Neidio i'r prif gynnwy

Blaenoriaeth Strategol 3

Bydd yr Ymddiriedolaeth yn gweithredu Cynllun Arloesedd Felindre

 

7. Gwasanaeth Arloesedd Felindre

7.1 Crynodeb o Chwarteri 1 i 3

  • RITA - Lansiwyd RITA ar hafan gwefan Felindre ym mis Chwefror 2023, gyda metrigau defnydd a pherfformiad yn cael eu casglu i lywio gwaith datblygu pellach a pharatoi ar gyfer gwerthusiad yng ngham 3 y prosiect. Mae’r is-brosiect ‘pennau parablus’ hefyd wedi'i weithredu o fewn y platfform, gan ddarparu gwybodaeth i gleifion a'u teuluoedd am eu clinigwyr, sydd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Cyflwynwyd RITA yn rhithwir yn niwrnod cwrdd i ffwrdd tîm Ymchwil Canser y DU ym mis Hydref 2023, a oedd yn canolbwyntio ar ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial i gefnogi cleifion canser, a chynhadledd flynyddol Cymdeithas Nyrsio Oncoleg y DU (UKONS) ym mis Tachwedd 2023.
  • Wrth Eich Ochr (BYS) – Mewn cydweithrediad â Pfizer Oncology, nod BYS yw darparu cymhwysiad rheoli canser parod i gleifion Felindre a fydd yn cynnwys gwybodaeth leol am Ganolfan Ganser Felindre. Cyflwynwyd y cynnig i’r Bwrdd Rheoli Gweithredol ym mis Chwefror 2023 ac mae Asesiad o'r Effaith ar Ddiogelu Data wedi’i ddrafftio ynghyd â threfniadau cytundebol, ond mae’r ddau wedi’u gohirio nes bod statws Ap GIG Cymru wedi’i bennu.
  • Yn well, yn gyflymach, ynghynt - Cynhaliwyd digwyddiad arddangos hybrid yn Academi Ddelweddu Genedlaethol Cymru ym mis Mai 2023, gyda chynrychiolwyr o bob un o’r tair canolfan ganser yn cyflwyno eu gwaith ynghyd â chyfraniadau o Ganada a Chanolfan Clatterbridge. Roedd 50 o bobl yn bresennol yn gorfforol yn y digwyddiad a 15 yn bresennol ar-lein. Mae'r Tîm yn archwilio cyfleoedd posibl yn y dyfodol trwy raglen Hyrwyddo Radiotherapi Cymru.
  • Hybiau Cydlynu Arloesi Rhanbarthol (RICH) – Mae cyllid wedi’i sicrhau ar gyfer y cyfnod 2023/24 ac mae cyllid ychwanegol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau i gefnogi parhad gweithgareddau’r hybiau Cydlynu Arloesi Rhanbarthol.
  • Cynllun Gwobrwyo Arloesi - Mae cynllun gwobrwyo arloesi yn cael ei ddatblygu i gefnogi’r gwaith o adeiladu'r seilwaith arloesi ac i alluogi ac annog gweithgarwch arloesi ar draws yr Ymddiriedolaeth. Mae'r dogfennau cais wedi'u drafftio a'u cyflwyno i Elusen Felindre.
  • Prosiect Drôn Gwasanaeth Gwaed Cymru (GGC) - Yn dilyn ailsefydlu cyfarfodydd rheolaidd, cyflwynwyd cais cydweithredol ym mis Rhagfyr 2023 i Ymchwil ac Arloesi yn y DU (URKI), trwy gais Menter Ymchwil Busnesau Bach (SBRI). Nod y cais yw gwella cadernid y gadwyn gyflenwi feddygol gan ddefnyddio dronau, ac ym mis Chwefror 2024, cafodd Tîm y prosiect gadarnhad bod y cais yn llwyddiannus. 
  • Cyllid Cyfalaf Gwaed Cymru - Cais llwyddiannus am gyllid cyfalaf ar gyfer offer labordy arloesol – a ddyfarnwyd gan Dîm Economi Llywodraeth Cymru – ar gyfer y Prosiect â’r teitl: 'Sefydlu Technoleg Microhylifol yng Ngwasanaeth Gwaed Cymru'.

