Mae Adroddiad Perfformiad Integredig Ymchwil, Datblygu ac Arloesi (YDA) yr Ymddiriedolaeth yn crynhoi ac yn rhoi diweddariad o weithgareddau gwasanaeth Ymchwil, Datblygu ac Arloesi'r Ymddiriedolaeth ar gyfer pob chwarter o'r flwyddyn ariannol.
Mae'r adroddiad yn adlewyrchu blaenoriaethau strategol YDA a gyhoeddwyd yng Nghynllun Tymor Canolig Integredig Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre. Mae’r blaenoriaethau hyn yn cefnogi nod strategol yr Ymddiriedolaeth i fod yn “Oleufa ar gyfer ymchwil, datblygu ac arloesi” fel a ganlyn:
Blaenoriaethau Strategol
Blaenoriaeth 1 | Bydd yr Ymddiriedolaeth yn bwrw ymlaen â gweithredu ei Huchelgeisiau Ymchwil a Datblygu Canser 2022-2031 |
Blaenoriaeth 2 | Bydd yr Ymddiriedolaeth yn gwneud y gorau o uchelgeisiau Ymchwil a Datblygu Gwasanaeth Gwaed Cymru |
Blaenoriaeth 3 |
Bydd yr Ymddiriedolaeth yn gweithredu Cynllun Arloesedd Felindre |
Blaenoriaeth 4 | Bydd yr Ymddiriedolaeth yn cynyddu cyfleoedd cydweithredol i’r eithaf yn lleol, yn cenedlaethol ac yn rhyngwladol |
Mae'r adroddiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau yn erbyn blaenoriaethau strategol gwasanaeth YDA yr Ymddiriedolaeth, ochr yn ochr â gwaith ategol themâu trawsbynciol a swyddogaethau corfforaethol sy'n cefnogi ymchwil, datblygiad ac arloesedd.
Mae adroddiadau ar gyfer chwarteri un i dri yn crynhoi’r gwaith yn y chwarter hwnnw, gan arwain at adroddiad blynyddol (yn ymgorffori chwarter pedwar) ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.