaith hwn ddigwydd mewn nifer o sectorau o’n gwasanaeth, megis labordai, gweithgynhyrchu neu logisteg, ac efallai y bydd angen ymglymiad gan roddwyr hefyd. Byddwn yn parhau i fod yn ymwybodol o ddatblygiadau gwasanaethau, a'r gofynion posibl ar ein sefydliad yn y dyfodol.

Mae gennym y gallu i gynorthwyo yn y broses o ddatblygu therapïau newydd drwy weithio ochr yn ochr ag ymchwilwyr. Gallwn gynnig gwell dealltwriaeth o gyflwyno therapïau yn lleoliad y GIG. Byddwn yn rhannu ein harbenigedd o ymgorffori dulliau therapiwtig cywir mewn gofal meddygol safonol. Byddwn yn adeiladu ar ein darpariaeth bresennol, ac yn gweithio i ddarparu sylfaen dystiolaeth y gall Gwasanaeth Gwaed Cymru ei defnyddio i sicrhau ei rôl mewn darparu therapïau.

Byddwn yn gwneud hyn drwy gynyddu ein cysylltiad â chyrff eraill yn y maes therapiwtig hwn, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Byddwn yn edrych am gyfleoedd i gydweithio, ac yn cynnig ein hunain fel partner ymchwil ar gyfer grwpiau gwyddonol a meddygol sy'n gweithio yn y maes hwn, gan gynyddu'r cysylltiadau a chyfnewid syniadau, gwybodaeth a phrofiad.

Crynodeb

· Byddwn yn ymchwilio i'r llwybrau posibl ar gyfer ymchwil a datblygu yn y maes hwn sy'n ehangu.

· Byddwn yn cydweithio ag ymchwilwyr gofal iechyd, ac yn annog a hwyluso cydweithrediad.

· Byddwn yn archwilio dulliau technolegol newydd, ac yn profi eu methodoleg.