7.2 RITA

Mae Cam 3 y datblygiad yn mynd rhagddo gyda'r nod o gynyddu ymgysylltiad cyn cynnal gwerthusiad yn y chwarter nesaf. Mae tîm y prosiect yn ystyried sut y gall RITA gefnogi'r llinell gymorth driniaeth wrth lywio / cyfeirio / ateb y cwestiynau a gânt y tu allan i gwmpas y gwasanaeth llinell gymorth triniaeth.

Mae IBM Cloud Functions yn dod i ben ar 30 Mehefin 2024, a bydd hyn yn effeithio ar y gwasanaeth cyfieithu Cymraeg mewnol; mae’r tîm yn gweithio’n agos gydag IBM i atal amhariad ar y gwasanaeth.  

Mae’r Tîm Arloesi yn gweithio gydag Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW), Prifysgol Abertawe, a Sefydliad Gwybodaeth Ddigidol Cymru (WIDI) i werthuso sgwrsfot RITA a llywio camau nesaf y prosiect.

7.3 ByYourSide - Lleoleiddio Ap Canser Byd-eang Pfizer i Gleifion

Mae'r tîm Arloesi yn cysylltu â Thîm Digidol yr Ymddiriedolaeth a chyda DHCW mewn perthynas â'r amserlenni ar gyfer Ap Cleifion y GIG, i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y statws datblygu, yr ymarferoldeb, a'r amserlen ar gyfer lansio i sicrhau nad oes unrhyw ddyblygu rhwng cymwysiadau. Mae Asesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data (DPIA) wedi’i ddrafftio ynghyd â threfniadau cytundebol, ond mae’r ddau wedi’u gohirio nes bod statws Ap GIG Cymru wedi’i bennu.

7.4 Meddalwedd Olrhain / Archwilio Asedau

Mae'r tîm Arloesi wedi cymryd rhan mewn trafodaethau cynnar gyda'r tîm gwasanaethau gweithredol i drafod prosiect posibl yn ymwneud ag olrhain asedau / meddalwedd archwilio ar gyfer dyfeisiau meddygol, a gafodd ei gyfyngu i ddechrau i gynllun peilot bach a oedd yn defnyddio cadeiriau olwyn fel astudiaeth ddichonoldeb.

Mae'r prosiect hwn bellach wedi'i archifo; nododd gwasanaethau digidol Canolfan Ganser Felindre (CGF) rwystrau posibl i’r gwaith o roi’r feddalwedd hon ar waith oherwydd seilwaith presennol CGF. Fodd bynnag, mae'r dechnoleg hon yn dal i gael ei harchwilio gan Dîm Digidol yr Ymddiriedolaeth gyda'r bwriad o'i defnyddio yng Nghanolfan Ganser newydd Felindre (CGFn). 

7.5 Llwyfan Arloesi (cipio syniadau piblinell)

Mae SimplyDo yn blatfform a fydd yn galluogi’r tîm arloesi i gasglu, blaenoriaethu a gweithredu syniadau piblinell mewn platfform canolog. Mae cwmpas o dan y trefniadau contract a thrwyddedu presennol gyda GGC a darparwr y platfform SimplyDo, (mae GGC yn treialu'r llwyfan ar gyfer y prosiect gwella 5 munud). Mae gofynion llywodraethu wedi'u gwirio ac mae trefniadau ar gyfer y gwaith datblygu arloesedd o fewn y cwmpas ac nid oes angen unrhyw gamau pellach.

7.6 Ap Radiotherapi pelfig

Mae'r Radiograffydd Daniel Burr wedi cysylltu â'r tîm arloesi i ddatblygu cymhwysiad a fyddai'n cynorthwyo cleifion radiotherapi pelfig gydag amseriad cymeriant dŵr ac enemas. Mae'r prosiect hwn wedi'i ohirio ar hyn o bryd wrth i’r tîm gael data sylfaenol ar faint o apwyntiadau radiotherapi sy'n cael eu methu oherwydd y mater hwn a'r costau sy'n gysylltiedig â'r apwyntiadau  a gollwyd. Ceisir rhagor o wybodaeth i gasglu tystiolaeth sylfaenol / gofynion angen ar gyfer adolygiad.

7.7 Yn well, yn gyflymach, ynghynt

Cyflwynwyd canlyniadau’r prosiect gan Dr Mick Button a’r tîm yn nigwyddiad Rhaglen Arloesi Gofal wedi’i Gynllunio Comisiwn Bevan a gynhaliwyd yn Abertawe ar 20 Medi 2023. Fodd bynnag, bu rhwystrau i weithredu'r gwasanaeth fel Busnes Fel Arfer (BFA) ar draws y tri sefydliad. O fewn CGF, nid oes unrhyw gynlluniau gweithredol gan adrannau Radiotherapi i ddatblygu cyfleoedd ymarfer uwch ar gyfer radiograffwyr sy'n ymwneud â radiotherapi lliniarol. Bydd Radiotherapi Lliniarol yn parhau i gael ei ddarparu drwy fodel dan arweiniad meddygol, gan gynnwys y Ganolfan Loeren Radiotherapi. Mae'r Tîm yn archwilio cyfleoedd posibl yn y dyfodol trwy raglen Hyrwyddo Radiotherapi Cymru.

7.8 Trin Canser Aciwt yn y Cartref (TCAC)

Ceisiodd prosiect TCAC ddatblygu gwasanaeth newydd sy’n defnyddio ymweliadau cartref i reoli cleifion oncoleg acíwt sy’n cael cyfnod acíwt, mewn cydweithrediad â Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro (BIPCF). Nid yw BIPCF mewn sefyllfa i fwrw ymlaen â’r prosiect ar hyn o bryd, a bydd y prosiect yn cael ei archifo.

7.9 Hybiau Cydlynu Arloesedd Rhanbarthol (RICH)

Mae cyllid wedi’i sicrhau ar gyfer y cyfnod 2023/24 ac mae cyllid ychwanegol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau i gefnogi parhad gweithgareddau’r hybiau Cydlynu Arloesi Rhanbarthol (RIC). Yn dilyn cyfarfod â swyddogion Llywodraeth Cymru, cymeradwywyd y cynllun gweithgarwch Cydlynu Arloesi Rhanbarthol 2 flynedd, ac mae diweddariadau chwarterol wedi’u rhoi i Lywodraeth Cymru wedi hynny.

7.10 Cynllun gwobrau arloesi

Mae cynllun gwobrwyo arloesi yn cael ei ddatblygu i gefnogi’r gwaith o adeiladu'r seilwaith arloesi ac i alluogi ac annog gweithgarwch arloesi ar draws yr Ymddiriedolaeth. Mae'r dogfennau cais yn cael eu drafftio a byddant yn cael eu rhannu i'w cymeradwyo cyn cael eu cyflwyno i Elusen Felindre.

7.11 Prosiect Drôn Gwasanaeth Gwaed Cymru (GGC).

Pwrpas yr astudiaeth sylfaen hon yw:

  • Canfod y potensial ar gyfer gwasanaethau cyflenwi sy’n seiliedig ar dronau i gefnogi GIG Cymru, gan gynnwys achosion defnydd penodol ar gyfer Gwasanaeth Gwaed Cymru.
  • Profi'r rhagosodiad sylfaenol gyda'r Awdurdod Hedfan Sifil.
  • Nodi’r map trywydd a’r tasgau hollbwysig a fydd yn ein galluogi i wireddu’r weledigaeth dymor hwy.

Y sefydliadau sy’n rhan o’r bartneriaeth hon yw Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST), Gwasanaeth Gwaed Cymru (GGC), Awyrofod Eryri (SAC) SLiNKTECH Ltd. (SLiNK), Ambiwlans Awyr Cymru a Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys Cymru (EMRTS), y cyfeirir atynt gyda'i gilydd fel Partneriaeth Arloesi Dronau Iechyd Cymru.

Yn dilyn ailsefydlu cyfarfodydd rheolaidd, cyflwynwyd cais cydweithredol ym mis Rhagfyr 2023 i Ymchwil ac Arloesi yn y DU (URKI), drwy gais Menter Ymchwil Busnesau Bach (SBRI). Nod y cais yw gwella cadernid y gadwyn gyflenwi feddygol gan ddefnyddio dronau. Byddai’r prosiect yn ceisio mynd i’r afael â’r heriau integreiddio masnachol a busnes o ran defnyddio dronau i wella cadernid cadwyn gyflenwi GIG Cymru.

7.12 Themâu gweithgaredd arloesi

Themâu Gweithgaredd Arloesedd (1-5) – Ymdrech â ffocws i ddatblygu themâu gweithgarwch fel rhan o'r seilwaith arloesi

7.12.1 Thema 1: Datblygu ecosystem arloesi gydweithredol

Mae ein gweledigaeth yn cynnwys adeiladu ecosystem arloesi gydweithredol lle mae staff, darparwyr gofal iechyd, ymchwilwyr, y byd academaidd, diwydiant, cleifion, rhoddwyr, a phartneriaid cymunedol yn gweithio gyda'i gilydd yn ddi-dor i ysgogi arloesedd, mynd i'r afael ag amrywiaethau ym maes gofal iechyd, a chreu cymunedau iachach. Rydym yn adeiladu ecosystem sy'n cefnogi ac yn cryfhau galluogrwydd a gallu'r Ymddiriedolaeth i arloesi. Mae hyn yn cynnwys y seilwaith mewnol ac allanol ac yn benodol datblygu Canolfan Gydweithredol ar gyfer Dysgu ac Arloesi (CGDA). Nod y CGDA yw gwella gofal canser y system gyfan trwy gyflymu ymchwil canser, addysg arloesi a chyfranogiad ar y cyd. Darparu gofod rhithwir a chorfforol i annog creadigrwydd, cydweithredu, a chyfnewid gwybodaeth gydag effaith ymarferol a chadarnhaol ar ofal canser i bawb sy'n ymwneud ag ef.

Mae gweithgarwch yn y cyfnod yn cynnwys:

  • Datblygu glasbrint ar gyfer gweithio gyda'r diwydiant yn datblygu cynhyrchion ar gyfer y farchnad er budd cleifion a rhoddwyr a gwella effeithlonrwydd adnoddau. Mae hyn mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru. Sefydlwyd prosiect gyda Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a MediWales i hwyluso ymarfer ymgysylltu â staff, Diwydiant a phartneriaid i ddatblygu glasbrint ar gyfer cydweithio.

7.12.2 Thema 2: Datblygu diwylliant o arloesi

Rydym yn ymroddedig i feithrin diwylliant lle mae pob aelod o'n sefydliad yn cael ei rymuso, ei hysbysu, a'i gefnogi i arloesi, arbrofi, a chofleidio newid, gan wneud arloesi yn ffordd o fyw yn hytrach na digwyddiad ynysig.

  • Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu platfform / cipio piblinell ar gyfer syniadau a phrosiectau arloesi. Aeth staff i gyfarfod gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i adolygu eu platfform arloesi. 
  • Cynhaliwyd cyfarfodydd mewnol ym mis Ionawr a mis Chwefror i ystyried opsiynau a symud y prosiect yn ei flaen ar lefel Ymddiriedolaeth, gan weithio ar y cyd â thimau arloesi a gwella ar draws y Gwasanaeth Gwaed a’r Ganolfan Ganser.
  • Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf gyda darparwr y platfform Simply Do ym mis Mawrth i nodi cwmpas y prosiect.

7.12.3 Thema 3: Cyfathrebu a chydnabyddiaeth glir

Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno cyfathrebiadau clir i gefnogi’r gwaith o feithrin galluogrwydd a gallu ar gyfer ymchwil ac Arloesi yn yr Ymddiriedolaeth. Cydnabod ymdrechion ein staff, cleifion, rhoddwyr, cymuned, cyllidwyr, partneriaid a rhanddeiliaid; ac atgyfnerthu diwylliant arloesi ein Hymddiriedolaeth.

  • Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddiweddaru a datblygu tudalennau arloesi yr Ymddiriedolaeth ar y we ac ar y fewnrwyd, i gynyddu/gwella cyfathrebiadau a rennir gyda phartneriaid ar draws yr Ymddiriedolaeth ac yn allanol. Mae deunyddiau cyfathrebu wedi'u datblygu a fydd hefyd yn cefnogi'r thema hon. Mae'r gwaith hwn yn parhau, ac mae trefniadau'n cael eu hadolygu i gefnogi anghenion cyfieithu'r wefan a llenyddiaeth ategol arall.
  • Mae cyfathrebiadau'r Ymddiriedolaeth wedi'u datblygu i annog ceisiadau i Wobrau Moondance. Sefydlwyd panel i adolygu a chefnogi ceisiadau. 
  • Mae gwaith wedi'i gychwyn i gyfleu naratif clir a chymhellol sy'n esbonio pwysigrwydd arloesi wrth wella gofal, diagnosis, triniaeth, a chanlyniadau ymchwil canser. Mae cyfarfodydd prosiect wedi'u cychwyn i adolygu gwaith  cyfathrebu, ymgysylltu â chleifion a staff ar gyfer arloesi.
  • Mae gwaith yn mynd rhagddo i archwilio'r cysyniad o Siarter ar gyfer arloesi a chydweithio. Mae'r gwaith hwn yn cydredeg â gwaith bord gron y Gweinidogion a gynhaliwyd yn gynnar yn y flwyddyn.

7.12.4 Thema 4: Rhagoriaeth sy'n canolbwyntio ar y claf a'r rhoddwr

Ein nod yw ailddiffinio gofal sy'n canolbwyntio ar gleifion a rhoddwyr, gan roi cleifion a rhoddwyr wrth galon pob penderfyniad, gan sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed, a theilwra profiadau gofal iechyd i'w hanghenion a'u dewisiadau unigryw.

  • Mae cynlluniau ar y gweill i adeiladu ar y gwaith ymgysylltu â chleifion o gyfnod cynnar datblygiad sgwrsfot RITA. Bydd clipiau cyfryngau yn cael eu lanlwytho i'r wefan a'r fewnrwyd i adlewyrchu adborth cleifion a'u pryderon ynghylch ymweld â'r ganolfan ganser am y tro cyntaf.
  • Mae gwaith ymgysylltu yn mynd rhagddo gyda thimau profiad cleifion / rhoddwyr. Bydd ein gweithgarwch arloesi’n cael ei lywio gan gleifion a rhoddwyr, gan sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed, a theilwra profiadau a mentrau gofal iechyd i’w hanghenion a’u dewisiadau unigryw.
  • Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu'r ffrwd waith i adolygu a dadansoddi adborth ymgysylltu cleifion/rhoddwyr yn benodol mewn perthynas â sgwrsfot RITA, ffrydiau gwaith eraill i'w nodi trwy gyfarfodydd prosiect rheolaidd.
  • Rydym yn parhau i gydweithio â thimau ymgysylltu’r Ymddiriedolaeth i ddatblygu amgylchedd gwell ar gyfer cynrychiolwyr cleifion, un sy’n darparu profiad mwy boddhaus o ran yr amser a’r ymrwymiad a ddarperir. Mae'r gwaith hwn yn cael ei godi fel rhan o'r cyfarfodydd ymgysylltu.

7.12.5 Thema 5: Arweinyddiaeth a modelu rôl

Fel Sefydliad Penodedig Prifysgol – mae Uwch Arweinwyr wedi ymrwymo i noddi mentrau allweddol a phrosiectau newydd a sicrhau bod cyfleoedd Ymchwil, Datblygu, Dysgu ac Addysg yn cael eu galluogi a’u hadlewyrchu mewn rolau a chyfrifoldebau swyddi.

  • Mae arweinwyr ac uwch reolwyr wedi cael eu hannog i gymryd rhan weithredol a hyrwyddo mentrau a chyfleoedd arloesi.  Er mwyn symud y ffrwd waith hon yn ei blaen, mae cynllun grantiau bach yn cael ei ddatblygu i gefnogi'r thema hon ac i adeiladu'r seilwaith ar gyfer arloesi.  Mae hwn wedi'i gyflwyno i Fwrdd Elusen Felindre i'w arfarnu.
  • Yn ystod y cyfnod mae’r Tîm Arloesi yn parhau i fynd i nifer o ddigwyddiadau i hyrwyddo a chefnogi gweithgarwch arloesi, mynychu, ac amserlennu cyfarfodydd un-i-un gyda staff i godi ymwybyddiaeth o weithgarwch arloesi, ac mae wedi cefnogi datblygiad syniadau a ffyrdd arloesol o weithio, cyfeirio at weithgareddau, ceisiadau am ddyfarniadau a chyllid

Themâu gweithgaredd arloesi (6-10)

I gefnogi’r gwaith o ymgysylltu â’r diwydiant, mae Tîm prosiect yn cael ei dynnu ynghyd gan gynnwys yr Hwb Gwyddorau Bywyd, MediWales a Thîm Arloesi Felindre.  Gweithio ar y cyd i ddatblygu dull o weithio gyda Diwydiant i nodi atebion a all gefnogi 'gwneud pethau'n wahanol' i sicrhau canlyniadau gwell.  Bydd y ffrwd waith hon yn atgyfnerthu gweithgarwch ar gyfer themâu 6-8.

7.12.6 Thema 6: Hybu'r Gwaith o Integreiddio technoleg 

Ein hymagwedd at harneisio pŵer technolegau blaengar, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial, telefeddygaeth, dyfeisiau gwisgadwy, a dadansoddeg data, i wneud y gorau o driniaeth, llywio diagnosteg a gofal ataliol, gan wneud gwasanaethau'n fwy hygyrch ac effeithlon. Bydd y gwaith ymgysylltu â Phartneriaid yn llywio sut y gallwn ddatblygu ein hymagwedd ar y thema hon.

7.12.7 Thema 7: Mewnwelediadau a yrrir gan ddata

Defnyddio data fel ased strategol, gan ei ddefnyddio i lywio ein gweithgareddau ac ymdrechion arloesi. Penodwyd arweinydd Mewnwelediadau Digidol ar gyfer yr Ymddiriedolaeth, ac mae’n gweithio ar y cyd i archwilio cyfleoedd cydweithio. Gweithio gydag arweinydd Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth i lywio a blaenoriaethu ffrydiau gwaith ar gyfer arloesi.

7.12.8 Thema 8: Tegwch a chynhwysiant iechyd

Mae ein hymrwymiad yn ymestyn i sicrhau tegwch a chynhwysiant iechyd i bawb gyda ffocws ar fynd i'r afael â gwahaniaethau mewn mynediad a chanlyniadau gofal iechyd. Bydd ein datblygiadau arloesol yn ymdrechu i ddileu rhwystrau i ofal a hyrwyddo tegwch iechyd ac rydym yn gweithio'n agos gyda Thimau ymgysylltu â chleifion ar ein ffrydiau gwaith arloesi. 

7.12.9 Thema 9: Grymuso ac ymreolaeth

Grymuso gweithwyr trwy roi'r ymreolaeth iddynt gynnig a gweithredu syniadau arloesol o fewn eu meysydd arbenigedd. Mae'r thema hon yn cael ei datblygu yn y lle cyntaf trwy (thema 2), drwy adeiladu platfform i gasglu syniadau piblinell o’r tu mewn i’r sefydliad. Yn y cyfamser, mae blwch post generig wedi'i sefydlu i gael syniadau arloesol ac mae panel amlddisgyblaethol arloesol yn cael ei ffurfio i asesu syniadau piblinell.

7.12.10 Thema 10: Hyfforddiant a datblygu

Mae hyfforddiant arloesi yn allweddol i feithrin galluogrwydd a gallu'r seilwaith arloesi ar gyfer yr Ymddiriedolaeth.  Bydd yn rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r meddylfryd sydd eu hangen ar staff i ysgogi arloesi, gwella gofal cleifion a rhoddwyr, ac addasu ein darpariaeth a’n hymagweddau at y dirwedd arloesi newidiol. Mae’n helpu i greu diwylliant lle mae arloesi nid yn unig yn cael ei annog, ond hefyd yn cael ei weithredu’n effeithiol er budd ein cleifion a’n rhoddwyr. 

  • Mae’r ffrwd waith hon yn barhaus ac yn gydweithrediad â’r Arweinwyr Arloesi ledled Cymru, ac mae’n darparu deunydd astudiaeth achos ar gyfer datblygu e-fodiwl ar gyfer Felindre ac yn ehangach ar gyfer GIG Cymru.
  • Mae astudiaethau achos arloesi o bob rhan o GIG Cymru yn cael eu rhoi ar y rhestr fer i gael eu ffilmio. Bydd rhai enghreifftiau yn cael eu defnyddio ar gyfer y modiwl e-ddysgu a bydd eraill yn cael eu cadw ar gyfer datblygu adnoddau yn y dyfodol.
  • Yn ogystal, mae hyfforddiant ymsefydlu yn cael ei ddatblygu drwy brosiect cydweithredol rhwng Ymddiriedolaeth GIG Felindre, Iechyd a Gofal Digidol Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Pan fydd y pecyn hyfforddi ar gyfer arloesi wedi’i gwblhau, bydd yn cynnwys yr e-fodiwl, hyfforddiant ymsefydlu a phecyn sgyrsiau blwch offer i gefnogi deunyddiau dysgu fel y gellir darparu dull cyfannol o hyfforddiant arloesi ar sail yr Ymddiriedolaeth gyfan.